Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deheuol

deheuol

Mae Meleri Wyn James hefyd wedi gwneud defnydd da o'i chymeriadau deheuol yn cwrdd â rhai o'r gogledd.

Rhedai lôn ar y crib y clawdd deheuol, tu ôl i dai Bryn Road, gyda gerddi cefn High Street ar gopa'r clawdd i'r gogledd.

Cynhwysai nifer o gerddi rhyfel, yn gymysgedd o rai dwys grefyddol, rhai hiraethus-deheuol, ac un ffyrnig o feirniadol.

Mae'r ffaith fod pobl gogledd Fflorens wedi mynd mor bell â gwerthu dwr yfed i'w cyd-ddinasyddion ym mharthau deheuol y ddinas (oedd heb ddwr o gwbl), a ffeithiau tebyg, wedi gyrru'r bechgyn i feddwl yn isel am drigolion y wlad hon, ac i edrych arnynt fel pobl sebonllyd, gynffonnaidd a diegwyddor.

Cynnwys y rhan hon hefyd ddarn helaeth o hen gomin y Goron hyd at bigyn deheuol y plwyf yng nghanol Llyn Eiddwen.

Mae'n anodd credu'r peth, ond ychydig dros ganrif yn ôl roedd porthladdoedd Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gartref i gymaint o longau â holl borthladdoedd arfordir deheuol Lloegr.

Darn deheuol o anticlin yn y Garreg Galch yw Pen Pyrod (neu Worms Head) ac mae echelin yr anticlin i'w weld pan mae'r llanw allan ar y darn tir rhwng Pen Pyrod a'r tir mawr.

Cymharwyd yr Engadin Uchaf weithiau a Sweden - Sweden tan haul deheuol a than goron uchel o fynyddoedd ia llachar, miniog - cadwyn Bernina, yn anad yr un.

Ar ben deheuol y bont fawr roedd dau dyn yn yfed te mewn bocs arwyddo.