Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deialog

deialog

Fe ymatebodd - - drwy ddweud fod TAC wedi rhoi cyfrifoldeb hyfforddi i Cyfle ac ei bod hi'n teimlo fod y cyfeiriad yn gywir, y deialog yn gyson ac ail hyfforddi ar gyfer technoleg newydd yn ran o'r polisi hefyd.

Yn y deialog ddychmygol uchod sonnir am bensaer yn nheulu fy mam.

Dim deialog.

Defnyddia arddull fywiog a deialog fyrlymus i adrodd yr hanes gan fodloni ar awgrym gynnil yn unig ar adegau.

Er mwyn hybu democratiaeth gynrychioladol rhaid i'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o gynnal deialog real a pharhaus gyda mudiadau pwyso sydd am lobio aelodau'r Cynulliad a gyda'r sector gwirfoddol.

Mae'r pwyslais trwy'r Pecyn HMS ar yr adran fel uned weithredol gan y teimlir fod deialog ddenamig yn bosibl yn y sefyllfa hon gyda phob aelod yn llwyr ymwybodol o'r hyn a ddysgir, o'r cyfyngiadau a allai fod yn yr ysgol o safbwynt lle ac adnoddau, o'r polisi iaith ac unrhyw ystyriaeth arall.

Mae'r ddrama agos i ddau can tudalen o brint mân, a'r deialog yn bennaf yn gwpledi odledig, ond torrir ar draws y cwpledi gan ganeuon a genir gan y cythreuliaid wrth iddynt ddawnsio o gwmpas Beelzebub.

Maen nhw'n dal i gredu y gellir defnyddio strwythur traddodiadol y stori, gwead o ddisgrifiad a sylwebaeth a deialog, strwythur sy'n perthyn i fyd gwahanol iawn, i ddarlunio diffyg strwythur a diffyg cyfeiriad y byd sydd ohoni.

Gwelir rhyw gymaint o ddylanwad Lladin a Groeg yng ngwaith rhai o awduron rhyddiaith y Dadeni Dysg: meddylier, er enghraifft, am ragymadrodd Gruffudd Robert i'w Ramadeg Cymraeg, lle y mae'r awdur yn amlwg yn efelychu dulliau Plato a Cicero o ysgrifennu deialog.

Wrth 'go iawn' fe olygid nofelydd a allai hoelio sylw cynulleidfa, trwy adrodd stori afaelgar, llunio deialog fyrlymus a chreu cymeriadau amrywiol 'o gig-a-gwaed', fel y dywedir - nofelydd a oedd yn gyforiog o'r rhinweddau henffasiwn, os mynnir.

Byddai'r fforymau yma yn cynnwys cynrychiolaeth eang ac amrywiol o'r sector statudol, gwirfoddol ac o'r gymuned er mwyn sicrhau deialog deinamig rhwng aelodau'r Cynulliad â phobl cymunedau Cymru yn ôl eu profiad o ddydd i ddydd yng Nghymru.