Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deil

deil

Amcangyfrifwyd bod hanner miliwn o fenywod y flwyddyn yn dioddef, ond deil y rhan fwyaf ohonynt yn debycach o geisio cymorth o ffynonellau eraill megis Cymorth i Ferched, cyfreithwyr, meddygon teulu ac ati.

Deil y Deon Church na wnaeth codi cofeb y merthyron fawr o wahaniaeth iddo ymledu yn Rhydychen ac yn y wlad oddi allan.

Etyb Iorwerth gan wrthgyhuddo: deil fod Sion yn torri gwyliau (yr hyn nis gwnai ef), ei fod yn gelwyddog ac yn canu'n unig er tal: 'Ni thry'r min eithr er mwnai'.

'Mae arna i ofn bod hi am fwrw glaw.' 'Gobeithio y deil hi am ryw awr neu ddwy, beth bynnag,' meddai Gwyn.

Er ei fychander, mae ef yn gefnwr rhagorol ar wahân i'w gicio - deil y ciciau uchel yn ddi-feth, a rhed yn gyflym a threiddgar pan fydd yn gwrthymosod.

A thra deil i chwilio fe fydd ysbryd yn tarfu ar bawb sy'n byw ym Mhlas Madyn.

Y mae ei gamgymeriadau, meddai, 'yn difwyno llyfr hanes sydd, mewn cyfeiriadau eraill, yn gampus.' Y mae David Powel yntau yn cydnabod bod peth sail i'r amheuon ynghylch bodolaeth Arthur, un o gonglfeini'r hanes Brytanaidd, yn ogymaint a'i fod wedi'i gymysgu a 'ffug-chwedlau' a 'phroffwydoliaethau ynfyd Myrddin', ond eto i gyd, deil yn gadarn ei gred yng ngwirionedd sylfaenol yr hanes: 'y mae'n glir nid yn unig wrth y llu hen gofebau sydd wedi cael eu henw oddi wrth Arthur, ond hefyd wrth yr hanesion Sgotaidd a Sacsonaidd ac ysgrifeniadau'r mwyaf dysgedig ymhlith amddiffynwyr yr hanes hwn, fod yr Arthur hwnnw wedi bod yn frenin ar Brydain, yn ddyn amlwg ei glod mewn rhyfel, ac iddo'n fynych fod yn fuddugoliaethus ar ei elynion trwy ei gampau tra rhagorol'.