Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deiliaid

deiliaid

Ar ôl y gêm arall yn rownd yr wyth ola neithiwr, mae gan Galatasaray fantais o 3 - 2 dros y deiliaid Real Madrid.

Fel yn yr ardaloedd diwydiannol, roedd y perchnogion tiriog yn yr ardaloedd gwledig fel petaent yn anymwybodol o ddiffygion arswydus eu deiliaid.

Yn hytrach, cwmpasai holl oblygiadau perchtyaeth yn yr union ffordd y bu i lys y brenin daenu ei warchodaeth dros holl ddeiliaid y deyrnas ac amddiffyn eu buddiannau gorau, sef sicrhau heddwch a threfn a fyddai'n hybu cynnydd a golud gwlad ac yn clymu'r deiliaid hynny'n fwy ffyddlon i'r frenhiniaeth.

Yr eilydd Michael Blackwood rwydodd y drydedd wedi 64 munud, a hynny efo'i gyffyrddiad cynta yn y gêm, a roedd y deiliaid gam yn nes at rownd derfynol arall yn y Cwpan Cenedlaethol.

Un o amcanion pennaf llywodrathau'r ganrif oedd sicrhau unffurfiaeth ymhlith deiliaid y wlad - unffurfiaeth mewn crefydd, iaith a chyfraith.

Bernid mai'r tad a ddiogelai les ei deulu mewn cyfnod pan na cheid gwladwriaeth oleuedig ddemocrataidd y deuai i'w rhan ofalu am fuddiannau materol ei deiliaid fel y gwneir yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Ar ôl dod mor agos at gyrraedd yr wyth ola y tymor diwetha, bydd Llanelli yn yr un grwp a'r deiliaid - Caerlyr - y tymor nesa.

Aroglau môr a gwymon yn gryf, a'r deiliaid oedd yno yn uchel eu cloch.

Buont hwy wrthi'n brysur yn cyfieithu'r Beibl i iaith Provence ac iaith Fflandrys ar gyfer eu deiliaid.

Yn Nhwrci yn ôl y traddodiad Ottomanaidd gadawai'r Llywodraeth i'w deiliaid Cristnogol eu rheoli eu hunain ym maes crefydd ac addysg.