Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deimlad

deimlad

Ers dau neu dri o berfformiadau bellach rwyf wedi cael rhyw hen deimlad annifyr ym mêr fy esgyrn fod cwmni Bara Caws wedi chwythu'u plwc.

Fe aeth Richard Owen i weddio fel y medrai o dan y dwyfol deimlad, ac yn ei ddagrau.

"Mae e wedi ei anfon i Dy'r Arglwyddi nawr, ond mae gen i deimlad y bydd yn cael ei anfon nôl i Dy'r Cyffredin.

Mae gennyf ryw deimlad fod y sawl a oedd am droi ei gefn ar galedwaith y pwll glo a chlawstroffobia'r ffas yn y cyfnod gorthrymus yma yn hanes y glofeydd yn mynd naill ai i'r weinidogaeth neu'n mynd yn dramp.

.?" Yn rhyfedd iawn, ar ôl gweld rhyw bump cês, daeth rhyw deimlad annisgwyl o ddifaterwch, ac yn y pen draw, syrffed, drosof.

Mae'n deimlad da.

Dyma faes y mae yn rhaid i ni gael cyd-lyniad fel ysgolion neu fe welwn wendidau a drwg deimlad yn datblygu.

Wrth roi help llaw i ddadlwytho un o'r hofrenyddion a oedd yn cludo cymorth i'r mynyddoedd, cefais deimlad annifyr mai dyna o bosib' fyddai fy nghyfraniad mwya' gwerthfawr i dynged y Cwrdiaid.

"Mae gin i deimlad ein bod ni'n mynd i gal amser gwych efo'n gilydd"

Un o'r themau ydw i'n darllen i fewn i'ch gwaith chi yw rhyw deimlad fod technoleg, fel y dywedsoch chi rwan, tractors ac yn y blaen, yn rwystr i ddatblygiad diwylliannol a'r ffordd yna o fyw.

Hyd yn oed os yw'r syniad poblogaidd fod pedwar o bob pump o'r Cymry yn Anghydffurfwyr erbyn ail hanner y ganrif ddiwethaf yn gorsymleiddio'r sefyllfa, does dim amheuaeth nad oedd yna deimlad cryf ymysg y mwyafrif fod grym Eglwys Loegr yn rhywbeth y dylid ei wrthwynebu.

'Mae Graham Henry wedi dweud mai dyma'r ffordd ymlaen a dyna deimlad yr Undeb, hefyd,' meddai.

Ar un wedd y mae hon yn rhoi camargraff inni, am ei bod yn llawer mwy personol na chrynswth gwaith y clerwr, ond eto i gyd y mae'n gwbl nodweddiadol o'i waith o ran ei hanfod, am fod tynerwch dynol o fewn y teulu yn wedd ar fywyd a bwysleisir yn arbennig yn ei gerddi mawl, ac am fod ei arddull seml ar ei mwyaf effeithiol yma yn cyfleu argraff o deimlad dwfn a diffuant.

Ti'n gofyn i fi beth o'n i wedi'i ddisgwyl: efallai rhyw deimlad.

onid yw'n deimlad anghysurus i gymro cymraeg goleddu'r fath agwedd wrthnysig at yr hyn y byddai bobi jones ac eraill yn ei ystyried yn asgwrn cefn ein traddodiad llenyddol?

Roedd yna deimlad gyda ni yn y gwesty cyn y gêm fod yna hyder yn y bechgyn.

Hawdd yw teimlo ei fod mewn cariad â hi; minnau'n hapus o dan lewyrch ei deimlad.

"Mae'n deimlad cymysg iawn achos mae rhywun wedi bod yma mor hir - mae cymaint o ffrindiau yma, cymaint o atgofion." Er ei fod yn cyfadde' iddo fod yn anfodlon gyda'i sefyllfa waith, dyw natur ei gytundeb gyda'r BBC ddim yn caniata/ u iddo ddatgelu rhagor.

Nid oedd unrhyw ddrwg deimlad rhyngom neu fe fyddwn wedi cael y veto wrth geisio symud i Rif Chwech gan ei fod yntau yn byw yno hefyd.

Yn hen borthladd llewyrchus y dyddiau a fu, roedd mwy o deimlad prifddinas ryngwladol a rhythmau masnachol i'w clywed yn rhygnu'r lori%au a llusgo swnllyd y trêns.

Mae hyn yn dechrau achosi ychydig o ddrwg deimlad, gyda rhai o'r ffoaduriaid yn teimlo fod ganddynt hwy fwy o hawl drosom na'r lleill, mae'n anodd iawn ceisio cadw pawb yn hapus.

Bydden nhw'n disgyn o'r brif adran ddiwedd y tymor hwn, a tasai clwb o'r Alban yn cymryd eu lle nhw y tymor ar ôl nesa, fe fyddai yna deimlad - cyfiawn, o bosib - bod rygbi'r Alban yn cael ei hybu ar draul rygbi Cymru.

Dewch, mae eisiau ar yr achos, dewch o deimlad da bob un; Pam y byddwch yn segura yn y dafarn drwy eich oes, Gwario'r cyfan oll am gwrw, a diweddu 'ngeiriau croes?

Felly, a bod yn onest nid o gariad at yr iaith y dechreuais i ddysgu, ond o reidrwydd mewn ffordd, rhyw deimlad o fod yn Gymro yn gallu siarad a phobl.

Yn amlwg y mae o dan deimlad mawr.)

Ni fedrai gweision cyflog heb gyfalaf, heb fuddsoddiad mewn cymdeithas, fod ag unrhyw deimlad o ymrwymiad, tra tueddai cystadleuaeth y farchnad rydd i ostwng nifer y cyfalafwyr i rif llai a llai o ŵyr gor-gyfoethog.

Bob amser yr oedd e'n gwneud hyn roedd yn deimlad arbennig.

Roedd bod yn rhan o Lichterkette, pawb â'i gannwyll, yn deimlad da.

Yn aml, bydd pobl yn dilyn rhyw deimlad anelwig, rhyw 'hunch' wrth fetio ar geffyl.

(Tueddai Modryb i siarad Saesneg gydag acen snobs Lerpwl pan fyddai dan deimlad.) 'Ewch i fyny i tsiecio.'

Ar ôl y chwerthin gorweddodd yn ei hyd ar y llawr am oriau a llawes ei gôt dros ei lygaid, yn ddi-deimlad a chysglyd a diegni, fel pe byddai'n ddarn o bren.

Gwn fod y claf yn derbyn iachâd pan deimlaf wres mawr yn fy nghorff neu deimlad y gellir ei alw yn un trydanol.

`Ond yw hyn yn gyffrous.' `Tybed sut deimlad yw bod mewn hofrennydd?'

Dene'r bachgen ene yn mynd i'r college; ond mi fydde yn llawer ffitiach iddo aros gartre a helpio Miss Hughes os oes rhw deimlad ynddo.' ' ``Neiff Rhys Lewis ddim meddwl, tybed, am adael Miss Hughes yn yr helynt y mae hi ynddo yrŵan?