Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deimladwy

deimladwy

Yr oedd parti'r "Sospan Bach" ar fin torri i lawr yn yr adran deimladwy lle sonnir am y gath yn cripo Joni Bach.

Diffyg cydymdeimlad artistig yw hyn ac y mae'n codi o ddiffyg chwaeth artistig a philistiaeth naturiol gwerin ddi-gelfyddyd, di-deimladwy.

Mae Lewis yn un o feirdd mawl mwyaf y bymthegfed ganrif, fel y ceir gweld yn glir pan gyhoeddir ei holl waith o'r diwedd, ond y mae'n bennaf adnabyddus am un gerdd eithriadol, sef ei farwnad deimladwy i'w fab ei hun.

Canys ni fwriadwyd iddynt gael treialon fel hyn ac felly bydded i'r byd fod yn drugarog wrthynt ac yn deimladwy tuag atynt.

Eithr heno, wrth syllu i fyw llygad y fenyw-ddweud- ffortiwn hon ni chanfyddai Wil ddim oll namyn hen ddynes dlawd a diymadferth yn ceisio crafu ychydig o sylltau at ei gilydd drwy adrodd chwedlau ystrydebol a threuliedig wrth hen ferched anymwthgar ac wrth wŷr gweddw go deimladwy.

Roedd y driniaeth yn cynnwys arllwys yr eli ar ran go deimladwy o'r corff, a losgai am oriau wedyn!

Er hyn, allan o'r holl elfennau, y nudden sydd yn deimladwy ac yn cyflwyno bendith i ddiogelu yr ennyd sydd yn ddi-ofn am fod yr Hariers a holl awyrennau hynod y Sais yn sefyllian mewn gwyll unig, a pheiriannau peryglus yr Argies: y Super Etendards sydd yn cludo'r Exocets.

Dichon i ddyn fod yn denant hapus ond iddo beidio â bod o natur ry deimladwy.