Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

delio

delio

Pwrpasol am ei bod yn delio a phroblem holl-bresennol diweithdra mewn cyd-destun cwbl Gymreig.

Cytunai 83% y dylai pob corff cyhoeddus allu delio â phobl yn Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd.

Er y cyfeiriad yng Nghytundeb Belffast at ieithoedd eraill, i bob pwrpas siartr hybu'r Wyddeleg yw'r adran sy'n delio ag ieithoedd.

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

Rydach chi'n delio efo 'bydoedd', fel cyweirnodau mewn ffordd: fedrwch chi ddim dod â'r peth 'yma' i mewn i'r byd arbennig 'yma' achos tydi o ddim yn perthyn, ddim yn gweithio.

Yr adrannau yn y traethawd yn delio â'r Purdan a'r Offeren a gynhyrfodd dynion y mudiad a dychryn ei gefnogwyr fwyaf.

Pan mae rhywun ifanc yn cael profiad o ymddwyn yn ddrwg, ac yn dda maent yn dysgu delio efo'r ddau gyflwr.

Strategaeth yw hon sy'n delio â'r cyfnod hyd at gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Bob tro y mae mam yn cyrraedd i gael ei babl, mae'n cael ei chyflwyno i bob nyrs a staff fydd yn delio a hi.

ffordd orau o wneud hynny yw yng nghyswllt polisi cynhwysfawr a chydlynol ar gyfer delio â phroblemau cymdeithasol ac economaidd ardaloedd arbennig trwy amryw ddulliau sydd yn briodol i ansawdd amgylcheddol y Parciau.

schon bist du ein Verfassungsfeind, sy'n gymysgedd o'r gwir a'r dychmygol, yn delio â'r effaith y mae'r amheuon hyn yn eu cael ar y darpar athro, Kleff.

Er na fydd tribiwnlys Cymraeg na Chymreig, pan fydd tribiwnlys yn eistedd yng Nghymru ac yn delio ag achos Cymraeg, mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi iddo'r hawl i alw ar arbennigedd Cymraeg ac yn gosod dyletswydd arno i ystyried anghenion penodol plentyn o Gymro.

Does dim ond angen astudio teitl ambell i gân ar yr albym flaenorol, megis Un Gwydryn Bach a Cân y Crôl, i sylweddoli eu bod yn delio gyda bywyd myfyrwyr yn bennaf.

Gorfod delio â mân droseddwyr fel meddwon Nos Galan a'i hysgogodd i wneud cais i'w drosglwyddo i'r CID yn y lle cyntaf, ond dyma fe ar y bore gwyn hwn yn gorfod gwrando ar ragor o'u hanturiaethau.

Wedi'i noddi gan yr Undeb Ewropeaidd, mae Eurolang wedi ei leoli ym Mrwsel, a'i fwriad yw delio a meterion yn ymwneud a lleiafrfiedd diwylliannol Ewrop.

Mae'r Swyddog hefyd yn cydweithio gyda'r Grwp Dysgwyr, yn delio a materion sy'n ymwneud ag Eisteddfodau, Cyfarfod Cyffredinol ac ef sy'n llefaru ar ran Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Rydym ni'n delio gydag ochr dywyll cymdeithas.

Wrth gwrs, roedden ni'n delio â gwledydd a oedd yn wleidyddol sensitif a does gyda ni ddim ein llywodraeth ein hunain gyda'i buddiannau a'i buddsoddiadau ariannol ac ideolegol ar draws y byd i greu `lein' i ni ei dilyn.

Dynion drwg sy'n delio mewn cyffuriau ...

Dylai hyn achosi ychydig o bryder, gan mai ychydig o bobl fyddai'n gallu delio gyda merch fel Sheryl yn eu bywydau bob dydd.

Gwasanaethodd ar y pwyllgorau canlynol, Ffyrdd, Iechyd, Lles, Adeiladau, Cyllid ac Addysg Amaethyddol, ac yn enwedig y Pwyllgor Addysg a oedd yn delio â materion lle'r oedd Edwin yn neilltuol gymwys i roi arweiniad.

Ar hyn o bryd mae contractwyr Awdurdod Parc yr Arfordir yn delio âr broblem.

Ond yn ôl llygad-dystion, doedd dim amheuaeth fod Iran wedi delio'n gyflym ac yn effeithiol â'r mewnlifiad anferth.

Mewn gwirionedd, er eu bod yn real, mae'r ffigyrau y mae astroffisegwyr yn delio a hwy wrth drafod gofod ac Amser mor annirnad fawr nes mynd yn haniaethau.

Wel, cefnogaeth eang led-led Cymru ar ddefnyddio'r Gymraeg (71%). Cytundeb eang y dylai Cymraeg a Saesneg gael statws cyfartal yng Nghymru (75%). Cytundeb eang ar bwysigrwydd addysg Gymraeg (80%). Cytunai 83% y dylai pob corff cyhoeddus allu delio â phobl yn y ddwy iaith.

Mae e wedi cael ei godi yng nglwb Wimbledon a rwyn ame a fydd llawer o newid - y ffordd mae e'n delio gyda'r chwaraewyr, efallai.

Sut felly y mae delio â'n camgymeriadau?

Gwasanaeth gwybodaeth sy'n delio a materion yn ymwneud ag amrywiaeth ieithyddol yn Ewrop.

Mae'r portread yn gwneud tegwch, fel y dylai, ag arbenigrwydd ei waith fel pregethwr a gweinidog ac fe'i gwna'n amlwg iawn ein bod yn delio â dyn o dduwioldeb dwfn a didwyll.

Ac er fod nifer ohonyn nhw beth bynnag, yn delio ag agwedd wahanol at y gorffennol a'r presennol, gan eu bod yn ymdrin â'r Gwyddel yn hytrach na'r Cymro, eto'n tynnu tua'r diwedd mewn modd amlwg iawn.