Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

delwedd

delwedd

I Ankst, mae delwedd y cynnyrch a aiff i'r siopau yn bwysig; dyna pam y maent yn mynnu cael cloriau lliw llawn, yn y gred bod rhaid apelio at y llygad yn ogystal â'r glust.

Mae'r bobl ar fin y dŵr ar draeth tywod, tu fewn i ffrâm o greigiau serth ac awyr, yn cael eu cyfleu â phalet ysgafn, syml lle mae shiapiau'r lliwiau wedi eu cyfosod i greu delwedd.

Wrth edrych ar ei byd masnachol, mae rhywun yn gallu cael darlun o natur cymdeithas LA Awgryma clefyd y 'coupons' di-ri am rhyw sentan neu ddwy i ffwrdd oddi ar fwyd, nad yw bywyd yr Americanwr cyffredin yn fêl i gyd, er waetha' delwedd y teulu bach llewyrchus.

Dylid hybu defnyddio'r iaith Gymraeg drwy fagu hyder ymysg ei siaradwyr, drwy wella ei delwedd, a thrwy geisio newid arferion ieithyddol y rhai sy'n ei defnyddio.

Diflannodd bron y cyfan o'r allanolion a'r digwyddiadau ategol arferol- diflannodd pob cymeriad arall am y rhan orau o'r hanes ond Sam ei hun a'r bodau lledrithiol y bu gyda hwynt Llwythir a gyrrir yr hanes â delwedd ar ôl delwedd, llun ar ôl llun, dyfalu ar ôl dyfalu, fel petai Tegla am gyrraedd pinaclau y profiadau mwyaf amhosibl eu dweud ac yn methu â theimlo ei fod yn ymdrechu digon.

Gan fod delwedd yn rhan bwysig o raglenni o'r fath hoffwn nodi fod y set yn un effeithiol.

Delwedd a gonsuriwyd i gysuro gwerin ydoedd honno wrth gwrs, ond yr oedd y defnyddiau ar gyfer y ddelfryd yn bod mewn ffaith.

Yr ydym yn hynod obeithiol wrth edrych ymlaen at y dyfydol gyda tho ifanc braf iawn yn gweithio'n galed i newid delwedd draddodiadol cymdeithasau Cymreig yr Unol Daleithiau o fod yn glybiau y "Blue Hairs" yn llawn hen bobl sydd heb weld y Gymru gyfoes ac sydd ddim eisiau ei gweld.

Bydd golau'r gannwyll yn pasio trwy'r twll yn y cerdyn, trwy'r bowlen, gan ffurfio delwedd ar y cerdyn gwyn.

Cyfeiriodd sawl un at yr angen i annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ar bob cyfle, gan gyfeirio at bwysigrwydd marchnata'r iaith er mwyn newid agweddau, magu hyder siaradwyr Cymraeg, neu wella delwedd yr iaith.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Delwedd arall a berthynai i waith yr offeiriad, ond wedi ei gosod o ongl hollol wahanol, yw honno am Grist fel yr Archoffeiriad mawr a gyflawnodd ddefodau puredigaeth fel y daeth hi'n bosibl i bechaduriaid fynd i mewn i gysegr presenoldeb Duw, yn union fel y caniateid i'r Archoffeiriad fynd drwy len y cysegr i bresenoldeb Duw (Heb.

Gwyddai'r sefydliad sut i frathu trwy fygwth diarddel o swyddi am ddifetha delwedd cwmni neu sefydliad addysgol.

O safbwynt tuth y stori mae deallusrwydd cyflym ac ymwarediad uchelwrol y cymeriadau yn ennill anfesuradwy am ein bod yn cael gwared a'r pwysigogrwydd' trymaidd a hirwyntog sydd mor aml yn cymylu'n delwedd ni o'r cyfnod.

Mae hwn yn faes eang, ond heb wybod sut y mae'r cyhoedd (di-Gymraeg yn bennaf) yn "gweld" safle'r iaith heddiw, anodd yw cynllunio er mwyn newid delwedd yr iaith.

Symudwch y cerdyn nes i chwi cael delwedd glir o'r gannwyll.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Yn ogystal â hyn, gall delwedd ddwyieithog fod yn fantais y tu hwnt i Gymru, yn enwedig yn y marchnadoedd hynny lle mae delwedd unigryw yn hollbwysig, neu lle byddai dangos dealltwriaeth o amlieithrwydd yn eu huniaethu â'r farchnad gynhenid.

Fe blethir sawl delwedd bwysig er mwyn gwneud y fframwaith hwn.

Mae defnyddiau eraill yn gadael goleuni trwyddynt, ond gwasgerir y goleuni i bob cyfeiriad, fel na wel y llygad ddim ond delwedd niwlog a dryslyd.

Un o ddewiniaid delwedd eglwysig y canol oesoedd sy'n bennaf gyfrifol am yr hyn a gredwn am Ddewi.

Eto mae'r amrywiaeth yn y ffordd y trinir y paent yn amlygu cyfansoddi artistig bwriadus o dan y brys ymddangosiadol i ddal delwedd.

Mae delwedd o'r hyn a welwch yn ymffurfio ar y sgrin fechan hon.

Cawn yr argraff o gipolwg sydyn - amrantiad o olau, o symud, a hyd yn oed o synau, fel argraff gyntaf delwedd cyn iddi lawn ddod i ffocws.

Delwedd mewn perthynas â syniadau aberthol, ond yn unigryw yn ei syniadaeth, yw honno am Grist fel yr un a ddioddefodd yn ddirprwyol.

Ond fe fu adegau yn ystod y can mlynedd o amgau cyfreithiol gan ŵyr ariannog, pan wrthwynebai'r werin unrhyw awdurdod a ddygai'r 'comin oddi ar yr ŵydd.' Felly y cyflwynir yma'r Sais Bach ,mewn sawl delwedd, a Jennings fel gŵr a gafodd gam.

Mae'r delwedd ar eich retina hefyd ar ei phen i lawr, ond mae'r ymennydd yn dehongli hyn a gwybodaeth arall ar ein cyfer, ac yn dweud wrthym pa mor fawr yw pethau a pha mor bell i ffwrdd y maent.

Teimlwyd yr angen oherwydd nad oedd y label Sain, bellach, yn addas, nac yn gweddu o ran delwedd i rai grwpiau newydd, cyffrous, oedd yn ffurfio.

Dillad yn arwydd o newid delwedd y ferch: 'roedd sgertiau'n uwch na'r ben-glin, ond nid cymaint yng Nghymru lle ceid agweddau cymdeithasol mwy ceidwadol.

Un elfen bwysig yw'r arweinydd carismatig Lucien Bouchard, roedd ei ddelwedd ef yn gadarnhaol dros ben tra bu delwedd Chretien yn un affwysol yn Que/ bec ers cryn amser.

Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd, ond i greu delwedd wahanol.