Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

demtio

demtio

Penderfyniad cennad y Deyrnas oedd ymwrthod â'r math o Selotiaeth a ymddiriedai yn nulliau grym materol; ond ategir gan yr hanesion am demtiad Iesu yn yr anialwch y dybiaeth iddo gael ei demtio i ennill goruchafiaeth ar y byd trwy ddefnyddio dulliau'r byd ac iddo orchfygu'r demtasiwn.

Os ydi llenor i gael ei demtio i'w ladd ei hun, fe ddylai'r pwysau i wneud hynny godi o'r tu mewn iddo ac nid o'r tu allan.

Cafodd ei demtio i orwedd yn ôl yn llonydd, a pheidio â gwneud dim ond gadael i'w gorff suddo i waelod y môr.

Yn y cyswllt Cymreig, mae rhywun yn cael ei demtio i ddyfynnur geiriau, Its brains you want, ar adegau fel hyn.

Petai'n onest, pa lenor o Gymro na fyddai'n cyfaddef iddo gael ei demtio i sgrifennu yn Saesneg am ryw reswm neu'i gilydd?