Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dengys

dengys

Fel y dengys y Salmau, y mae byd natur yn achos rhyfeddod ac yn ddeunydd mawl.

Williams Parry o Glychau'r Gog ac yn yr ail bennill dengys inni ei gynefin.

Dengys y traddodiad hwn fod gan y wlad gysylltiad â'r India yn gynnar yn ei hanes.

Fel yr oedd darllenwyr yr Almanaciau gynt yng Nghymru yn ymhe/ l ag arwyddion y sidydd neu'r sodiac, dengys y colofnau poblogaidd mewn papurau Cymraeg a Saesneg y diddordeb mawr sydd heddiw (yn arbennig ymhlith merched) mewn astroleg - credu neu led-gredu yn arwyddion y planedau a darllen horosgôb - yr un hen awydd am gael gwybod yr anwybod.

Dengys log manwl y capten y gwaith a gyflawnid o ddydd i ddydd ar ei bwrdd, a'r nwyddau a'r offer a roddwyd yn yr howld, yn cynnwys rhaffau, blociau, meini llif a sialc, a gyfnewidid am gynnyrch brodorion gwledydd tramor megis Mao%riaid Seland Newydd.

Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.

Dengys profiad y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, ei bod yn fwy anodd byth gwtogi ar wario cyfredol y llywodraeth oherwydd y gyfran uchel o gostau llafur yn y gwario hwn.

Dengys yr Athro yn ei lith pa mor wrthun oedd atgasedd afresymol rhai Cymry y pryd hynny at bopeth a ysgrifennid yn yr iaith Saesneg.

Gwyddai'r gwyr hyn beth oedd pregethu i dyrfaoedd enfawr a dengys hynny un o nodweddion amlycaf eu dawn - eu gallu i gyfareddu gwerin gymharol ddiaddysg a hynny heb lastwreiddio na darostwng urddas y genadwri.

Dengys y darluniau ar y map ddatblygiad ffurfiau'r groes a geir ar feini yn y sir.

Disgrifiad yr awdur o'r Drych yw 'chwip o lyfr hanes', a dengys gymaint oedd y llyfr wedi dylanwadu ar genedlaethau, yn wir am ganrif a hanner.

Dwg i gof yn un peth amheuon Gruffydd am agwedd dybiedig ddilornus Lewis at yr Eisteddfod fel dim namyn 'gwyl y bobl.' Dengys hefyd fel y syniai Gruffydd am y gwahaniaeth barn o'r cychwyn fel dadl foesol yn ogystal a dadl esthetig, fel ymladdfa gwerthoedd.

Ceir disgrifiad manwl o amaethyddiaeth Epynt, a chilieni yn arbennig, gan Ronald Davies yn ei lyfr, a dengys fywyd fyddai'n nodweddiadol o ardal amaethyddol yng nghefn gwlad Cymru cyn yr Ail Ryfel Byd.

Dengys cymhariaethau â Chymru a Phrydain fod lefelau incwm yng Ngwynedd dipyn yn is na'r cyfartaledd dros Brydain a Chymru gyfan.

Dengys ystadegau hefyd hyd a lled aberth rhai o aelodau'r Gymdeithas dos y trideg blynedd er 1962.

Teimla'r bardd angerdd mawr tuag at gymeriadau gwladgarol fel y dengys y cerddi i Michael Collins ac Elfed Lewis.

Dengys y ddedfryd a dderbyniodd David Phillips a John Smith anghysondeb parhaus y gosb a fu am gyflawni troseddau cyffelyb, gan fod rheithgorau a barnwyr fel ei gilydd yn ystyried y gyfraith yn rhy llym ac felly yn gyndyn i weithredu ei holl rym.

Dengys yr astudiaeth fod hanner y troseddwyr wedi'u dedfrydu i alltudiaeth am saith mlynedd, a chwarter ohonynt i alltudiaeth am oes.

Dengys y digwyddiad hwn ei bod yn bosibl i berson gael y dolur oddi wrth berson sy'n dioddef wrtho, ond fe all gael Brech yr Iâr yn lle'r Eryrod; ac mae'n bosib i'r digwyddiad fod yn wrthwyneb i hyn hefyd - hynny yw, cael naill ai Brech yr Iâr neu'r Eryrod oddi wrth berson sy'n dioddef o'r Frech.

Fel y dengys y graff mae'r cyhoeddiadau yn y maes ar ôl i bobl gael gafael yn y peli 'bucky' wedi lluosogi'n rhyfeddol.

Ceisia pob lloches gynnig gofod, offer, a gweithgareddau ar gyfer y plant, ond dengys ein profiad na elwir yn llawn ar y rheini heb weithwraig plant wedi ei chyflogi i ganolbwyntio'n neilltuol ar anghenion y plant, ochr yn ochr â rhai'r mamau.

A da hynny, canys dengys pwnc a phwynt ambell un iddynt gad eu llunio gyda rhyw nod amlwg mewn golwg: ateb problcm leol ymb~ith y Methodistiaid, neu roi eli ar eu briwiau.

Roedd y sefyllfa'n drist ond, fel y dengys yr Athro Glanmor Williams, ceir tystiolaeth i rai eglwysi oroesi Oes y Normaniaid.

Dengys ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Cymru Abertawe ar ddefnydd y Gymraeg gan bobl ifanc (16-17 oed) yng Ngorllewin Morgannwg a Dwyrain Dyfed, fod pobl ifanc yn fwy tebygol o gadw gafael ar y Gymraeg os mai dyna yw iaith naturiol eu haelwyd.

Dengys ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gymreig y tir y mae'n bosibl ei ennill wrth gynyddu nifer y disgyblion a gaiff y cyfle i dderbyn eu haddysg yn y Gymraeg.

Wedi deng mlynedd o addysg brifysgol drwy'r Saesneg, roedd Euros yn gyfoethocach ei Saesneg na'i Gymraeg, a dengys ei gyfieithiadau o'i gerddi ei hunan (a wnaeth ef yn ddiweddarach) ei fod yn gryn feistr ar Saesneg.

Fel y dengys y map, y mae Ceredigion yn weddol gyfoethog mewn olion Oes y Pres.

Fel y dengys hanes.) Digon gan hynny yw i mi ddweud i'r sant ddinoethi ei fonau cil ym Mwlchderwin y pnawn hwnnw a brathu f'asgell.

Dengys yr Hen Destament hefyd fod gan bob cenedl ei duw, ac yr ystyrid cenedl fel eiddo ei duw.

Dengys rhediad o gatalogau sioeau cŵn y cynnydd mewn bridiau ecsotig - arwydd o'r symiau sylweddol o arian y mae pobl yn barod i wario ar eu hobiau yn y dyddiau hyn.

Yr oeddynt, fodd bynnag, ymhell o fod yn llwm eu byd, fel y dengys eu cartref helaeth sydd bellach wedi'i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn rhywbeth tebyg i'r hyn ydoedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg - proses sydd, gyda llaw, wedi profi fod y ty presennol, yn wir, yn fangre geni a magwraeth William Morgan, (yr oedd amheuaeth o'r blaen a allai fod yn ddigon cynnar).

Dengys y siart isod bod menywod yn ffurfio mwyafrif bach ymhlith y rhai a ddychwelodd yr holiadur, ond mae'r rhaniad yma yn adlewyrchiad eithaf cywir o'r Cymry Cymraeg.

Yr un elfennau, fel y dengys y sbectrosgop, sydd yn y ser a'r planedau ag sydd ym mhopeth, bywyd a di-fywyd, ar y ddaear.

Fel y dengys hanes Cymru, ac fel y mae profiad Denmarc, Catalonia a gwledydd eraill yn ei gadarnhau, allwch chi ddim adeiladu'r Jeriwsalem newydd heb yr offer.

Dengys ein gwaith ymchwil fod y cyhoedd yng Nghymru'n disgwyl hyn.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Dengys hyn na fu polisi iaith llwyddiannus yn weithredol hyn yn oed mewn ardaloedd gwledig megis Ceredigion mewn nifer sylweddol o ysgolion cynradd.

Dengys adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref gan Hybu Iechyd Cymru fod angen gwella deiet pobl ifanc yng Nghymru.

Dengys ddau beth pwysig; yn gyntaf fod esblygiad bywyd yn araf iawn, ac yn ail fod cyfradd y cyflymder esblygiadol yn tyfu'n barhaol.

Dengys yr ystadegau isod sefyllfa diweithdra gwrywod a benywod mewn ardaloedd teithio i waith o fewn y pedair ardal weithredu.

Dengys y casgliad mawr hwn fod ganddo lawer o noddwyr yn ei fro ei hun, ond ei fod hefyd yn arfer clera trwy Gymru gyfan, yn enwedig ar hyd y gororau yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed.

Yn raddol, fel mae'r llyfr yn dirwyn yn ei flaen, dengys Hiraethog ei fod yn anabl neu'n anfodlon i wynebu'r byd yr oedd yn byw ynddo.

Dengys ein profiad ar hyn o bryd, tra bod Gwasanaethau Cymdeithasol yn gefnogol iawn i'n gwaith yn gyffredinol, nad yw eu cyllid hwy o anghenraid yn gallu ymestyn yn gymesur â'n gwasanaeth ni yn eu hardal wrth i hwnnw ehangu.

Mae un siliwm gyda'r breichiau dynein bach mewn cyfeiriad clocwedd yn paru a siliwm a'i freichiau'n pwyntio i gyfeiriad gwrthglocwedd; dengys hyn eu bod yn dod o badiau gwahanol.

Dengys yr uchod mai bychan yw cyfraniad cymdeithasu tai o ran canran o'r stoc dai, er eu bod yn medru gwneud cryn argraff o safbwynt cyfanswm yr unedau a ddarperir ganddynt, ac ymateb i'r angen lleol.

Dengys y ffigurau fod siarad y Gymraeg wedi disgyn o 12.1% flwyddyn yn ôl i 9.7 yng Ngwanwyn 2000.

Dengys y tabl isod y deg cylchgrawn Saesneg mwyaf poblogaidd yn ôl y sampl : Gwelir mai cylchgronau i ferched yw'r rhai mwyaf poblogaidd o bell ffordd a nifer helaeth o'r rheini yn rhai wythnosol.

Dengys ymchwil gan Siambr Fasnach Llundain fod oriau hir yn y gweithle yn amharu ar iechyd saith allan o ddeg o weithwyr ac ar eu perthnasau personol.

Ond o fewn y cynllun trifflyg syml a rhesymegol hwn dengys yr awdur gryn allu wrth amrywio ei dechnegau naratif ac wrth ddefnyddio dulliau adrodd gwahanol.

Ond fel y dengys y darn agoriadol hwn o'r nofel, mae'r mab yn mynd yno'n llawn gobaith...

Dengys yr arysgrifen bod y Gwyddelod hyn yn Gristnogion.

Dengys Wynn hyn eto wrth drafod dyfodiad Maredudd o Grug gyda'i deulu i Eifionydd a oedd yn llawn anniddigrwydd ac anghydfod tylwythol.

Fel y dengys y teitl, trafod datblygiad cenedlaetholdeb Cymreig y mae yn yr erthygl honno.

Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Dengys darlun carreg Rhuddlan sydd ar y map yr hiciau a dorrai'r Gwyddelod ar ochrau'r meini, dyma'u dull hwy o ysgrifennu.

Dengys cymeriadau Meini Gwagedd ymwybyddiaeth debyg ac y mae Kitchener yn dilyn Eliot yn y ffordd y mae'n pwysleisio'r berthynas rhwng agweddau gwrthdrawiadol bywyd.

Yr oedd yn meddwl y byd o Lyn, fel y dengys y gofeb bres yng nghadeirlan Bangor sy'n dweud mai Llyn a roes iddo ei ddechreuad.

Dengys ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd fod patrwm i'r gefnogaeth.

Dengys hyn mewn ffordd ddramatig gymaint o oradeiladu a ddigwyddodd yn y cyfnod blaenorol.

Yn ei Salmau Cân yn ogystal ag yn ei gywyddau ymryson â William Cynwal ac eraill dengys Edmwnd Prys ei lwyr feistrolaeth ar Gymraeg clasurol yr hen feirdd.

Credai W J Gruffydd, fel y dengys y cyfeiriad at y ffynonellau Ffrangeg yn y dyfyniad uchod, for yr Anglo-Normaniaid yng Nghymru, yn arbennig yn Neau Cymru, wedi noddi beirdd o Gymry a beirdd o Norman- Ffrancwyr, fod y ddau ddosbarth o feirdd wedi dylanwadu ar ei gilydd, ac mai'r prif ddylanwad a ddaeth ar y Cymry ydoedd dylanwad y mudiad barddonol a reiddiodd allan o Ddeau Ffrainc, hynny yw, dylanwad y mudiad trwbadwraidd.

Ystorya Trystan yw'r peth tebycaf sydd gennym i chwedl go iawn am Drystan, ond anghyflawn iawn yw'r naratif fel y mae wedi ein cyrraedd, fel y dengys crynodeb ohono: Aeth Trystan ap Tallwch ac Esyllt gwraig March ap Meirchiawn yn alltudion i Goed Celydon, yng nghwmni morwyn Esyllt, Golwg Hafddydd, a gwas ifanc o'r enw y Bach Bychan.

Dengys ymchwil ddiweddar fod Prydain wedi buddsoddi llai yn y maes tai dros yr ugain mlynedd diwethaf nag unrhyw wlad arall yn y Gymuned Ewropeaidd.

O safbwynt y cwricwlwm, dengys yr Adroddiadau fod yr ysgolion yn rhoi sylw yn bennaf i ddarllen, ysgrifennu, gwybodaeth ysgrythurol a gwni%o, a hynny hyd yn oed yn bur amrwd ac ysbeidiol.

Dengys yr olion fod Tre'r Ceiri wedi'i chadw gan y Celtiaid drwy'r drydedd a'r bedwaredd ganrif, er bod y Rhufeiniaid yn cartrefu ar yr un pryd yn Segontiwm, eu caer hwy yng Nghaernarfon.

Dengys y llyfr hefyd y ffordd orau i roi'r ffisig i'r anifail.