Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

derbynnydd

derbynnydd

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

Yn anffodus, os oes pellter rhy faith rhwng y trawsyrrydd a'r derbynnydd yn y rhwydwaith ffôn collir gormod o oleuni ar hyd y ffibr ac aiff y neges ar goll.

Fe hoffwn awgrymu hefyd fod y siliwm hir sengl yn gweithredu fel derbynnydd dirgryniad a bod yr aparatws basal arbennig yn gweityhredu, naill ai i gynnal y siliwm , neu i drawsyrru negeseuon pan fo'r siliwm yn dirgrynu.

'Dyna chi,' meddai wrth roi'r derbynnydd i lawr.

Fy swyddfa i.' Rhoddodd y derbynnydd i lawr.

Doedd dim amdani ond rhoi'r derbynnydd i lawr ac ildio'i lle.