Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

derfyn

derfyn

Yn ôl yr Athro Owen Chadwick, fe roes derfyn ar ei ddefnyddioldeb yn Eglwys Loegr.

Anodd ar derfyn defod oedd peidio gollwng deigryn wrth glywed llu mewn eglwys yn Ffrainc yn canu Dawel Nos mewn Almaeneg.

Rhyw hanner milltir y tu hwnt i derfyn y coed mae adfeilion dwy luest (hafod), y naill, Nantygorlan, ar yr ochr dde a'r llall, Aberceinciau, ar yr ochr chwith i'r afon.

'Nid bob dydd y lleddir mochyn' chwedl f'ewyrth, ar derfyn cinio diwrnod dyrnu.

Ond os daw hi'n frathu ewinedd heddiw, profodd David Park, gyda rownd o 65 ar ei ymddangosiad cynta yn y gystadleuaeth fod ganddo fo'r gêm i gario Cymru dros y llinell derfyn.

Yn naturiol, mae hyn yn fwy gwir byth wrth brynu'n breifat gan na fydd y prynwr yn cynnig unrhyw fath o warant i chi, ac mae'n debygol iawn y bydd gwarant y gwneuthurwr wedi hen ddod i'w derfyn os mai carafan ail law yw hi.

Yna, fel y daw yr adroddiad at ei derfyn gyda hanes ei dderbyniad i lawn aelodaeth o'r capel ym Mhennod XXV, dyna Hiraethog yn codi awgrym y mae eisoes wedi'i wneud ac yn sôn am garwriaeth Bob a Miss Evans.

Trwy undeb a chydweithrediad pawb o'r gynulleidfa, yn frodyr a chwiroydd, llwyddwyd hefyd i glirio'r ddyled oedd yn aros ar derfyn yr holl weithgarwch.

Ar derfyn yr arholiad cefais wys i fynd i weld tri athro yn eu hystafelloedd.

Does bosib mai cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith fod cynifer o straeon Harri Pritchard Jones yn gorffen ar derfyn dydd, a weithiau'n wir ar derfyn bywyd.

Pe cai Ynot Benn ei ffordd dyna derfyn am byth ar wynwyn.

Fel y bydd mis Ebrill yn tynnu at ei derfyn fe fydd pawb yn ceisio cau'r sŵn allan o'u tai ac yn stwffio wadin i'w clustiau, ond y mae'r cwbwl yn ofer bob blwyddyn.

Yr oedd cyfnod blaenoriaeth y sgweier a'r person yn tynnu i'w derfyn erbyn canol y ganrif a gwerin Cymru'n magu ei harweinwyr ei hunan.

Ar derfyn y gynhadledd peidiodd y dþr poeth.

Am y clod hunanol a enillai Geraint mewn twrnameintiau y sonnir ar derfyn adran gyntaf y 'rhamant' ac wrth gyfeirio at ysblander ei lys yn yr ail adran, ond ar ddiwedd y chwedl y mae Geraint yn wir lywodraethwr ac yn rhannu'r clod â'i wraig.

Ar derfyn y tymor hoffen ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y cyfarfodydd, ac edrychwn ymlaen at y tymor nesaf.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

Bellach, gyda'r saithdegau yn tynnu i derfyn, daeth cyfnod y brotest fawr i derfyn.

Yn Nghapel Jerusalem [y Methodistiaid], yn hwyr yr un dydd, pan oedd y gynulleidfa yn canu ar derfyn yr oedfa, daeth dyn ieuanc i mewn, ac aeth ar ei union i'r set fawr, ac ar ei liniau, ac ymddangosai fel dyn mewn breuddwyd.

Cipio'r merched i waith rhyfel a roes derfyn arno.

Pan ddaeth tymor y 'Dolig i'w derfyn y llynedd fe gawsant wared ohona' i o'r ysgol a 'dydw i'n ama' dim nad oedd yr ocheneidia' rhyddhad i'w clywed bryd hynny yn atseinio'n uchel hyd goridora' byd addysg.

Boed a fo am hynny, yr oedd DM Jones bron ar derfyn ei gwrs yng Ngholeg Worcester pan sefydlwyd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a pha ran bynnag a fu iddo yn ei sefydlu, ni bu iddo ond y nesaf peth i ddim dylanwad ar ei datblygiad; yn wir, hyd y sylwais, nid yw ei enw yn ymddangos fwy na rhyw ddwy waith yn y cofnodion ar ôl cofnodion y cyfarfod sefydlu.

Un hwyrnos, pan oedd Owen Owens yn dod i derfyn yr un stori, daeth fy mam a Miss Aster i mewn i'r gegin, a bu distawrwydd parchus tra gofynnodd fy mam i mi a awn i hebrwng Miss Aster adref, a dod 'nôl â rhyw waith gwnio roedd ei angen arnom drannoeth.

Ond ar lin ffrae ni cherddai ll'goden goch drostynt, oherwydd roedd Begw'n dallt bod gwyn ei byd yng nghwmni Rondol, ac fe wyddai derfyn ei therfyna.

Ar derfyn y driniaeth 'roedd Pengwern wedi rhoi cusan iddi am ei bod yn gorfod gwneud gorchwyl mor

Yr oedd Sam Jones yn bresennol yn y stiwdio gyda'r Welsh Wizard a oedd, erbyn hynny, yn tynnu at derfyn ei yrfa ddaearol.

Gwnaed casgliad ar derfyn y gwasanaeth tuag at waith Cymorth Cristnogol.

Rhoddodd y llywodraeth derfyn ar weithgaredd a chyhoeddiadau sawl mudiad adain dde, ac er nad oeddent yn gweld angen creu deddfau newydd, llymach, roeddent yn addo cryfhau'r rhai a oedd yn bod eisoes.

Pan ddown at fyd busnes, y mae'n bosibl inni wneud amcangyfrif (neu gyllideb, fel y'i gelwir yn gyffredinol) am y flwyddyn, a chymharu'r cyfrif elw a cholled ag ef ar derfyn y cyfnod.

Bod yn rhaid dechrau pennill yng nghynnydd "Rhan Osod" y gainc, a diweddu ar derfyn y rhan honno, ac na ddylai curiad cyntaf y mydr fod ym mar cyntaf unrhyw gainc.

Bydd y sawl sy'n cymryd rhan yng ngwaith awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau elusennol yn gyfarwydd â'r drefn o wneud amcangyfrif am y flwyddyn, ac un ffordd i edrych ar sefyllfa'r sefydliad ydyw drwy gymharu'r cyfrifon ar derfyn y nwyddyn â'r amcangyfrif a wnaethpwyd ymlaen llaw.

Ar derfyn dydd y daw uchafbwynt prysurdeb y rhaglenni newyddion.

ôl nodyn gan y Golygydd: Ar derfyn ei ysgrif y mae Thomas Jones yn dyfynnu enghreifftiau o farddoniaeth Hugh Evans.

Tynnai at derfyn ei daith; yr oedd yn nosi drachefn.

Gwr nobl oedd y Parchedig John Jones, yn fugail gofalus i'w bobl ers pymtheng mlynedd, ond ar derfyn pnawn heulog o Orffennaf fel hyn, ac yntau wedi galw yn rhai o ffermydd y fro ar ei daith i'r Plas, roedd o fymryn yn ansad ar ei draed ac, o bosibl, beth yn orhyderus yn ei siarad.

Mae'r cwestiynau'n ddi-derfyn.

Does neb yn carrega bellach, ac mor wir yw englyn y diweddar Dafydd Williams, Bryn Hyfryd, Y Garn, Pentrefoelas, i'r chwalwr tail: Ni raid wrth deisi gwair ac ŷd mwyach, ac mae'r grefft o'u toi ymhlith y pethau a fu - un o'r crefftau hynny y byddai dyn yn ymhyfrydu ynddynt ar derfyn dydd.

Ar derfyn y gwasanaeth paratowyd paned yn yr

Nid yw mor hoff o'r gogledd oer, ac yng Nghymru mae'n agos i derfyn ei ddosbarthiad; nid yw'r gwenyn addas i'w gael yma ac fe ddibynna ar hunan-beillio fel arfer i sicrhau hadau ar gyfer y dyfodol.

Digwyddiad oedd hi mai o Fwcle y daeth galwad bendant iddo ar derfyn ei gyfnod yng Ngholeg Caerfyrddin.