Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

derfynau

derfynau

Y mae Geraint wedi'i addysgu, nid yn nyletswyddau marchog fel y bu rhaid gwneud yn achos Peredur wladaidd, ond fel llywodraethwr, a'i gyfrifoldeb ef bellach yw cynnal ei lys ei hun, amddiffyn ei derfynau ac ymgymryd â dyletswyddau arglwydd.

Wrth i derfynau yr iâ encilio fwy-fwy i'r gogledd bob blwyddyn, roedd yr adar hefyd yn ymestyn eu man bridio ac yn dychwelyd i rannau cynnes Affrica yn y Gaeaf.

Nid oes gwybodaeth fanwl pryd y gosodwyd i lawr derfynau'r plwyfi ond yn ddiamau fe fu nodweddion ffisegol y wlad fel afon a bryn, toriad y dŵr ynghyd â hen lwybrau dyn ac anifail gwyllt a dof yn help i benderfynu'r ffin.

Mae'r ymennydd bob amser yn ymdrechu i gadw gwres mewnol y corff y tu mewn i derfynau cyfyng drwy agor neu gau capilari%au'r croen fel y bo angen.

Y mae ymserchu William Roberts a Sarah Jones yn ei gilydd yn llawn o dynerwch gwawnaidd, eto mae'n torri dros derfynau confensiynau cymdeithasol ac yn mynnu mynegiant.

Cynghorir ef yn gwbl eglur: meddai mab dug Bwrgŵyn wrtho: 'Cerdda eithafoedd dy gyfoeth [deyrnas] yn gyntaf, ac edrych yn llwyr graff derfynau dy gyfoeth.

Rhwng popeth gwelsom ysgubo ymaith lawer o'r hen derfynau.