Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deuluoedd

deuluoedd

Estynnwn ein cydymdeimlad i'r holl deuluoedd hyn yn eu colled a'u hiraeth.

Mae llawer o deuluoedd, ar ôl cael gwaith yn weddol bell i ffwrdd, yn blino teithio bob dydd ac ni allant fforddio hynny, p'un bynnag.

Pan ddeuai'r glaw trwm yn yr haf, byddai'r afon yn gorlifo, gan orfodi cannoedd o deuluoedd i ffoi o'u cartrefi rhag y dwr a'r carthion.

Tyfai'r rheini ddigon ar gyfer pawb a digon i'w rhoi yn stor ar gyfer holl deuluoedd y deyrnas rhwng tymhorau.

Y mae'n wir nad oedd y teulu'n absennol o'r gymdeithas, ond yr oedd yn israel ai ffyniant bywyd ar barodrwydd dynion i uno â'i gilydd; dyna paham y rhoddid lle mor bwysig i deuluoedd a pherthynas gwaed.

Mae'n debyg bod yna deuluoedd sy'n perthyn yn Llanfairpwll o hyd.

Oherwydd mai cymundod o deuluoedd ydyw, fe gyfeirir at y genedl yn aml fel teulu (e.e.

Amod bodolaeth pobl grwydrol oedd cwlwm teuluoedd, ac felly 'pobl' yn yr ystyr o gymundod o deuluoedd oedd Israel.

Peth ddigon digalon yw sylwi ar yr ymgiprys am flaenoriaeth rhwng y gwahanol deuluoedd a'r cynhennu di-stop rhyngddynt a'i gilydd.

Byddai amryw deuluoedd yn mynd gyda'i gilydd, sef William Griffiths a'i deulu, Mr a Mrs Edmunds, Mr Macburney a'i deulu, Aeron Hughes a'i deulu, ac eraill.

Wel, mi a adawaf yr hen deuluoedd a'u ffermydd am sbel, gan obeithio eich bod yn dal i sefyll ar ben yr allt wrth ymyl yr Ysgol.

Yn God Save the Prince of Wales, a gyflwynwyd gan Sioned Wiliam, datgelwyd rhai o'r sgandalau ar straeon a oedd yn amgylchynu 10 o Dywysogion Cymru ac yn Ar ôl yr Orsedd, teithiodd Beti George i'r India i gwrdd â rhai o aelodau o deuluoedd brenhinol yr isgyfandir i gael gweld beth sydd gan fywyd i'w gynnig iddynt ar ôl iddynt golli eu statws brenhinol.

Bu Cymdeithas yr Iaith yn eu cefnogi trwy gyhoeddusrwydd, picedu, codi arian a threfnu gwyliau i deuluoedd glöwyr.

Yr oedd tad-cu Dafydd Pen-y-graig, Richard Cwm-garw, a'i frodyr Watkin a William a Morgan Cwm-garw yn ddynion adnabyddus yn y lle yn gynnar yn y ganrif o'r blaen, a magodd bob un ohonynt deuluoedd lluosog o fechgyn cryfion a merched glân.

Y gobaith yw y bydd y math yma o drefniant yn lleihau dylanwad y benthycwyr mawr diegwyddor sydd yn dod â diflastod i gynifer o deuluoedd tlawd.

Y mae ein calonnau yn gresynu, a'n gwaed Cymroaidd yn ymferwi o'n mewn, pan ystyriwn fod yn mysg puteiniaid trefydd Lloegr liaws mawr o ferched glandeg Cymru, y rhai a fagwyd yn dyner gan deuluoedd crefyddol ar lethrau ei mynyddoedd, ond y rhai sydd yn awr yn dilyn bywyd pechadurus a gwir druenus puteiniaid cyhoeddus; .

Nid cyfnod Tomi a Nedw sydd yma chwaith- nid blynyddoedd y tlodi sur a'r crafu byw i deuluoedd mawr .

Ac meddai Cadeirydd Is-bwyllgor Cymru, Dilwen Phillips, 'Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn helpu i wella ffyrdd o fyw a gwella arferion bwyta ein haelodau ac y bydd rhai arferion da yn cael eu trosglwyddo i deuluoedd a ffrindiau'.

Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.

I fynd at wraidd y gwahaniaeth rhwng pobl a chenedl, y mae'n rhaid cofio yr edrychai Israel arni ei hun fel cymundod o deuluoedd.

Enwir Lewis Tomas, abad olaf Margam cyn y dadwaddoliad, mewn cywydd a ganodd Lewys morgannwg dros Lewis Gwyn o Drefesgob i ofyn gwartheg gan wŷr o'r dalaith, llawer ohonynt yn perthyn i deuluoedd blaenllaw.

Evan Powel, oedd erbyn hyn yn ei saithdegau, ac yn ddisgynnydd i un o hen deuluoedd y fro.

Ac ar ddydd Dimitri gallwch fod yn ymweld a thua deg o deuluoedd.

Os nac 'ych chi wedi anadlu naws a sawr y glowr yn eich ffroenau chi, os nac ydach chi yn gwybod fel yr oedd yr hen dipiau glo yn chwysu yn yr ha', fedrwch chi ddim sgrit`ennu amdano." Roedd chwaer y dramodydd, Letitia Harcombe, a gymerodd ran y butain, wedi dweud ei hun tod y ddrama' n agos at y gwir a i bod yn gwybod am deuluoedd a oedd mewn sefyllfa debyg.

* awdurdodau iechyd lleol sy'n darparu gwasanaeth asesu datblygiad plant a gwasanaeth ymgynghorol i deuluoedd ar ofal plant;

Crynodeb byr yw'r canlynol o'r newyddion a gefais wrth bori trwy ddau bapur newydd yn unig y bore yma: Bavaria - tân wedi'i gynnau'n fwriadol mewn tþ a oedd yn gartref i deuluoedd Twrcaidd.

Yn aml ceir darlun o deuluoedd hapus, amgylchfyd glân yn ogystal â'r enfys, sy'n symbol o heddwch rhyngwladol.

Yn y dosbarth cyntaf rhoddir y rhywogaethau hynny sy'n perthyn i deuluoedd y chwain, y llau a'r mosgito.

Yr oedd ei dad a'i fam yn hanfod o deuluoedd uchelwrol Cymreig, ond erbyn canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oeddynt yn dal eu tir gan y Goron fel is- denantiaid i deulu pwerus Wyniaid Gwedir, ger Llanrwst, tirfeddianwyr mwyaf yr ardal o ddigon.

Ar wahân i'w hofn rhag ffwndamentaliaeth Moslemaidd mae llawer o ferched Uzbek yn aelodau o deuluoedd a phriodasau cymysg ac ni fynnant hwy weld y rhyddid i ddilyn y diwylliant priodasol a fynnont yn diflannu.

Tynnu y peiriant allan a gwneud lle i naw o deuluoedd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf prynwyd nifer o'r tai gan deuluoedd ifanc a feddai ar yr egni a'r modd i'w hadnewyddu.

Magwyd cannoedd o deuluoedd ar nefer nefer y 'llyfr siop'.

Fel plant y rhan fwyaf o deuluoedd tlawd yn y cyfnod hwn bu rhaid ­ Pamela fynd allan i weithio pan oedd yn ifanc iawn ond disgynnodd i gwmni drwg ac arweiniodd ei chydweithwyr hi'n fuan ar hyd eu ffyrdd nhw.

Mae yna ym mhob tre a phentre lawer iawn o deuluoedd a all dweud na fu yr un aelod o'r teulu erioed yn glaf mewn ysbyty.

Yn ystod fy ieuenctid trigai oddeutu deg ar hugain o deuluoedd ym mhentref Cefn Brith, y cyfan bron a'u gwreiddiau yn yr ardal ar wahân i ddyfodiaid a ddaeth yno o ganlyniad i briodas.

Bendithiwyd y penwythnos, drwy lwc, â thywydd braf ac achosodd hynny i deuluoedd a thrigolion yr ardal heidio i'r pentref.

A'r gwreiddiau'n ôl at unigolion, a thyfodd y genedl o deuluoedd yr unigolion hyn.

Ni bu strategaeth amser hir na gwerthfawrogiad fod lefelau disgyblion yn codi ac yn disgyn yn gyson mewn pentrefi bach o ganlyniad i symudiadau ychydig o deuluoedd.