Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deuluol

deuluol

Sylw Carole Rosen, Is Lywydd Arlwy Deuluol HBO (Home Box Office), oedd, "Dyma'r wythfed Primetime Emmy i'w hennill gan y bartneriaeth hon rhwng Cymru ac UDA o fewn saith mlynedd - gorchest ryfeddol.

Cyfrifid bod yr Eglwys, y wladwriaeth a'r uned deuluol yn undod patriarchaidd a sylfaenesid ar ufudd-dod ac awdurdod.

Bywyd y Cymry a ymfudodd i Benbedw ar dro'r ganrif a gyfleir yn I Hela Cnau Marion Eames - y fwyaf darllenadwy o'r holl nofelau hanes, a chan ei bod yn ymdrin a chyfnod y mae atgofion amdano wedi'u trosglwyddo'n deuluol i'r awdures, mae'n pontio rhwng y nofel hanes a'r nofel gyfoes.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglŷn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Edrychid ar briodas, nid fel modd i barhau gweddau materol ar y teulu'n unig, ond hefyd fel disgyblaeth y byddid drwyddi yn cryfhau cyfathrach deuluol a pheri bod sadrwydd oddi mewn iddo.

Dioddefodd hi fygythiadau lawer ynglyn â hyn gan gynnwys ei diarddel o unrhyw fraint deuluol, a hyn a ddigwyddodd oherwydd cariad a orfu a thrwy ddirgel ffyrdd priodwyd hwy yng nghapel Carmel a saif ychydig uwchben glofa Cwm Capel.

Y tu ôl i'r ymdriniaeth â sefyllfa deuluol y Gŵr a'i ferched y mae gweledigaeth dreiddgar debyg i'r hyn a welid yn gweithio yn nofelau Zola, neu'r brodyr Goncourt.

Ffrwyth y cwbl yma oedd llwyddo i greu yn Ebeneser awyrgylch gynnes, deuluol.

Dyna'r delfryd a bortreadid dro ar ôl tro yng ngweithiau'r beirdd - yr ymdeimlad o lywodraeth deuluol yn ystyr gyfyng yr endid hwnnw.

Golygai disgyblaeth deuluol gydnabyddedig fod gan bob uned o'r fath gyfraniad pendant i'w wneud yn y gymdeithas.

mae'r tractor wedi ei gwneud hi'n haws i'r ffermwr, ond mae wedi chwalu y fferm deuluol.

'Pedwar hygar rhywiogaidd', meddai, 'Llunon teg oll yn un ty' - enghraifft hynod o'r gyfathrach glos a allai ffynnu mewn perthynas deuluol.

Crynhoir hynny'n ddeheuig iawn mewn un cwpled lly cyfeirir at y noddwr ymroddedig yn ei swydd yn geidwad tŷ yn yr olyniaeth deuluol a weithredai 'â mawredd a chymeriad'.