Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

deunaw

deunaw

Llwyddodd Danish Kaneria, y troellwr coes deunaw oed, i gipio'i wiced gyntaf mewn gêm brawf pan dwyllodd Marcus Trescothick am 30 rhediad.

'Roeddent yn rhad fel baw, deunaw oedd y sach a'r llyfrau!' Ond ni fedrai yr un o'r pâr hapus air ar lyfr Cymraeg, heb sôn am lyfr Sanscrit.

Ydych chi rhwng deuddeg a deunaw oed?

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

Mae Mark Hughes, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, wedi ymuno â chlwb Blackburn Rovers ar gytundeb deunaw mis.

Er ei fod ef ei hun, fel aelod o deulu o Grynwyr, wedi treulio rhannau o'i blentyndod yn y naill gymuned a'r llall, mae'n gwybod am bobl a gyrhaeddodd eu deunaw oed cyn iddynt gyfarfod neb o'r 'ffydd arall'.

Yr oedd Phil yn tynnu at ei hanner cant oed bryd hynny, ac er iddo gael gwaith mewn pwll glo am y deunaw mlynedd nesaf, fel gweithiwr tun y cofiaf fi ef.

Nid oedd Bob Edwards mor alluog â'r ddau gyntaf ond llwyddodd i gadw diddordeb dosbarth niferus o bobl ieuainc o'r deunaw oed i fyny.

Daeth deunaw ohonon ni ynghyd er mwyn trafod y pam, sut a phwy o'r ymgyrch.

Ond chefais i fawr o hwyl ar fy ngwaith am tua deunaw mis.

Yr adeg hon hefyd dechreuodd Gaunt ar y gwaith o suddo pwll wrth ochr y ffordd fawr i fynd at wythi%en y Gwscwm a chodi clawdd tua deg troedfedd o uchder a deunaw troedfedd o led, ar y gwaelod, i gario'r glo yn haws i'r harbwr.

Un gôl ddaru o sgorio ond fe fethodd tua deunaw.

'Deunaw oedd gen i ar f'elw, ond fe wnaeth rhyw ddyn yn y farchnad imi brynu hwn gynno fo am naw ceiniog.'

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

Cafwyd deunaw gôl yn y Cynghrair Cenedlaethol dros y Sul.

'Doedd hi'n ddim ond deunaw oed ar y pryd.

Fodd bynnag, pan oedd Phil tua deunaw mlwydd oed, gwirfoddolodd i ymuno â'r Llynges adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ym Mhencampwriaeth Tyllau'r Byd yn Wentworth mae Padraig Harrington un twll ar y blaen yn erbyn Bob May, Nick Faldo dri thwll ar y blaen i Darren Clarke ar ôl deunaw twll.

A chymryd yr holl oediadau hyn gyda'i gilydd, gall deunaw mis neu hyd yn oed ddwy flynedd fynd heibio o'r amser y mae cwrs yr economi yn dechrau mynd ar gyfeiliorn hyd nes y bydd mesurau cyweiriol y llywodraeth yn dechrau brathu.

Er mai dim ond deunaw mis oed yw Omar, mae'n edrych fel hen ddyn.