Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dewch

dewch

Ers dros dwy flynedd buom yn casglu enwau ar ddeiseb fawr dros Ddeddf Iaith Newydd -- dewch i Gaerdydd i'w chyflwyno i'r Cynulliad ac i ddangos cefnogaeth i'r galwad.

"Douglas Bader, dewch yma!" gwaeddodd prifathro'r ysgol uwchradd.

Dewch i ni ddelio yn gyntaf â'r awgrym 'ma y dylid rhoi'r gorau i ymgyrchu.

"Dewch!" gwaeddodd llais o'r tu fewn.

Dewch 'nôl!

Dewch i wrthdystio yn erbyn banciau a chymdeithasau adeiladu Dinbych i gefnogi'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd.

'Dewch i ni glywed unwaith eto y rhestr trosedde,' gorchmynnodd Martha Arabela.

Dewch, mae'n oeri fan hyn, ac mae'n bryd swper beth bynnag.

Dewch i wrthdystio yn erbyn banciau a chymdeithasau adeiladu Bangor i gefnogi'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd.

Dewch, brysiwch does gennym ddim amser i'w golli.

Mae eu henwau nhw i gyd i lawr yn y fan yma gen i." "Dewch i fyny i'r ffau," sibrydodd Wyn.

Dewch draw i weld." Roedd cylch o risgl wedi ei wasgu a'i dorri rhyw fetr uwchlaw'r ddaear ar foncyffion y ddwy goeden.

'Dewch 'te,' meddai, 'at gât y parc.'

Dewch â syniadau a brwdfrydedd efo chi.

'Dewch, ryn ni wedi gwastraffu digon o amser yn barod!

Dewch i ni obeithio taw tri chynnig i Gymru fydd hi ac y byddwn yn dod â'r Oscar yn ôl eleni.

Gwneler yr hylif Heb drafferth na ffwdan.' A dyma Jini'n ymuno yn y gytgan: 'O dewch, yr holl wrachod a chwithe ellyllon, I roddi eich bendith yn awr ar y moddion.'

Dewch gyda mi i gyfnod llawer nes atom, pan oedd adfywiad cenedlaethol Cymru yn hawlio Datgysylltiad yr Eglwys Wladol yn etholiad cyffredinol 1880.

Dewch - ar unwaith.' Dilynodd criw o ddynion y ci o'r pentref i ganol yr eira trwchus.

Dewch, agorwch y drws ar unwaith, ychwanegodd y plismon.

Dewch yn ôl at y dyn cyhoeddus.

Iawn, dewch ag e i lawr .

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

'Dewch weld ...

Dewch i wybod mwy am y côr cymysg campus hwn a sut i ymuno.

Dewch inni ystyried rhai o nodweddion yr hydref ysbrydol yr ydym wedi byw trwyddo.

'Dewch i mi gael golwg ar y pysgod.

Dewch, mae eisiau ar yr achos, dewch o deimlad da bob un; Pam y byddwch yn segura yn y dafarn drwy eich oes, Gwario'r cyfan oll am gwrw, a diweddu 'ngeiriau croes?

Dewch gyda ni i fyw ffantasïau'r Farchnad Fawr lle mae popeth yn 'nwydd' i'w brynu a'i werthu a'r dyfodol yn un loteri fawr o optimistiaeth hyrwyddol y tocyn hud.

Y ficer oedd yn sefyll ar y trothwy Sut mae e erbyn hyn, Marian?' gofynnodd yn brudd O ficer, dewch i mewn.

Dewch Mrs bach, agorwch iddo fo, wnewch chi byth ddifaru, na newch wir.

Dewch i mewn!

Dewch i lawr.

Dewch." Roedd hi'n chwech o'r gloch bron pan ddychwelodd Doctor Treharne i'r pentre.

Dewch at ddirwest, dewch bob oedran, dewch i weithio yn gytun.

"Dewch nawr, Sera," meddai a'i lais yn datgan mor ddiamyd yr oedd, ond â thinc o ddigrifwch ynghudd ynddo hefyd, "Ddaw dim daioni o ymddwyn fel yna."

Dewch yma!

Dewch i wrthdystio yn erbyn banciau a chymdeithasau adeiladu Aberystwyth i gefnogi'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd.

Dewch ag ambiwlans yn syth.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

Dewch yn ôl i'r dref ar ben y bryn yng nghanol y perllannau a'r gwinllannau unwaith yn rhagor.

Dewch i wrthdystio yn erbyn banciau a chymdeithasau adeiladu Abertawe i gefnogi'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd.

'Dewch yn eich blaene 'te fe awn gyda'n gilydd,' meddai Mrs Huws.

Dewch i'r gegin i gael tamaid cyn mynd i orffwys,' meddai Pierre.

Wel, dewch i mewn i gyd." Cawsant wahoddiad i aros yn y cartref hwnnw a gofynnwyd i Pamela ofalu ar ôl y ferch, gan nad oedd yn mwynhau'r iechyd gorau.

"Dewch gyda mi," meddai, heb hel geiriau.

Dewch gyda mi am dro y bore 'ma i ganol ail lythyr Paul at y Corinthiaid.

Dewch i ganu.

Mae Festri Salem yn ddigon mawr i ymestyn y cylch, felly dewch yno.

"Dewch ag ef i mewn, Sam." "Ai ai, syr." Daeth y gŵr mawr i mewn, yn llawn pwysigrwydd.