Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dewr

dewr

Yn sydyn trodd y gôl-geidwad dewr yn hogyn bach ofnus iawn.

Swn y fagnel ar y bryniau, Gwaed y dewr ar dwrf y rhos, Angau'n casglu ei ysgubau Cyn aeddfedu gyda'r nos.

Hoff iawn oedd Megan o ganu - a hawdd Iawn iddi oedd rhannu; Rhoes oes i waith yr Iesu A dewr fu'n yr oriau du.

O, roedd llawer iawn o filwyr dewr wedi colli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw!

Gwnaeth benderfyniad dewr.

Roedd nifer o'i noddwyr yn aros amdani ar waelod y twr gyda'u hanadl yn eu dwrn ond mi gyrhaeddodd y curad dewr yn ddiogel ar y llawr wedi codi swm sylweddol o arian.

Yna edrychais ar gorff llanc dewr a oedd yn llonydd.

Mae Station Road yn gam dewr i fyd yr opera sebon.

Dynion dewr bydd d'enw di.

Nid nad oedd e'n ddyn digon dewr a gwrol, ond oedd bwrw er mwyn bwrw fawr o werth i neb, fel y dysgodd 'da'i dad.

Yr wythnos ddilynol ('chwanegol!) bum innau'n ddigon dewr i stwffio i mewn ac eistedd ar y silff - da- acyna prowla 'chydig o amgylch yr ogof yma heb gwmni, mae yn anodd mynd ati ac yn ddigon peryglus i raddau heb dipyn o brofiad cerdded creigiau ag ochr mynydd uwchben y mor aflonydd....

Datblyga Pryderi'n ŵr hael a charedig, gŵr sydd weithiau'n adlewyrchu balchder a thuedd i weithredu'n fyrbwyll yr hen drefn, ond eto gŵr dewr a chywir sy'n barod i roi ei fywyd ei hun er mwyn diogelu ei bobl.

Wrth edrych yn ôl ar flynyddoedd cynnar Plaid Cymru fe'n hargyhoeddir ar unwaith mai gwyr glew a gwragedd dewr a'i sylfaenodd, H. R. Jones, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. J. Williams, J. E. Jones, Kate Roberts; amser a ballai i mi fynegi am J. P. Davies, Ben Owen, Ambrose Bebb, Mai Roberts, Cassie Davies ac eraill, y rhai a roddodd fudiad rhyddid Cymru ar sylfaen ddiogel.

Un llawfeddyg dewr sy'n beirniadu'r system hwn o 'dâl am wasanaeth' yw George Crile.

Gwaetha'u modd nid oes llawer o orielau sy'n ddigon dewr i ddangos cylfyddyd fel hyn sy'n fwriadol Gymreig, yn hytrach na dangos sioeau diogel ac arddangosfeydd teithiol parod o'r South Bank.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Fel dyn yr oedd Watkin yn cael ei barchu gan bawb, oblegid yr oedd yn barod i wneud daioni i bawb; yn ddyn heddychol, yn bleidiwr gwresog i'r hyn oedd deg, ac yn wrthwynebydd dewr i bob trais a gormes.

Roedd Tomos yn gymeriad hoffus, syml, ffyddlon, gonest a dewr.

Lliwiau haf yng Nglynllifon Yntau'r dewr tu hwnt i'r don.

Roedd penderfyniad Harry Hughes Williams i ddychwelyd i Fôn yn barhaol ar ddiwedd ei gwrs yn y Royal College - lle'r enillodd wobr Prix de Rome - yn benderfyniad dewr.

Fel llawer o bobl sy'n gweithio ym myd chwaraeon, mae'r dynion dewr sy'n rasio ceir yn ofergoelus iawn.

Penderfyniad dewr felly oedd ceisio dathlu'r pen-blwydd gydag awr o raglen yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Dyn drwg oedd Pierre, ond dyn dewr iawn.

Gŵr cyffredin, gonest, dewr - gyda'r gallu anghyffredin wrth adrodd ei hanes trist i wneud inni sylweddoli fod gobaith i ddynoliaeth, nid drwy gasineb, ond drwy Gariad.

Pwysleisiai fod Mam yn disgwyl iddo ef ddod adre i fynd â ni i'r Cwrdd am y tro cyntaf a soniai am fy mrawd lleia a waeddodd mâs cyn i'r offeiriad gyhoeddi'r emyn olaf "Sdim fod siarad yn y Cwrdd" nes peri i'r gynulleidfa niferus (yr adeg honno) droi i edrych i gyfeiriad y cyhoeddwr dewr!