Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dewrder

dewrder

Unwaith eto allwn i wneud dim ond edmygu dewrder y gwragedd yma a cheisio cyfleu'r ffordd urddasol y maen nhw wedi dygymod â'r sefyllfa a dechrau bywyd newydd yn wyneb caledi mawr.

Yn y Trioedd ceir awgrymiadau o wrthdaro rhwng y ddau, ond yn y Gogynfeirdd cyfeirir at Fedrawd fel patrwm o foes a dewrder.

Blêr a gobeithiol oedd hi wedyn ond mi ddangosodd Earnshaw frwdfrydedd, dyfalbarhad a dewrder i erlid pas obeithiol.

Ceir cyfle hefyd i'r ymwelydd edmygu dewrder a phwysigrwydd gwaith Cymdeithas y Badau Achub ym Môn, yn enwedig cyfraniad Richard Evans a enillodd ddwy fedal aur yr RNLI.

Y mae celfyddyd y Pwyliaid, fel hwy euhunain, yn lawn dewrder, gwreiddioldeb ac ysfa angerddol i gyfathrebu.

'Rhaid i ti brofi dy hun yn ddyn, trwy deg neu trwy drais.' 'A sut y byddwch chi'n gwybod os bydda i wedi llwyddo?' Pryder ac nid dewrder a barodd iddo ofyn y cwestiwn.

Roedd y papurau newydd wedi dweud wrth eu darllenwyr am ei dewrder hefyd.

Doedd dim amheuaeth ynghylch dyfnder y newidiadau a dewrder gambl Menem.

Ei ddycnwch a'i wydnwch ef a gadwodd y Blaid yn fyw yn ystod y blynyddoedd anodd hyn, a'r un dewrder a fu'n gefn iddi ac a fu'n un o'r ffactorau a'i cadwodd rhag chwalu yn ystod blynyddoedd bygythiol yr Ail Ryfel Byd Yn y cyfnod cynnar hwn yr oedd dwy ochr i waith y Blaid.

Diolch i fedr a dewrder Bob Kelly achubwyd pobl Farnham rhag trychineb ofnadwy.

Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?

Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.

Ond llwyddodd Idris i orchfygu pob temtasiwn a magu dewrder i gwrdd â hwy bob un.

Yn ffodus mae gweithwyr y gwasanaethau achub, trwy eu medr a'u dewrder yn medru goresgyn pob math o broblemau er mwyn achub bywydau.