Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

di

di

Darparodd hefyd ar gyfer y Cymry di-Gymraeg yn ei gylchgrawn arall, Wales.

A oes yna elfennau dosbarth ynghlwm yn y drefn bresennol, yn enwedig ymhlith rhieni plant yr ysgol Gymraeg mewn ardal di-Gymraeg?

"Be' 'di'ch enw chi?" "Reilly," meddwn.

Mae rhywun yn barod i ddatgelu popeth i ti, a byddi di yn y lle iawn ar yr amser iawn.

O ganlyniad, mae'r cwmni%au ffôn ar hyn o bryd yn newid ein rhwydwaith genedlaethol o wifrau am rwydwaith o ffibrau optegol, ac mae sôn am ddod â ffibrau i'r cartref cyn hir er mwyn i ni fwynhau (os mai hwnnw yw'r gair) sianeli teledu di-ri a chysylltiadau cyfrifiadurol â'r byd y tu allan.

A'r syndod yw fod y teimlad hwn yn dal yn gryf ac wedi ysbrydoli rhai cyflogwyr yn ddiweddar i wahardd eu gweithwyr rhag siarad Cymraeg yng ngwydd y di- Gymraeg.

Mae pethaun troi dy ffordd di, yn arabach, ac y mae arwyddion dy fod tin ennill.

Be 'di 'bwysa 'sgwni?

Cyn i fi dy ladd di.' 'W!

Pe bai Aled yn herio'i ewyrth, mi ŵyr mai ar 'i fam y basa'r diawl di-egwyddor yn bwrw'i lid.

Fe gei di fynd rşan.'

'Dw i 'di 'laru ...

"Ti 'di gweld telifision Charles?" Ac yna mewn amser 'roedd mynd i dŷ Charles i weld telifision fel mynd i pictiwrs.

Pwy wyf i i sefyll ar dy ffordd Di?" Dechreuodd ofalu am Neuadd Whitechapel yn ogystal â'i chartref.

Digon diffaeth a di-faeth yw llawer o ffrwythau llachar y misoedd llwm.

Ar hyd y blynyddoedd, fe fu sawl sgandal o'r fath - Beddau'r Proffwydi gan WJ Gruffydd yn amau moesoldeb ambell flaenor; y gerdd Atgof gan Prosser Rhys yn awgrymu fod perthynas hoyw yn bosib yn Gymraeg ac awdur Saesneg fel Caradoc Evans yn ennyn melltith am weddill ei oes oherwydd ei bortread di-enaid o'r gymdeithas wledig, grefyddol, Gymraeg.

A'r slasen fach wen 'na i fod yn aros amdana i, 'di mentro i'r Hen Arcêd am unwaith.

ar gyfer cyflwyno'r Gymraeg i athrawon di-Gymraeg Gorllewin Morgannwg

"Beth bynnag am gymhelliant, beth bynnag am fwriad, elli di ddim osgoi'r ffaith fod hyn oll yn newid ein sefyllfa ni."

"Chaw chiw chol chim?" sef o'i gyfieithu "Be di enw o?" Na sori, doedd o ddim yn adnabod yr un Patrick!

Maen cynnwys dwy fersiwn o drac newydd sbon o'r enw Nosweithiau Llachar/ Dyddiau Di Galar, a dwy gân fydd yn gyfarwydd i wrandawyr cyson, Fy Nghelwydd Clai a Dim Dagrau, cafodd eu recordio au darlledu fel rhan o sesiwn Radio Cymru.

"Ysgrifenna di y cwbl i lawr ....

Beth wnei di?

A deallaf mai di-ongl yw meidroldeb: yn begwn gogledd a de, myfi yw'r newyddian sy'n croesi'r ynys i'th ddwyrain.

Gad i ni ofyn am dy gymorth di, gad i ni ymdawelu gyda thi, a rho bwrpas ac amcan priodol i'n bodolaeth ni o fewn dy deyrnas.

"Nicyrs Ffansi 'di troi'i chefen?'

Nid oedd yn boblogaidd iawn yn y pentref ar y dechrau oherwydd ei natur di-flewyn-ar-dafod ond cafodd ei derbyn yn well ar ôl iddi ddweud wrth yr heddlu fod Mark yn gwerthu cyffuriau i blant ysgol.

Hyd yn ddiweddar iawn yn y ganrif bresennol, dysgid plant i beidio byth â siarad Cymraeg ym mhresenoldeb y di-Gymraeg.

Gwaith amser mwy rhydd o ddyletswyddau pwysicach garddio fyddai hyn, dyddiau di-wlawio diwedd hydref neu aeaf fel rheol.

'Cymer di ofal o hwnna,' meddai Mr Williams gan droi a rhoi cip ar Dilwyn yn y cefn.

Bydd rhywbeth syn dy ddal di nôl ar hyn o bryd er lles i ti cyn bo hir.

'A beth bynnag, mae 'na lawer o bethau dwyt ti ddim yn eu gwybod; deffra wnei di!' 'Da 'te,' meddai Robat John.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

'Fydd petha'n well 'leni, gei di weld.' Cysurodd Marian ei gŵr yn obeithiol.

Ac ail-ddatganwyd egwyddorion sylfaenol Cymdeithas yr Iaith mewn cynnig gan Angharad Tomos a Dafydd Morgan Lewis, sef bod Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sosialaidd, ei bod yn fudiad di-drais sy'n credu mewn heddychiaeth ymosodol ac yn cymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd.

'Mi faedda i dy sgidia di, boi.'

Mae'n ddigon dof a di-arogl heddiw, ond fe ddaw'r prynhawn pan fydd pawb yn gwybod ei fod e' yna.

"Ond cofia," ychwanegodd, "mi fydd yn rhaid i ti roi cweir i un o'r hogia cyn y cei di lonydd ganddyn nhw." Er cased gen i glywed y newydd hwn ganddo, sylwn gyda boddhad ei fod wedi newid y "chi% bell i'r "ti% agosach ac anwylach.

"Dos di yn syth i nôl Cymro, ac i ddweud yr hanes am Dad wrth Mr Bassett, Idris," meddai Cadi, "ac fe aiff Deio a minnau i'r tŷ i gynnau tân ac i hwylio swper." "O'r gore," meddai Idris, ac i ffwrdd ag ef.

Ac os ydi hi'n cau gwrando mi sleifia'i drwodd i'r cefn pan ga'i chefn hi a dy adael di mewn felly ac mi geith hi weld wedyn na tydan ni ddim yn wynt ac yn law drwg drwg go iawn.

A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.

Go brin y gellid meddwl am dîm mwy cymwys na'r un a fu'n gyfrifol am sicrhau bod gwaith yr Athro Jones ar y testun pwysig a diddorol hwn yn gweld golau'r dydd o'r diwedd, er na ellir ond gresynu iddynt aros ugain mlynedd cyn mynd â'r maen i'r wal!

O'r diwedd, dyma Dewi Emrys yn ennill un o brif lawryfon yr Eisteddfod, ond gyda chasgliad barddonllyd a di-wefr.

Gwelais ef unwaith yn ~ynnu ceffyl haearn bob darn oddi wrth ei gilydd ac yn ei osod yn ~i ôl yn daclus a di-drafferth.

Effaith y temtiad oedd peri i Iesu ymgymryd yn hollol agored yng ngŵydd ei ddilynwyr ag anturiaeth y chwyldrowr di-drais.

Da ni'n teimlo fod yna dipyn o ôl y Stereophonics ar y gân newydd, sef Nosweithiau Llachar / Dyddiau Di Galar, yn gerddorol ac o ran y geiriau ar syniadaeth.

Am ddeg, gan dy fod di'n gorfod dwad bob cam o Lechfaen.' 'O'r gora, Mr Richards.

Fe fyddai Cymdeithas yr Iaith ynghyd â llu o fudiadau di-drais eraill yn syrthio'n dwt i'r categori yma.

Mae hi'n gân di-flewyn ar dafod, yn sicr, gan fod ynddi regfeydd cyson.

Dywed di wrth Mam be sy'n bod.' Dim effaith.

Mae'n anodd gweld y gwahaniaeth rhwng athroniaeth 'Get on your bike' Norman Tebbitt a'r canoli di-bendraw o ddiwydiant a welwyd yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel.

Fe fydd yna andros o lanast, ond dyna ddiwedd y Coraniaid hefyd, a fyddi di a dy bobl ddim gwaeth." "Wyt ti'n siŵr?" "Yn berffaith siŵr.

'Bydd yn ddistaw, gyfaill, wnei di?' meddai Ffredi'n ddifalais.

"Duw, 'di hyn ddim byd," medda fo.

Chei di ddim mynd o gwmpas yn cario baich pechodau'r byd ar dy ysgwyddau, mewn sefyllfa lle nad oes bai arnat ti o gwbl, pr'un a wyt ti am wneud hynny ai peidio.

Edrychais yn drist ar y glaw di-baid.

'Dy iechyd di sy'n bwysig.'

Maen ymddangos i mi fod llawer o gwyno di-angen , fel pe wedi eu cynllwynio.

Chei di ddim dod yn aelod o'r criw nes y byddi di wedi mygio rhywun.

Ar waethaf holl ddoniolwch y 'Dad's Army' y gwir yw mai milwyr rhan amser oeddem (di-dâl wrth gwrs).

Ar un olwg gwelaf HANES yr ardal drwy ffenestri fy ystafell a thrwy ffenestri'r meddwl, a dod i'r farn nad oes angen croniclo hanes plwyf di-nod yng nghanol sir Aberteifi gan fod y cyfan o flaen fy llygaid.

"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.

ond y ddwy ohonom yn egluro ein bod yn llysieuwyr felly ffwrdd a ni i gael brecwast Chinese go iawn - powlen fawr o noodles hefo wy 'di ffrio ar ei ben.

Gwrthododd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, gyfarfod â 200 o lowyr di-waith a orymdeithiodd 180 milltir o'r Rhondda ym mis Tachwedd.

Di-swyddwyd Sergei Borovsky wedi i Belarus golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Estonia.

Dilyn y llwybr yna a wedi mynd i gornel y adeilad acw, yr adeilad anferth o dy flaen di fydd e, eglurodd myfyriwr.

'Fedri di ddim awgrymu rhyw gynllun i mi gael gwared â hi?

Ia, ella cei di dy neud yn Barchedig William Cadwaladr.

Nid ydynt chwaith yn gwahaniaethu rhwng y Cymry Cymraeg a'r rhai di-Gymraeg.

'Ar dy ôl di, Ffredi,' cilwenodd Gethin.

100,000 o lowyr Cymru yn mynd ar streic am 20 diwrnod i gadw'r gwahaniaeth cyflog rhwng gweithwyr crefft a'r di-grefft.

Efallai bod hyn yn esbonio paham yr oedd cynifer o weinidogion yr achosion ymneilltuol yn nyffryn Aman a'r cylch yn ystod y cyfnod cyn-ddiwydiannol yn wŷr di-goleg.

"Ddaru o dy frifo di?" gofynnodd un o'i gyfeillion.

A gwylia wrth ymlafnio o gwmpas nad ei di ddim yn fwy o ffwl nag wyt ti.

'Nei di mo ngadel i i fynd i'r hen gollege ene, a 'nei di, Rhys?' ' Atebodd Dafydd drosof, ac yr oeddwn yn ddiolchgar iddo ``Mi gewch siarad am hynny eto, Miss Hughes,'' ac wedi ychwanegu ychydig o eiriau cysurus, aeth Dafydd ymaith.

Nid boliau mawr yn hongian ar esgyrn di-gnawd yw unig arwyddion newyn.

Fe synni di cyn lleied sy 'na.

Mae casglu ffeithiau pendant i adeiladu'r darlun yn rhagdybio fod y pethau hyn yn bendant, sicr a di-newid.

Be 'di gwaith dy dad?

Dywedodd y mab rywbeth wedyn yng nghlust ei dad, ac ebe'r Yswain: `Dyma ti, Harri, 'rydan ni'n mynd i dreio codi llwynog ddydd Llun; roi di fenthyg dy geffyl i Ernest am y diwrnod?'

Diolch i ti am y caredigrwydd hynny tuag ati, o leia - mae'n siŵr y byddai hi'n gwerthfawrogi hynny o gyfeillgarwch oddi wrth ei ffrind." "Mae'n amlwg fod y syniad hwnnw wedi croesi dy feddwl di, neu faset ti ddim wedi son am y peth, felly paid a bod mor hunangyfiawn gyda fi.

'Mi fasa'r ffrog werdd 'na'n dy siwtio di i'r dim.

Mae pob un o aelodau'r Pwyllgor Rheoli'n wirfoddolydd di-gyflog, a dirprwyir cyfrifoldeb am weithgareddau dydd-i-ddydd y Gymdeithas i Drefnydd a thim o staff.

Gwedda arddull teledu'r cyfnod - arddull fwy theatraidd a mwy cyfyng i'r elfennau hynny o'r ddrama sydd yn chwarae gemau theatrig di-gynulleidfa mewn twll bychan ynysig.

'Oes bwys pa dŷ?' 'Dy ddewis di.

Bydd di'n ofalus yn ystod y seremoni yfed.

Pwy di Pwy: Cyfeiradau a chysylltiadau buddiol.

Peth ddigon digalon yw sylwi ar yr ymgiprys am flaenoriaeth rhwng y gwahanol deuluoedd a'r cynhennu di-stop rhyngddynt a'i gilydd.

Mae'n rhaid bod golwg wedi dychryn ar fy wyneb, gan yr âi rhai o'r bechgyn yn fwy hy arnaf, a llawer yn gweiddi, "Roi di gweir i mi?" Yn sydyn, cododd un bachgen ei law, a thaflodd fy nghap oddi ar fy mhen.

'Dydw i ddim yn dweud.' 'Pwy sy'n dy licio di, 'ta?' 'Wn i ddim.' 'Pwy sy'n caru dy wallt hir tywyll ac yn ysu am gribinio ei fysedd drwyddo?...Bertie?' Chwarddodd Bigw yn bryfoclyd.

Goruchwyliwr y gwersyll oedd gŵr di-flewyn-ar-dafod o'r enw Ismail Krief.

A oedd hi yng ngafael rhyw ddiymadferthedd di-sbonc?

Cwtogwch neu'n well byth, peidiwch ag ychwanegu siwgr at eich te neu'ch coffi a dewiswch ddiodydd ysgafn 'di-siwgr'.

Mae'r brenin eisiau dy weld pan gyrhaeddi Sipi a byddi wrth dy fodd pan glywi di ei neges." Yna i ffwrdd â fo tan chwerthin wrtho'i hun.

Mae'r albym di hanner ei orffen.

'Cymer ofal' meddai'i ewyrth, 'cymer ofal nad ei di ddim yr un ffordd â nhw!'

"'Fyddi di ddim yn teimlo weithia y buasai'n dda gen ti petasai Rhagluniaeth wedi gadael llonydd iti yn dy stad gyntefig - i fwynhau dy hun wrth dy gynffon ar frigau'r coed?" "Cynffon!

Dyddiadur Dyn Di-waith - Owain Wyn Davies (tud.

I'r sawl sydd yn gallu cyfuno sylwadaeth fywiog a diwylliant eang ac sydd yn cael ei ysgogi gan gariad at ei fro, y mae ei filltir sgwar yn destun diddordeb di-ben-draw.

'Dere ma ac fe gei di ysgub ar dy din?' galwodd Vera gan blygu i godi'r bag o'r palmant.