Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diben

diben

Diben yr ymchwil oedd cynorthwyo'r Bwrdd i ddatblygu strategaeth farchnata ar gyfer yr iaith Gymraeg a allai gynnwys strategaethau cyffredinol i feithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith, ac i annog pobl i'w defnyddio.

Gan yr ymddengys ei fod wedi camddeall diben y brotest, bydd llythyr arall yn cael ei anfon ato - ar ffurf mwy confensiynol - er mwyn iddo ddeall yn iawn beth yw gofynion y Gymdeithas.

Oni ddaw galw am ein gwasanaeth mewn byr amser, ni fydd diben o gwbl i'n cadw yma mewn dillad milwrol.

Fel y dywedodd Golygydd Y Cymro mewn cyswllt arall, "Yr eliffant a'r morfil yn unig o holl greaduriaid Duw sydd i'w cadw, fe ymddengys." Yr oedd y dwr llwyd yn fy mhiser yn dechrau gloywi tipyn erbyn hyn; dechreuwn sylweddoli nad diben coleg diwinyddol oedd wynebu problemau trydanol yr oes, ond rowndio'r traddodiad fel llechgi, "heb ofal am y defaid"; un o ddyfeisiadau'r Ffydd i ffoi rhag ffaith, mewn gair.

Does yna ddim diben i unrhyw un wadu i ddatblygiad y sîn ddawns Gymraeg fod yn eithriadol o araf ac, yn sicr, mae yna le i wella eto.

A diben y seiadau, fel yr esboniodd Williams yn Drws y Society Profiad, oedd diogelu, amddiffyn, grymuso a chyfoethogi ysbrydoledd y dychweledigion.

Mae trysorau, yn ôl traddodiad, o dn rai o'r meini a diben y cerrig anferth yw gwarchod yr aur a'r gemau gwerthfawr.

I'r diben hwn rhaid i ni ddatblygu sgiliau'r gweithlu gan symud tuag at ddiwylliant o ddysgu-ar-hyd-oes ac ar yr un pryd hyrwyddo twf cwmni%au bychain a chanolig eu maint a all gyflenwi'r cwmni%au rhyngwladol.

Doedd dim diben dweud na allai'r un joci ar wyneb daear ofalu bod pob ceffyl yn neidio'n berffaith bob tro ac yn enwedig hen gythraul croes a oedd wedi ei ddysgu'n wael.

'Diben y gwersyll yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth,' meddai.

Yn ôl un bardd 'deubeth sydd ddrwg eu diben' mewn cymdeithas wâr, sef 'tref heb parch', sef cymuned o bobl, a 'tyrfa heb ben', sef cynulliad heb atweiniad a allai droi'n anniben ac aflywodraethus.

Ni welwn fawr ddim diben mewn gwneud y Gymraeg yn brif gyfrwng addysg holl ysgolion Categori A y sir, oni ddaw'r Gymraeg wedyn yn brif iaith gweinyddiaeth gyhoeddus a mewnol ein prif sefydliadau.

Diben y ddogfen hon yw cyflwyno strategaeth i sicrhau dyfodol ffyniannus i'r iaith Gymraeg.

Bellach, dan ddylanwad Genefa, y mae wedi cefnu ar ddulliau rhydd Luther a Tyndale a welir yn Kynniver llith a ban ac amcanu at gyfieithu 'air yn ei gilydd' i'r diben, fel yr eglurodd mewn nodiad Saesneg yn y Llyfr Gweddi, 'i air Duw ei hun aros heb ei lygru na'i dreisio o genhedlaeth i genhedlaeth'.

Ond mae'n siŵr mai'r graffiti mwyaf poblogaidd yw'r hwnnw a roed yno i mwyn un diben yn unig - sef i dynn gwên a diddanu.

A yw disgyblion yn deall diben dysgu?

Pwysleisia Angharad Dafis yn ddiddorol iawn mai: Diben creu Wil James yw dangos na ellir chwalu'r hen drefn a chreu trefn newydd sosialaidd o fewn i'r werin ei hun.

Petai'r ymweliad wedi dwyn ffrwyth byddai diben sôn wrtho.

Does dim diben gallu sgwennu sieciau yn Gymraeg os yw'r byd wedi symud ymlaen i wasanaethau bancio dros y We.

Diben addysg yn gyffredin yw mawrhau rhinwedd y genedl y perthynwn iddi, a phardduo eraill.

Gofynnais iddo pa allweddau oedd y gorau at eu diben.

Yno y cawsant eu geni a'u magu a'u hyfforddi i'r diben o wasanaethu'r tylwyth a'r llwyth hyd eu marw, a phâr ifanc yn eu dilyn i wneud yr un peth wedyn.

Cyn leinio muriau a nenfwd y twnnel â briciau, byddai rhywun yn cerdded drwy'r twnnel cyn i bob trên chwyrnellu drwyddo, i'r diben o wneud yn siwr nad oedd talp o graig wedi disgyn ar y trac.

Edrych ar y darlun hwnnw o safbwynt agwedd y dyneiddwyr at Gymru a'r Gymraeg fydd diben y ddarlith hon.

Y casgliad a dynnaf oddi wrth yr argyhoeddiad hwn yw fod diben i'r hydref ysbrydol, er nad wyf bob amser yn gwbl glir beth ydyw.

A dyma oedd diben yr uchelseinyddion a welsom ymhob man yn y wlad.

Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol llewyrchus yng Nghwm-garw yn nghyfnod Owen Williams 'i'r diben o gadw ieuenctid o'r dafarn, ac i yrru awydd arnynt am ddysg a gwybodaeth'.

Ym Mawrth, awgrymasai nad oedd diben i'r Blaid, gan fod brwydrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg eisoes wedi eu hennill.

Os oedd twll yn nho'r ysgubor, oedd diben ei drwsio?

Yr oedd natur gyfan wedi ei harfaethu i gynhyrchu, a chronnai cydymdeimlad a chydfwriad gwahanol elfennau natur ynghyd i'r diben hwnnw.

Pan fabwysiadwyd llyfrau'r Hen Destament gan yr Eglwys Gristionogol yn dreftadaeth iddi, wrth gymryd yn ganiataol fod parhad rhwng crefydd yr Iddewon a Christionogaeth, fe dderbyniodd yn rhan bwysig o'r dreftadaeth honno y syniad Iddewig mai diben Duw yn cael ei weithio allan mewn amser yw hanes.

Y mae'n debyg bod coed ar y dechrau yn ateb yr un diben, ond bod meini, am eu bod mor barhaol, bob yn dipyn wedi cymryd eu lle.

Oherwydd ei bod yn dal yn weddol gynnar yn y bore, rhaid oedd aros hyd cyrraedd y pentrefi eraill cyn gweld eu diben.

Does neb yn hollol siŵr beth oedd diben gwreiddiol y meini hirion erbyn hyn þ efallai mai dynodi beddau arweinyddion y mae rhai ohonynt; efallai mai nodi man cyfarfod neu efallai mai rhyw fath o allor i'r hen dduwiau ydyn nhw.

Diben y digwyddiad yw rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr drafod eu dyheadau a'u problemau gydag ardaloedd eraill sydd a sefyllfaoedd tebyg.

Ac er nad ydym yn dymuno argymell iaith o'r fath, does dim diben gwadu fod y ddau fics ychwanegol a geir ar y sengl yn llawer mwy pwerus ac effeithiol na'r fersiwn lân, a hynny am nad ydynt wedi cael eu golygu o gwbl.

Ni welwn fawr ddim diben mewn penodi Cymry Cymraeg i swyddi - yn wobr, fel petai, am fod yn Gymry Cymraeg lle maent yn cyflawni'r mwyafrif mawr o'u dyletswyddau trwy gyfrwng y Saesneg.

Be' oedd diben colli ei limpyn?

Diben y llyfryn hwn yw cynnig arweiniad ymarferol ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ffordd fydd yn chwythu bywyd i'r egwyddor o gyfartaledd rhwng y ddwy iaith ac yn rhoi lle teilwng i'r Gymraeg fel priod iaith yn ei gwlad ei hun.

`Diben y gwersyll,' meddai, `yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth.