Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dieithr

dieithr

Aeth canrifoedd heibio er pan ddangosodd Mair ei Mab bychan i deithwyr dieithr o wlad bell.

I'r teithiwr dieithr a ddeuai am dro o Lundain, dyweder, i berfeddion gwlad Cymru, rhan o Loegr oedd y wlad o'i gwmpas.

Yn ol arlunwyr y Canol Oesoedd, hen ddynionach crebachlyd oedd y cemegwyr cyntaf, yn cymysgu rhyw gawl rhyfedd o ymennydd ystlumod, llygaid brogaod a thafodau madfall mewn crochan enfawr, gan fwmian geiriau swyn dieithr.

Yn ardal Dolgellau hefyd, mae yna gyffro wrth i bobol edrych yn fanwl ar bob wyneb dieithr rhag ofn i Richard Gere neu Sean Connery alw heibio'r National Milk Bar am baned rhwng ffilmio golygfeydd o'r epig Arthuraidd, First Knight.

Camgymeriad hefyd fuasai tybio mai alltud dieithr i Gymru oedd Elfed.

Fyddwn i ddim am i hynny ddigwydd gyda'r Geiriadur Idiomau gan y bydd yn gaffaeliad arbennig i ddysgwyr a fydd yn ei ddefnyddio yn llusern i'w goleuo am ddywediadau dieithr.

'Cofia, paid â siarad â neb dieithr a phaid â gadael y bygi o d'olwg am eiliad,' rhybuddiodd.

Roedd Smwt wedi codi trywydd traed rhywun dieithr o gwmpas y cawell.

Ar y diwedd, bu raid i mi fynd ymlaen a chyfarfod y ddau actor dieithr.

Teimlent yn siŵr bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd ac na fyddai yn rhaid iddynt aros yn hir cyn gweld yr ymwelydd dieithr yn dod ar ei neges ryfedd a dirgel at y ffynnon.

Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.

Doedd y morwyr ddim yn or-hoff o gicio'u sodlau ar dir dieithr.

Yn anuniongyrchedd bwriadus y gweithiau a'r datganiadau hyn, mae rhywbeth anfethodistaidd, dieithr.

rhyw si dieithr yn y pellter ...

Pe digwyddasai dyn dieithr fod yn teithio ar y ffordd hon, ac heb wybod am helyntion pedair blynedd a basiodd, buasai yn anhawdd iddo ddychmygu beth allasai fod y mater, beth oedd yn bod, beth oedd wedi dygwydd.

Ni allai'r alltud anghofio 'aelwyd y bwthyn gwyn' pes mynnai; roedd iddo'n 'bur haddef anhun a breuddwyd' ac o sylweddoli ei ddyled iddi, 'O ddedwydd aelwyd!', rhaid oedd ymdynghedu i ailgodi ei hallor ac addoli eu Duw 'mewn dieithr oror'.

Rhaid imi groniclo profiad dieithr a ddaeth i'm rhan wedi inni gamu eto i'r goleuni a'r heulwen.

Yr un parodrwydd i rodio llwybrau newydd a'i gwnaeth yn arloeswr dihafal ym maes dieithr darlledu yn nes ymlaen ar ei yrfa.

Y nos Sul gyntaf i mi yno, ar ôl i mi ddod o'r capel, meddai Mam wrthyf, "Rhaid i ti godi'n fore i fynd i'r ysgol fory." Doeddwn i ddim yn rhyw falch iawn o glywed hynny gan mai peth go fawr i fachgen swil yw mynd i ysgol newydd, i ganol plant dieithr.

Roedd ar fin setlo i gysgu yn fodlon braf pan glywodd leisiau dau lais dieithr yn siarad yn y tywyllwch.

Er bod y math yma o orfoledd wedi digwydd lawer tro yn ystod diwygiadau'r gorffennol, yr oedd bellach yn beth dieithr iawn ac yn gryn sioc i fwyafrif yr addolwyr.

Nid peth dieithr o gwbl oedd cael Neuadd Powis yn orlawn i'r cyfarfodydd.

Mae'r rhain wedi cael y profiad o weld y byd mewn golau dieithr ac wedi dod i'r farn mai yn y golau hwnnw'n unig y mae y byd i'w weld yn iawn.

Ym mhlith y rhain hefyd y mae cyfraniad dieithr y dyn du a fu'n aros yn ein tŷ ni unwaith - mewn dyddiau pan oedd gweld dyn du yn dipyn o gyffro, heb sôn am ei fod yn cysgu'n yr ystafell nesaf.

Plwyfol, yn ystyr orau'r gair, yw'r newyddion a geir ynddynt ond yn aml y maent yn ffenestr i'r byd i'r graddau eu bod yn cynnwys adroddiadau gan drigolion lleol, neu am drigolion lleol sydd wedi ymweld a rhannau dieithr o'r byd, neu sy'n byw dramor.

Ac y mae'n naturiol hefyd, os bydd rhywun am gyflwyno peth o gynnyrch llenyddol gwlad arall yn ei iaith ei hun, iddo ddewis ffurfiau y byddai'n weddol hawdd eu cyfieithu a'u cyfaddasu, yn hytrach na mynd at y pethau mwyaf astrus a dieithr yn y llenyddiaeth dan sylw.

Eto, daeth y sŵn dieithr-gyfarwydd ar ei ôl, gan fynnu gwthio'i ffordd tuag ato.

Pobl yn siarad mewn ieithoedd dieithr jargonaidd a'u Cymraeg artiffisial wedi ei loywi gyda Detol yn lle defnyddioldeb a difyrrwch.

Rhedodd y tair cath mâs drwy'r drws - byth i ddychwelyd - pan glywsant lais y Sais dieithr o Daventry!

Aeth y ddyletswydd deuluaidd hefyd yn beth dieithr yn ein cartrefi a chollwyd y parchusrwydd hwnnw at y pethau sydd yn cyfrif mewn bywyd.

'Naddo, byddai hynny wedi ei wneud yn wahanol i'r gweddill,' meddai'r dyn dieithr.

Ymhen ychydig agorwyd y drws a cherddodd dyn dieithr i mewn yn dalog.

Nid balchder barodd i Bantycelyn ganu, "Dyn dieithr ydwyf yma," ond gwyleidd-dra.

Yn y lloft roedd bwydlen brecwast pur anaferol (peth dieithr mewn tŷ gwely a brecwast, beth bynnag).

Yn gyntaf, er ei fod yn aelod ers deng mlynedd ar hugain (ei eiriau o), mae ei wyneb o yn ddigon dieithr i rengoedd gweithredol y Gymdeithas i gael ei gyfri'n wyneb newydd, ac yn ail os ydio am werthfawrogi talent newydd mewn unrhyw faes darllened fyfyrdodau gwleidyddol Hefina Clwyd.

Ac eto, y tu allan i'r stribedi culion o olau trydan a ddihangai rhwng y llenni duon dros y ffenestri, roedd y byd mawr yn dywyll a dieithr, yn llawn ofnau am yr hyn a ddeuai yfory drwy law'r postman am hynt a helynt plant y plant a aeth i ffwrdd i Affrica, i'r Dwyrain Pell ac i bob man lle ceisiai Prydain Fawr ddal rhyw afael ar ei thiroedd ar hyd a lled wyneb y ddaear.

Yn y GEM GANOL yr ydych yn hwylio môr dieithr heb un siart.

Gwelwn enwau dieithr ar eu hetiau fflat, HMS Glendower.

Dillad hefo enwau dieithr fel jîns a thrainers a chrysau chwys.

Mi ddes i yma, fel y gwyddoch chi bellach, i gadw llygad ar Twm Dafis ac i geisio holi'n ddistaw bach ymhlith y trigolion a oedden nhw wedi sylwi ar wynebau dieithr hyd y fan yma yn ddiweddar.