Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dierth

dierth

Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.

Rhyw fath newydd o gwrdd yw'r Holi'r Pwnc 'ma eto, ac enw dierth i mi oedd Owen y Gelli.

Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.