Bellach daeth arwyddocâd newydd i'r hen wyl, gyda'r pryder ynglyn â gwenwyno'r afonydd, torri fforestydd, troi tir âr yn anialwch a difa rhywiogaethau cyfain o greaduriaid.
Y mae rhai, medd Sion Dafydd Rhys, 'a fynnynt doddi a difa holl iaith y Cymry, a chyfleu a dodi iaith y Saeson yn ei lle hi: yr hynn beth yssydd ymhossibl ei gwbl-hau a'i berpheithio, heb ddifa yn llwyr holl genedl y Cymry, a'i gwneuthur yn Seisnic'.
Roedd mudiadau dyngarol wedi bod yn rhybuddio ers misoedd fod y sefyllfa yn y wlad fechan yn dirwyio'n gyflym ac y byddai'r boblogaeth o saith miliwn yn wynebu newyn difa%ol os na fyddai'r gymuned ryngwladol yn estyn cymorth yn fuan.
Gwelais y Capten druan fwy nag unwaith yn ceisio'u difa gyda dwr berwedig o'r gegin.
Dychmygais hi'n cael ei difa gan lindys neu - a chrynais wrth feddwl hyn - yn cael ei gwthio i sosbaned o ddŵr hallt, berwedig a'i choginio, cyn cael ei bwyta gan bobl.
Gellir eu difa gyda'r un lleiddiaid â lindys y gloyn gwyn.
Os oes raid, gellir eu difa trwy chwistrellu deunydd cemegol pwrpasol arnynt.
Drannoeth yr ysbeilio a'r difa daw'r adfer a'r ail-godi.
Yr unig ateb i'r cadwriaethwyr yn Affrica oedd dewis haid gyfan i'w difa, gan sicrhau nad oedd yr un creadur yn dal yn fyw rhag trosglwyddo'r dychryn i haid arall.
Roedd Siad Barre eisoes wedi difa'r hen drefn o lywodraeth yn Somalia, drwy danseilio grym yr hynafgwyr ymhob llwyth - a phan ddiflannodd yr unben, fe adawodd ar ei ôl wlad ar chwâl.
Nid problemau ymarferol fu'n dal y byd yn ôl tra'r aeth Saddam Hussein ati eto i geisio difa'r Cwrdiaid, ond diffyg ewyllys gwleidyddol i ymyrryd.
134,000 o anifeiliaid yn gorfod cael eu difa oherwydd y clwyf traed a genau.