Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

difaru

difaru

Pan glywodd fy nhad hyn, dywedodd, 'Mi fydd yn difaru ar hyd 'i oes.' Ond nid felly y bu hi.

A'r ennyd honno fe'i cafodd Carol ei hun yn difaru nad oedd Emyr yno.

Rydw i'n difaru 'nghalon na faswn i wedi dysgu tipyn o Gymraeg iddyn nhw.

Dwi'n sïwr bod BMW yn difaru prynu Rover yn y dechrau, ychwanegodd Ms Fullerlove.

Rych chi'n dechre difaru nawr i chi alw arnon ni i ddod i'ch helpu chi!

Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed.

Fel pe bai'n difaru'n sydyn, meddai, "Ma'n flin gen i am ddydd Sadwrn.

Tebyg fod Lloegr wedi difaru'r penderfyniad i adael Robert Croft allan o'r tîm.