Heb driniaeth (sef dognau beunyddiol o cortison, neu gyffur tebyg) ceir llesgedd a nychdod, ansefydlogrwydd emosiynol, difaterwch ac iselder ysbryd.
Tadogodd un o'r milwyr y difaterwch ynglŷn â phethau crefyddol ar anallu pregethwyr a chaplaniaid i egluro'r gwirioneddau Cristionogol mewn iaith ddealladwy.
Difaterwch Y drydedd wedd yr hoffwn ei nodi yw DIFATERWCH.
Eto, y mae treulio llawer o amser, ie, y rhan fwyaf o'ch amser tra yn yr Athrofa, i droi a throsi Geiriaduron, ac i chwilio a dysgu Gramadegau, weithiau yn peri difaterwch yn meddwl dyn yng nghylch amaethu crefydd ysbrydol yn yr enaid, a dal cymundeb a Duw.
Ynglŷn â phob cwestiwn o natur grefyddol mynegwyd difaterwch enbydus.
Ar y llaw arall, y mae diffyg ymwybyddiaeth, hyd yn oed difaterwch yn arwain at ddiffyg hyder, sydd yn ddi-gwestiwn yn tanseilio cynnydd.
Gwedd arall ar y drwg hwn yn y dyddiau hyn yw difaterwch gresynus llawer o Gymry Cymraeg ynglyn â safonau'r iaith lafar.
Gwendid llawer ohonynt yw nid diffyg dawn ond diffyg ymroddiad, diogi creadigol a difaterwch.
Miss Aster a ddangosodd iddo sut i edrych arnaf i: ond gwyddwn yn eithaf da mai i blesio Mam y chwipiodd honno ei difaterwch cynhenid yn gasineb.
Ond seguryd, difaterwch, rhagrith, a ffugsancteiddrwydd, ni allai eu goddef o gwbl.
Edrychai Cymry'r cyfnod ar Ewrop drwy lygaid eu cymdogion Seisnig, sy'n esbonio eu difaterwch tuag at y cenhedloedd niferus hynny ar y cyfandir a oedd yn debycach iddynt hwy o ran maint a phrofiad.