Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

difetha

difetha

Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.

Chwarddodd Dan yntau wedi iddo ddarllen yr hysbysiad: 'Drwy i ddwr dorri i mewn a difetha'r stoc o bapur yn y seler, nid ymddengys Yr Utgorn yr wythnos hon.

A wyt ti wedi dod i'n difetha ni?

Fel y gwyddost ti, mae 'na bapur arall yn y dre' 'ma, ond maen nhw wedi methu dwad â fo allan wsnos yma - pibell wedi byrstio yno a'r dwr wedi difetha'u papur nhw.

Roedd sŵn tractors wedi difetha ei glyw ers blynyddoedd.

Yr hyn i'w gofio yw y gall prynu annoeth olygu eich bod yn llosgi eich bysedd yn ariannol a'ch bod hefyd yn difetha eich gwyliau os nad yw'r garafan yn ateb eich gofynion personol chi.

Mae llawer o'r gwledydd sy'n datblygu yn dioddef eithafion tymheredd a lleithder ac mae rhoi ffilm mewn camera bob rhyw ychydig funudau mewn monswn neu storm o lwch yn waith lle gall y ffilm gael ei difetha'n hawdd iawn.

A chydnabyddwn ein bod wedi ein gosod gennyt ar y blaned hon nid i'w hanrheithio a'i difetha ond i ddwyn cyfrifoldeb drosti o dan dy lywodraeth Di, Arglwydd y cread.

"Mae'n bywydau ni'n cael eu difetha gan agwedd pobol," meddai Sian, sy'n gweithio i Gymdeithas y Spastics yn eu penca\dlys Cymreig yn y brifddinas.

Doedd gwaith yn yr ysgol fel athro ddim mor ddiddorol a lliwgar i ysgrifennu amdano rhywsut." "Mae'n bywydau ni'n cael eu difetha gan agwedd pobol.

Bu ymdrech i atal y llygredd sydd wedi bod yn difetha nifer o'r hen adeiladau.

Roedd gormod yn cale ei ddweud yma - dyn yn methu wynebu'r gwir, twyll yn difetha bywyd, a bod rhai pethau mewn bywyd nad oes modd i'w hesbonio - hyn i gyd mewn rhyw ugain munud.

Dywed y Cyngor erbyn hyn nad ydynt yn fodlon efo'r cynlluniau ac y byddai sefydlu canolfan o'r fath, yn difetha'r ardal.

Y mae cryn bryder yma ynglyn ag ymwelwyr o Brydain yn cyrraedd rhag ofn y bydd y clwy yn difetha'r economi.

Dyma fi wedi difetha'ch het chi, syr.' 'Hidiwch befo,' meddwn innau.

Yr un wythnos ag yr oedd rhyw arbenigwr neu'i gilydd yn cyhoeddi fod cwrw yn dda inni gallech fentro y byddai'n rhaid i rywun gael difetha popeth trwy ddweud y dylem yfed mwy o ddwr.

'Y bits bach, ma' hi 'di difetha bob dim.'

"Rwyt ti a dy fath wedi difetha'r dyddiau hynny am byth," a phoerodd Marie ar y llawr wrth ddilyn Jean Marcel o'r dyrfa.

Fedrai o fyth fentro datblygu'r lluniau gwerthfawr ei hun rhag ofn difetha'r dystiolaeth ynglŷn a phwy oedd y cymeriadau yn Ogof Plwm Llwyd.

Os dechreuir yn rhy fuan, yna mae siawns difetha'r pwll am amser hir.

Mae'n mynd i fod yn anodd iawn heno, oherwydd mae'n rhaid i'r Cymry fynd a difetha parti Gwlad Pwyl.

Byddai Modryb Lisi'n difetha pob sbri, a chaniatau y byddai hi'n fodlon dod, ac roedd hynny'n gwestiwn gen i.

Sdim ond gobeithio na fydd y tywydd yn difetha pethe.

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.

Wrth ddisgrifio cyflwr ffermwyr tlawd yn yr Affrig neu Asia, wedi i flynyddoedd o lafur caled gael eu difetha trwy fympwy natur nad oes ganddynt ddim rheolaeth o gwbl drosto, gall rhestrau o ffigurau a disgrifiad byw gan un profiadol yn y maes fod o gymorth.

Credai fod yn rhaid cael chwyldro, nid yn unig ym mhob un o'r gwledydd Arabaidd, ond ledled y byd - am fod y gwledydd Arabaidd wedi cael eu difetha gan imperialwyr.

Rhoddodd y beirniaid fwy o sylw i genedlaetholdeb yng ngwaith Ffowc Elis nag i Gomiwnyddiaeth/Marcsiaeth/ Sosialaeth, oherwydd, yn ddiddorol iawn, wrth bleidio'r achos cenedlaethol yn anad yr un achos gwleidyddol arall y beirniedir llenorion am lunio propaganda ar draul creu llenyddiaeth, gan ragdybio fod y ddau yn bethau hollol ar wahân, a bod y naill o reidrwydd yn difetha'r llall.

Iddyn nhw, trasiedi a cholled fawr bersonol ydi'r ffaith fod y baedd ar gael unwaith eto yn y wlad - a hyn oherwydd fod yr anifail yn dra hoff o datws fel bwyd, a bydd yn difetha caeau lawer o datws yngh nghysgod y nos wrth iddo chwilio am bryd o fwyd.

Yr ateb yw, ar ôl profi hynny, y buasent yn tyfu nes cyffwrdd y gwydr a'r plastig yn rhy gynnar, rheini yn mynd mor oer ar noson rewllyd neu farugog nes difetha'r gwlydd (gwrysg) gyffyrddid.