Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diffiniad

diffiniad

Fe awgrymodd - - fod rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghlwm wrth y diffiniad o Gytundeb Pris Sefydlog.

Mae'r cynlluniau ar gyfer y misoedd nesaf - gan gynnwys rhyddhau casetiau gan Datblygu, Diffiniad, Aros Mae a Steve Eaves, yn ogystal â chasgliad amlgyfrannog i ddathlu'r pump oed - yn awgrymu y bydd y cwmni hwn yn parhau â'u gwaith da yn creu stabal gynhwysfawr o artistiaid mwyaf blaengar y byd roc Cymraeg.

Ydi dadleuon Zola yn cytuno a diffiniad y Mudiad Anabledd o fyw'n annibynnol?

* cymysgwch ynghylch diffiniad o'r term angen addysgol arbennig a beth yw union swyddogaethau a chyfrifoldebau asiantau gwahanol;

Yn 'Atebiad y Golygydd i Lythyr Mr Saunders Lewis' yn yr un rhifyn cydnabu Gruffydd fodolaeth traddodiad ond fe'i cafodd ei hun yn anghydweld â diffiniad Saunders Lewis ohono.

Argymhellir y diffiniad canlynol ar gyfer dibenion y papur hwn, sef bod archaeoleg môr yn wyddor, lle cyfunir sawl disgyblaeth gan geisio cynyddu ein gwybodaeth am weithgareddau morwrol dyn drwy archwilio gweddillion llongau a safleoedd tanfor.

Wrth geisio byw yn ol diffiniad corfforol annibyniaeth roedd Zola wedi aberthu ei annibyniaeth cymdeithasol a seicolegol.

Ar y naill law yr oedd yn pleidio diffiniad a phendantrwydd, ond eto'n croesawu llenyddiaeth a seiliwyd ar Gristnogaeth uniongred neu anffyddiaeth filwriaethus.

Ac mae'r diffiniad yna'n bwysig, achos mi ddaw y dydd pan fydd y Bwrdd Iaith ayyb yn galw am hunan-lywodraeth, pan fyddan nhw'n sylweddoli y ca'n nhw lawer mwy o fudd o gael ei rheoli gan Senedd Gymreig.

Y Gainc Osod Bod prawf teg i'w gymeradwyo ar bob cainc a arferir heddiw i bwrpas Cerdd Dant, ac yn unol â'r diffiniad traddodiadol ohoni "ei bod yn cynnwys ffigur a rhedfa% a neilltuolion eraill - bydd iddi ddal y prawf hwnnw, neu fethu.

A dweud y gwir, byddai gweld Diffiniad a Disco Dawn ar CD yn dod â gwên enfawr i'r wyneb.

Ffurfiau lluosog, diffiniad, brawddeg disgrifiadol, lluniau lliw llawn

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Mae diffiniad Jacob o gylchgrawn mudiad crefyddol, fel Yr Ymofynnydd, yn allweddol i ddeall ei amcanion fel golygydd.

Am fod mesur y llywodraeth yn dymuno ehangu'r diffiniad o 'derfysgwr' i gynnwys mudiadau ac unigolion sy'n bygwth difrod difrifol yn erbyn eiddo er mwyn gwireddu amcanion gwleidyddol, crefyddol neu ideolegol.

Un grwp sydd heb ddyddio o gwbl, ar y llaw arall, ydi Diffiniad, ac yn yr un modd 'roedd clywed Hapus yn foment tyngedfennol.

Mae'r dyfyniad yn llawn man ffrwydron cudd, megis y cyfeiriad cynnil at 'yr ychydig', diffiniad Lewis , fe gofir, o nifer y rhai a all werthfawrogi llenyddiaeth.

Anghenion arbennig: Mae enghreifftiau o'r gwaith hwn yn cynnwys y Fforwm Cludiant, cludiant addysg, cludiant i grwpiau o fewn diffiniad daearyddol, sicrhau cyd-drefnu rhwng gwahanol ffurfiau ar deithio.

Mae mynd un cam ymhellach, a defnyddio diffiniad swyddogol y Llywodraeth o 'ysgol fach' fel un â llai na 90 o blant, yn gadael cysgod dros ddyfodol cannoedd o ysgolion.