Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diffrwyth

diffrwyth

Dilyn twrnameintiau 'diffrwyth' yw ei fywyd yn hytrach na chynnal ei deyrnas yn arglwydd a llywodraethwr aeddfed.

'Roedd ôl blinder y dydd ar wyneb y Cripil ac er bod hwnnw ddwywaith ei oedran, cododd Elystan y corff hanner diffrwyth a'i fagu yn ei arffed fel magu plentyn.

arwydd o'r gaeaf diffrwyth ac oer oedd y Cripil iddo.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Cyd-ddibynnol yw cenhedloedd y ddynoliaeth, a syniad diffrwyth yw annibyniaeth, a elwir weithiau yn sofraniaeth absoliwt neu ddiamod.

erbyn' a llithra i afael math arall o fywyd diffrwyth.

Dadlennai astudiaeth o hanes liaws o enghreifftiau o'r bywyd da ac hefyd o'r bywyd gwael a diffrwyth.