Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diffuant

diffuant

Ar ddiwedd fy nghyfnod fel Cyfarwyddwr PDAG hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad diffuant i'r Cadeirydd, i aelodau'r hen bwyllgor a'r newydd, i aelodau'r amrywiol weithgorau, i'm cydweithwyr yn y swyddfa ac i bawb a gyfrannodd i waith y pwyllgor o'i ddechreuad ansicr dair blynedd yn ôl.

Cyfansoddodd Thomas Jones gerdd goffa i'r 'Telynor Ieuanc o Langwm.' Y mae mwy nag un o'i gerddi yn mynegi yn ogystal, yn dyner a diffuant iawn, ei hiraeth am Arthur.

Ar un wedd y mae hon yn rhoi camargraff inni, am ei bod yn llawer mwy personol na chrynswth gwaith y clerwr, ond eto i gyd y mae'n gwbl nodweddiadol o'i waith o ran ei hanfod, am fod tynerwch dynol o fewn y teulu yn wedd ar fywyd a bwysleisir yn arbennig yn ei gerddi mawl, ac am fod ei arddull seml ar ei mwyaf effeithiol yma yn cyfleu argraff o deimlad dwfn a diffuant.

Teimlwn yn gynhesol tuag ati, oherwydd synhwyrwn fod yma rywun cyfeillgar, diffuant iawn oddi tan yr holl siarad.