Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

difrifoldeb

difrifoldeb

Iddi hi, mae difrifoldeb y broblem yn ei gwneud hi'n anodd rhannu'r optimistiaeth gyffredinol ynglŷn â dyfodol y wlad.

ohono ac anodd iawn iddynt hwy yw amgyffred difrifoldeb y colledion.

O ystyried y mater o safbwynt ariannol yn unig, hawdd yw anghofio difrifoldeb sylfaenol y cyhuddiad o ddwyn, beth bynnag yw'r swm penodol, ac effaith dedfryd o euogrwydd o gyhuddiad o'r fath nid yn unig ar enw da a chymeriad y diffinydd ond hefyd ar ei swydd, ei deulu a'i safle yn y gymdeithas.

Daw'n amlwg yn y man fod y cyfaill hefyd yn fab i un o'r troseddwyr Natsi%aidd, ond y mae ef wedi diarddel ei dad, yn wahanol i'r adroddwr, sy'n mynnu cadw cyfrinach ei dad er ei fod yn llawn sylweddoli difrifoldeb ei droseddau.

I rywrai eraill o bosib gellid bod yn ysgafn ddihidans ynglŷn a'r fath beth am nad oedd yna ddim difrifoldeb ynghylch y bywyd ysbrydol iddynt hwy, beth bynnag.