Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

difyr

difyr

O sôn am Bwyllgor Sir Gaernarfon a gyfarfyddai yng Ngwesty Pendref y blynyddoedd hynny, erys llu o atgofion difyr yn fy meddwl, am y gwmni%aeth radlon a fyddai yno.

Disgynyddion adar a fagwyd mewn parciau yw'r Gwyddau Canada estronol hefyd, ond credaf fod y ddwy rywogaeth yn ychwanegiadau difyr i adar ein gwlad.

Bu+m yn sgwrsio ag o yn ddiweddar a chael orig ddigon difyr, ac wrth eistedd yn gwrando ar y glaw y bore 'ma, daw'r sgwrs i'm meddwl.

Yn ystod y cyfarfod byddan nhw'n trafod syniadau weithiau, ond ei brif bwrpas ydy rhoi cyfle i raglenni gynnig straeon difyr sydd wedi codi yn eu gwlad nhw.

Nodwyd rhodfeydd difyr o ffiltir a hanner drwyddynt gan y Comisiwn Coedwigaeth, ni fanylaf yma gan i mi eisioes grwydo'r coed tu draw.

Treuliodd Mos brynhawn difyr yn ei fflat yn edrych ar un o rowndiau cynderfynol rygbi'r gynghrair.

Cafwyd prynhawn difyr yn ei chwmni a daeth eu lluniau efo hi i'w dangos.

Bu darllen John Cage yn fodd i ysgafnhau'r baich a gwneud cyfansoddi yn rhywbeth difyr.

TEITHIAU DIFYR (Teithiau Cerdded Cylch Hanes Dyffryn Ogwen): Cafwyd dwy daith hanes tu hwnt o ddifyr yn ystod Mai a Mehefin.

Ar ôl treulio prynhawn difyr, aethom allan am bryd nos efo'r myfyrwyr.

Ond ar y cyfan nid yw'n nofelwyr hanes yn gweld hanes fel proses, dim ond fel ffynhonnell ar gyfer storiau difyr, gyda'r dieithrwch cyfnod yn ychwanegu rhyw elfen egsotig sy'n ennyn chwilfrydedd.

Serch hynny, mae pob stori yn unigryw a difyr, a gyda phrin cant o dudalennau mae'r gyfrol yma yn un wnaiff diddanu unrhyw un sy'n ymddiddori mewn gweld cyfiawnder yn cael ei gloriannu.

Mae'n 'fam' i gasgliad digon difyr o anifeiliaid, gan ei bod yn 'mabwysiadu' anifail gwahanol pob blwyddyn trwy noddi un ar gynllun arbennig sy'n gwarchod anifeiliaid yn eu cynefin.

'Mae gen i atgofion melys o'r dyddiau difyr, da hynny,' meddai.

Un o'i atgofion difyr yw hanes y trip i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Mae yma ymdriniaeth â llawer o bynciau mewn cwmpas byr, â gwaith Theophilus fel awdur a chyfieithydd, â'i ddawn fel chwedleuwr difyr a hoffus, â'i gredoau a'i weithgarwch fel eglwyswr, ac â'i wladgarwch Cymreig a Phrydeinig.

Aeth y gyntaf i Chwarel Bryn Hafod, Y Wern, Llanllechid yn ystod mis Mai, dan arweiniad Dr John Llewlyn Williams, Amwel Pritchard, "Bryn", Llanllechid a Wynne Roberts, "Bryn Difyr", Tregarth.

Ymunwch â'r cymeriad doniol Bowns i chwarae gêmau difyr ac i ddarllen stori.

Cafwyd ail gyfres haeddiannol o Peter Karrie Unmasked ac roedd awyrgylch bywiog wedi'i warantu gyda chymysgedd difyr ac annisgwyl o westeion megis Bernard Manning a Patrick Moore.

Er fod yna nifer o gamgymeriadau blêr fyddain gwylltio puryddion (ers pryd mar Gorkys yn dod o Ogledd Cymru?!), ar y cyfan maen gofnod difyr, manwl a hawdd ei ddarllen nid yn unig o ddatblygiad anhygoel cwlt Cerys, ond hefyd o'r chwyldro cerddorol gymerodd blynyddoedd i'w lunio.

'Roedd o'n beth digon amlwg na fuasai neb yn disgwyl i'r Beibil fod yn siarad, er y byddai y bobol oedd yn hwnnw yn gorfod siarad ar bnawn Sul pan fyddai yna holi'r plant yn yr ysgol þ "Be ddeudodd Samiwel bach wrth Dduw 'y mhlant i?" 'Roedd pobol mewn oed yn sôn bod yna bethau digon difyr fel cerdded drwy'r mwd a chwffio efo llewod yn Nhaith y Pererin, ond 'doedd dim dichon cael hyd iddyn nhw fel y medrech chi gael hyd i Dôn y Botel neu Spargo'r Felin yn Nedw.

Difyr, wedi'r cyfan, yw ystyried dehongliad rhywun arall.

Difyr yw ceisio dadansoddi'r pethau bychain sy'n ennyn gwen, fel yr hen gerbyd treuliedig hwnnw'n rhoncian ymlaen yn boenus o araf gyda cherdyn ar ei du ol; RUNNING OUT!

Difyr oedd sylwi ar ffermwyr lleol yn cario llwythi anferth o datws mân i'r warchodfa i fwydo'r gwyddau, ond synnwyr cyffredin yw'r haelioni, ac ystryw i gadw'r adar newynog ar y warchodfa.

Wedi wyth awr a deugain o gellwair â'r syniad difyr i ni gael ein symud i wersyll gorffwys, cafodd Mac a minnau ein gwysio'n sydyn o flaen swyddog yn y Gott Wing.

Dwi di cael mis bach tawel o ddarllen y papurau, ac wedi sylwi ar ambell i erthygl difyr iawn...

Difyr a dadlennol ydi sylwi ar fethiant gwasg ddwyieithog y cyfnod.

Felly, os y gwyddoch chi am Gymry sydd â bywydau neu storiau difyr i'w dweud yn lle bynnag yn y byd, d'wedwch Hywel amdanyn nhw.

Diolch iddyn nhw, nid yn unig am bnawn diddorol ac addysgiadol ond hefyd am bnawn o'u hatgofion difyr hwythau.

Cyd-ddigwyddiad difyr yw fod ei nain wedi byw yn Y Faenol pan oedd hi'n blentyn bychan.

Oedd, roedd Evan yn storiwr difyr.

Byddai rhain yn gyfarfodydd difyr ac addysgiadol.

Do – y cyfnodau difyr hynny pan nad oedd gen i ddarlithoedd na thraethodau.

Wrth gwrs ni fyddai rhywun byth yn dod i ben a dyfynnu cyfeiriadau difyr allan o gyfrol fel hon a'i dalennau yn brothio ohonyn nhw.

Treuliodd oriau difyr yn ystyried rhinweddau'r naill gi a'r llall.

Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.

Maen nhw'n dweud fod darllen ffurflenni hawlio costau i drwsio'r llanast ar ôl damweiniau car yn beth difyr tu hwnt a bod digon o ddychymyg gan rai o'r hawlwyr - sydd byth ar fai wrth gwrs - i ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith yn y Genedlaethol.

Fe fydd nifer o ddarllenwyr ardal Llanelli yn siwr o gofio'r digwyddiad erchyll hwn, ond difyr yw gweld y datblygiadau gwyddonol sy'n helpu i adeiladu achos yn erbyn Graham Bowen, a chael hynny o safbwynt y gyfraith.

Cafwyd prynhawn difyr iawn yn ei gwmni a chafodd yr aelodau gyfle i ofyn cwestiynau iddo.