Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

digwyddodd

digwyddodd

Digwyddodd y ffrwydriad wedi i'r bws adael Kfar Darom.

Yr ydym yn cyhoeddi yma y sgwrs yn llawn fel ag y digwyddodd.

A'r gŵr a aeth heibio iddi ganwaith heb sylwi arni gan fod ei ffroenau mor uchel, a'i feddwl yn barhaol ar ei filiwn nesaf A digwyddodd rhyw ddydd, iddo adael ei swyddfa a cherdded i lawr y grisiau.

oedd un o'r rhesymau pam y gwelwyd symud i'r chwith ar gychwyn y 1980au (fel digwyddodd gyda gweddill y mudiad cenedlaethol yr adeg honno) a dechreuwyd canolbwyntio ar amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sy'n ffurfio cyd-destun iaith, gyda sylw cynyddol ar faterion fel tai a thwristiaeth.

Digwyddodd yr un peth ym marddoniaeth cenhedloedd eraill.

Digwyddodd yr un peth â thrên arall a oedd tu ôl i'r s.

Ond fel y digwyddodd hi, dyma'r dyn yn tynnu pedwar o bobol oddi ar yr awyren heb droi blewyn, ac fe gymerson ninnau eu seddau hwy.

Ond, os digwyddodd rhyw hen hipi gael ei ddal am smocio cannabis, nid oedd rhaid becso.

Yn yr osgordd hon o weinidogion digwyddodd fod un gŵr a fu'n arwr mawr i mi oherwydd iddo beri imi yn gynnar iawn yn fy oes nychu am fedru creu fel y gallai ef.

Cofiai ymweliad cyntaf Del â'r Neuadd Wen - ei hunig ymweliad fel y digwyddodd.

Does neb wedi egluron iawn sut y digwyddodd y newid hwn achos nid yw'r teitl gwreiddiol wedi ei newid yn y Ddeddf a greodd y Cynulliad.

Yn syth ar ôl hyn fodd bynnag digwyddodd rhywbeth annifyr iawn.

Os felly gellir bod yn siwr y gofynnai fy mam iddynt ysgrifennu'n ei llyfr, ac os ydynt yno gellir bod yn siwr mai felly digwyddodd.

(Yno, fel y digwyddodd pethau, ar ymweliad â chartref Wil, fy mrawd, y cafodd Mam ei tharo'n wael.) Pan gyrhaeddais, roedd fy chwiorydd a'm brodyr yn y llofft o gylch y gwely, a Mam, druan, yn anymwybodol.

Digwyddodd hyn hanner dwsin o weithiau, am nad oedd Jim wedi sylweddoli mai rowlio'r abwyd dros wely'r afon wnâi arbenigwyr Llangollen Fach, ond yr oedd ei fwydyn ef wrth angor blwm ym Mhwll y Bont.

Digwyddodd hyn bron ar ddiwedd y gwyliau ac er bod y fam a'r tad yn sylweddoli y dylent roi cyfrif am yr achlysur ar unwaith i'r awdurdodau yn y Cei, eto sylweddolsant y byddai yn rhaid iddynt aros yn hwy yn Sir Aberteifi nag y trefnasent, felly, dyma benderfynu mynd â chorff y famgu adref gyda nhw a chymryd arnynt ei bod wedi marw gartref gan hysbysu'u meddyg teulu o'r ffaith bod marwolaeth wedi digwydd a gofyn iddo ef ddelio â'r mater ar ôl cyrraedd gartref.

Y noson ganlynol, digwyddodd yr un peth.

"Rydym ni'n gwybod yn barod mai yn y fan yma y digwyddodd y ddamwain.

Digwyddodd y cyfan oherwydd i Dduw garu'r byd gymaint.

Ond yn ffodus digwyddodd fod dau esgob o Ffrainc yn y cyffiniau ar y pryd, a hwy a achubodd y dydd.

Yna digwyddodd peth anhygoel.

Wrth lwc, dim ond am eiliad neu ddau y digwyddodd hynny.

Yn hytrach na thrafod un testun fel ag y gwnaf o dro i dro teimlaf mai mwy priodol imi y tro hwn eto yw rhoddi sylwadau ar rai materion sy'n ymwneud â garddio a ddaeth i'm sylw trwy sgwrsio, cael fy nghwestiynu a darllen yn y wasg ddyddiol fel y digwyddodd yn ddiweddar.

O dro i dro, byddem yn cael trafferth gyda'r gyrrwr bws a digwyddodd hyn ar y ffordd i Leeds un tro.

Yn ffodus iawn, fel y digwyddodd, yr oedd Davies yn gyfaill agos i Matthew Parker, archesgob Caergaint, a hefyd yn bur adnabyddus â William Cecil, prif gynghorwr y Frenhines.

Fe'i ganed hi yn y Dinas, Rhondda yn ferch i Benjamin Rees o Eglwysilan ac Ann Butler o Landwyfog, Cwm Ogwr, ac yn Nhreorci, y Rhondda y digwyddodd i 'nhad a'm mam gael eu geni.

Digwyddodd y cyfan ar linell bump ar hugain Llanelli, gyda Phil Bennett yn rhoi cic bwt i aildde/ chre'r chware; f~nne'n ply-gu i/ godi'r bêl, ond fel ro'n i'n sythu 'nghorff, dyma dacl ffyrnig yn 'y nghefn gan ddau o'r gwrthwynebwyr.

Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Wrth drwsio setts ar stryd yn Glasgow ryw bnawn, digwyddodd weld bachgen a merch ifanc yn dod i lawr y stryd ac er mawr syndod iddo eu hadnabod fel dau o Benmaenmawr.

Pa bryd y digwyddodd y torri allan o ddifrif?

Digwyddodd heb i'r rhan fwyaf ohonom sylweddoli hynny - ond yr wythnos diwethaf yr oedd hi'n ganrif a hanner er pan anwyd Robert Louis Stevenson.

Digwyddodd hyn gynifer o weithiau i Gwyn a minnau, eto daliem i obeithio.

Trafeiliwr brwshis ac acsesori%au toiledawl oedd Mr Evans a digwyddodd gyfarfod â Mr Redwood, tad ein John ni, mewn ciw a ymgasglai i brynu cocos.

Digwyddodd hynny trwy i'w athro Hanes, neb llai nag R.

Claddwyd Ann Parry gyda'i gwr ym Mynwent Eglwys Llanrhaeadr, a digwyddodd rhywbeth hynod iawn ynglŷn â gweddillion corff y wraig hon.

Sut y digwyddodd hyn?

Mae'r ysgrif Ladin a gerfiwyd arni wedi pylu'n enbyd ond gellir darllen y cofnod mai yn y fangre hon yr enillwyd Buddugoliaeth yr Halelwia yn ugeiniau'r bumed ganrif O.C Sut digwyddodd hynny?

Wrth iddi yfed yr hylif trofannol arall-fydol oedd yn gymysgedd anghredadwy o bob ffrwyth yn y jyngl, digwyddodd trawsnewidiad gwyrthiol.

Digwyddodd droi ei ben, a dyna lle safai Yallon: ei het silc am ei ben, ei chwip yn un llaw, a'i fenyg yn y llaw arall.

Ac felly y digwyddodd hi i'r brenin.

Digwyddodd terfysgoedd pellach yn Nhonypandy, Pen-y-graig, Aberaman yng Nghwm Cynon, Dyffryn Clydach, Blaenclydach a Phen-y-graig yn ystod yr wyth mis nesaf.

Yn y cyfamser digwyddodd sawl peth.

Ymhen blynyddoedd daeth y naw tŷ hyn o dan yr un to, fel y digwyddodd yn Sycharth, Mae'r gwydr lliw yn y ffenestri yn denu sylw Iolo hefyd.

Digwyddodd daro ar Ali y bore hwnnw ym marchnad Casnewydd pan ofynnodd Ali iddo hebrwng y cig i Heol Grafton a'i adael yn y gegin.

Digwyddodd yn ddiarwybod inni bron wrth i Rhodi Morgan newid aelodau ei gabinet yr wythnos diwethaf.

Yng ngogledd Affrica fe gerdda'r newydd am grefftwr da neu ŵr hysbys dros fil o filltiroedd cyn rhwydded ag y gwna o gwm i gwm mewn gwledydd llai, a digwyddodd hyn, wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd heibio, i Hadad.

Bu+m yn ceisio dirnad pam y digwyddodd hynny.