Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

digywilydd

digywilydd

Byddai arweinwyr y mudiad i godi eglwysi newydd - a dderbyniai gryn gymorth gan y Llywodraeth yn cyson alw sylw at esgeulustod digywilydd y diwydianwyr a wrthodai ddarparu rhagor o addoldai yn ardaloedd eu gweithfeydd.

Gyda'r nos yr un dydd, wedi mynd yn ychydig meddwach, rhedais yr un modd o ben isaf y dref, at y Bont Fawr, am swUt; a rhedodd Mr Lewis Thomas, Druggist, ar fy ôl gyda chwip y tro hwn, gan feddwl fy nghuro, a fy nhroi i fewn i rywle, cyn dangos ychwaneg o'm digywilydd- dra; ond methodd â fv nghyrraedd.

Wrth edrych yn ôl byddaf yn aml yn rhyfeddu at fy hyfdra a'm digywilydd-dra'n mentro mynd allan i annerch ar wleidyddiaeth.

Ond y drafferth i'r hogia oedd fod y perchennog digywilydd wedi dwyn angorfa Sam Llonga, a byddai hwnnw'n gandryll.

Mynegai ac amddiffynnai safbwynt yr hyn a gynrychiolai yn hyderus a digywilydd a phlannodd yr un ysbryd eofn yn ei ddarllenwyr cyson.

"Roedd mam yn dweud y cawn i fynd efo chi i lan y môr." Yn ddiweddarach, â'r bechgyn yn eu llofft eu hunain, meddai Rolant, "Wel wir, mae'r Iona yna'n ddigon digywilydd yn tydi?