Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dila

dila

Buasai chwaraewyr 1981 yn fodlon ar berfformiad neithiwr wrth i Abertawe sgorio chwe gôl - ond o flaen torf dila.

Wyddech chwi mai ymgais rhywun i gyfieithu trifle yw, er nas gwelais erioed mewn print, treiffl yw ymgais dila y llyfryn Terman Coginio, Ysgol Addysg Prifysgol Cymru, a 'melusfwyd cymysg' yn Y Geiriadur Mawr.

Ie, mor anghyfferdd y cysuron prin, ac mor dila'r ddolen a rwymodd greadur yma dros dro.

Troes o'r bar ar ôl yr ymdrech dila honno i ddiwallu syched ei chymydog a chanfod un o griw bychan a safai yn ei hymyl yn codi'i lygaid mewn cyfarchiad wrth ei gweld.

Ond y mae'n deg amau'r gosodiad hwn, oherwydd y gwir plaen yw bod llawer o Saeson sy'n cychwyn yn ein hysgolion yn adran y babanod yn dila eu Cymraeg yn un ar ddeg oed.

Allen ni ddechre lladd y defaid 'co os bydd raid.' Gwnaeth y ddau ymgais dila i chwerthin.

Yma yng Nghymru rhoddir anogaeth i ymgais dila ac arwynebol i ymateb i sefyllfa real y Gymru sydd ohoni, tra ystyrir ein hymdrechion ni i greu Diwylliant Gweledol Cymreig go-iawn yn amherthnasol...