Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dilynodd

dilynodd

Dilynodd y naill Nadolig ar ôl y llall heb ddim byd neilltuol i dynnu sylw ato.

Pwysleisiodd mai gwragedd a roddodd heddwch yn uchel ar yr agenda gwleidyddol ac mai'r arweinwyr â'u dilynodd drwy arwyddo cytundebau rhyngwladol.

Mae'r profiad hwnnw, a'r dadrith a'i dilynodd, yn ganolog yn ei waith ond, fel awdur a ddywedodd unwaith fod pob llenyddiaeth werth-chweil yn wleidyddol, mae wedi ymdrin yn ddeifiol hefyd ag agweddau cynharach a diweddarach ar hanes yr Almaen.

A'r bore wedyn ar ôl codi, dilynodd hi o gwmpas yr ardd ac yna i fyny'r berllan.

Nid oedd yn deall pam, yn iawn, ond dilynodd gyfarwyddiadau Llefelys yn fanwl.

Tawelodd Bob hefyd a dilynodd y bechgyn ar hyd glan yr afon.

Dilynodd llawer ei hesiampl.

Dilynodd The Man Who Jumped to Earth yr anturiaethwr 61 mlwydd oed Eric Jones o Dremadog i Venezuela wrth iddo wireddu breuddwyd oes i neidio o Raeadrau Angel sy'n 3,212tr o uchder.

Fe'm dilynodd i mewn, caeodd y drws allanol, agorodd ddrws ar y tu mewn ac aethom trwy hwnnw.

Dilynodd y dyrfa yr hen ŵr a'i bastwn allan o'r sgwâr, ar hyd un o'r strydoedd culion a thrwy un o'r pyrth.

Dilynodd Away At Home hyfforddwr Cymru Graham Henry ai wraig Raewyn ar eu gwyliau yn ôl i Seland Newydd cyn cychwyn y gystadleuaeth.

" dilynodd hi'r gwas at fwrdd yn ymyl y ffenestr.

"Mae yna waith i'w wneud." Dilynodd hi ar hyd y strydoedd culion, yn hanner rhedeg a hanner llithro hyd y carped gwyn.

Roedd ei diweddar ŵr, Arthur, yn bel-droediwr proffesiynol ym Mangor a dilynodd Philip yng nghamre ei dad.

Dilynodd Yn ôl i Berlin Marion Loeftler (yn wreiddiol o Berlin ond bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gweithio yn Aberystwyth) ar daith ddadlennol yn ôl i'w dinas enedigol.

Dewch - ar unwaith.' Dilynodd criw o ddynion y ci o'r pentref i ganol yr eira trwchus.

Dilynodd Doctor Treharne y sarjiant ar draws iard goncrid, lydan at adeiladau wedi eu paentio'n llwyd, diflas.

Dilynodd adar eraill yn sgil ei hyder.

"Mae'n well i mi nofio oddi wrtho." Ond dilynodd y crwban anferth ef yn dawel gan edrych yn ddiniwed arno â'i ddau lygad enfawr.

Credai ei bod yn dal i feddwl am y dynion a'i dilynodd.

Victor Thomas a'i dilynodd.

Echrydus oedd effaith y blynyddoedd hyn a'r rhyfel a'u dilynodd ar ysbryd, diwylliant a sefydliadau'r Cymry, yn arbennig ar y capeli.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Gyda chymorth ariannol ei dad-yng-nghyfraith - anghrediniwr di-gapel, gyda llaw - dilynodd tad Euros gwrs addysg am dair blynedd yn Ysgol Baratoi Pont-y- pridd a Choleg Coffa, Aberhonddu.

Hyd yn oed yn llyfrau hanes y blynyddoedd a ddaw, mae'r uwch-gynhadledd honno a'r rhai a'i dilynodd yn debyg o haeddu mwy na throed- nodyn.

Pan ddechreuodd ei chanu dilynodd holl blant y dref ef a diflannu i mewn i fynydd.

Dilynodd Mair hi i mewn i'r adeilad ac at y ddesg lle'r oedd gwraig ganol oed yn prysur roi trefn ar gardiau mewn bocs.

(Yn hynny o beth, dilynodd ol traed ei dad oedd yn filfeddyg yn Abergele).

Tyrd i 'molchi a bwyta dy frecwast,' meddai Pierre, 'mi gei fynd allan wedyn i weld y fferm.' Dilynodd yntau Pierre i lawr y grisiau i'r ystafell ymolchi.

Yna, dilynodd ef fel ci bach at geiliog o ddyn arall tu ol i gownter bolgrwn.

Dilynodd Jabas y tri o hirbell i gyfeiriad y Sailing.

Rhoddodd Richard yr awenau i'r gwas a dilynodd hi yn ol tuag at y ty yn anfodlon ac araf gan gicio ambell garreg o'i ffordd.

Mae allor yn y gongl yna i offrymu rhai fel chwi." Torrais allan i chwerthin a dilynodd pawb arall.

Dilynodd rhaglen radio griw o Wyddelod cefnog i ffair tai haf yn Sbaen achos nid ar y Saeson a'r Almaenwyr y mae golwg marchnatwyr tai Sbaen bellach ond at wlad Sean, Michael a Paddy.

Yr oedd Mr Jones y Person, hefyd yr un mor ddiragrith yn ei gydymdeimlad, ac wrth weled yr Yswain a'r Person mor hynaws tuag at Harri, dilynodd eraill rhai na theimlent yn dda nac yn ddrwg ato eu hesiampl.

"Tyrd, Sam!" Dilynodd y ddau Aled drwy ddrws y cyntedd, ac mi gefais innau fy hun yn mynd gyda nhw.

Dilynodd Teg Cassie i Tenerife a'i hennill yn ôl.

A^i Alice i'r ysgol pan oedd yn fychan iawn a dilynodd Garnedd Wyn hi'n ifanc wedi hynny.

Yn y cyfamser dilynodd y mwyafrif Rowland a Williams.

Dilynodd yntau, ond yn lle cerdded ymlaen, trodd y ddynes o'r llwybr ac i mewn i un o gytiau moch y Goetra.

"Wel," meddai Wiliam, "da boch chi i gyd"; a heb edrych ar neb, dilynodd ei dad i'r tywyllwch.

Dilynodd Rush Rhees yn ei feirniadaeth ar A.

Dilynodd ef yn elfennol ddigon y dull Ffrengig a nododd doriad pob edefyn yn ffurfiol: ei chwedl ef hyd yma; cyfranc Geraint hyd yma, llyma weithion fal ydd heliawdd Arthur y carw; eu chwedl hwynt hyd yna.

Dilynodd ei mam yn dawedog.

Yr ydym yn hen gyfarwydd bellach â darllen am gyfraniad teulu'r Wyniaid o Wedir, Sir Gaernarfon, i hanes cymdeithasol Cymru rhan olaf yr unfed ganrif ar bymtheg a'r rhan helaethaf o'r ganrif a'i dilynodd.

Mynnodd Capten Rogers ymuno yn y chwilio ac ni fu fawr o dro cyn dod o hyd i'r wersyllfa lle'r oedd y tanc tanddaearol Oddi yno dilynodd traciwr o Arab y trywydd nes taro ar y dynion yn eu trybini annisgwyl.

Gartref, dilynodd BBC Radio Wales y digwyddiadau mawr - y Sioe Frenhinol, Gwyl y Gelli a'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.