Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dilynol

dilynol

Gellir parhau i hau hadau llysiau a gwneud hyn dros gyfnod o amser er mwyn cael cnydau dilynol.

Ni allaf weld chwaith y gwnai rhew niwed i blanhigion glaswellt, mae defaid yn pori trwy'r gaeaf nes bydd arwynebedd y borfa yn llwm iawn, hynny yw, wedi torri'r glaswellt yn agos iawn i wyneb y pridd ond heb ei niweidio ar gyfer porfa'r tymor dilynol.

Cafwyd trafodaeth hefyd yn y cyfarfod hwnnw am sefyllfa'r ystafell yn y Bala; dywedodd Mr Hughes a Mr Matthews y byddid yn adolygu'r sefyllfa mewn cyfarfod dilynol i weld fedrid cael ystafell arall ar gyfer cyfweliadau yn unig.

Bu'r cyhuddiad hwn fel maen melin am wddf Ferrar trwy'r blynyddoedd dilynol er iddo fynnu'n gyson mai llithriad gan ei ganghellor ydoedd.

Naratif uniongyrchol dilynol yw hwn, ac felly'n bur wahanol i'r adran gyntaf.

Awyddai'n fawr y gwanwyn dilynol am glywed Sais yn siarad, i gael prawf ar ei wybodaeth o'r Saesneg.

Fel y cwympodd gwerth cyflogau yn ystod y blynyddoedd dilynol, heb unrhyw leihad yn yr oriau gwaith, gwelid mwyfwy o ymryson a streicio ar lefel leol.

Gwelwyd ugain o gystadleuwyr ar y maes, ond yn anffodus trodd yr hin yn stormus a drycinog - a throdd y beirniaid i'r dafarn leol, gyda'r canlyniad nad oeddynt mewn unrhyw gyflwr i feirniadu'r gystadleuaeth - a rhaid ydoedd gohirio'r dyfarnu hyd at y Llun dilynol.

Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.

Roberts fod Pengwern yn galw Badshah yn 'unmitigated scoundrel'; diau fod y blynyddoedd dilynol wedi dangos mor wir oedd y disgrifiad hwn ohono.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff a'r prif Swyddog priodol, i ymestyn y cyfnod hanner cyflog hyd gyfarfod dilynol yr Is-bwyllgor Staff mewn achosion priodol, gan adrodd i gyfarfod dilynol yr Is- bwyllgor Staff ar unrhyw sefyllfa lle y defnyddir yr hawl hwn.

Fe wellodd pethau ryw gymaint y dyddiau dilynol.