Gellir barnu i ba raddau mae'r ysgol yn llwyddo i ddatblygu'r dimensiwn Cymreig a'r themâu trawsgwricwlaidd drwy ansawdd dealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau disgyblion fel yr arddangosir hwy mewn gwersi ac yng ngwaith y disgyblion.
Yr oedd y disgyblion wedi paratoi map mewn tri dimensiwn yn dangos y mannau pwysig yn hanes y gwr pwysig yma.
Yn drydydd, cystadleuaeth y Cartref Cymraeg a drefnwyd ar ran yr Eisteddfod ac a ddaeth â dimensiwn arall i lwyddiant a defnydd o'r iaith Gymraeg.
Felly mae'n ofynnol i addysg Gymraeg ymateb yn ystyrlon a brwdfrydig i'r dimensiwn galwedigaethol hwn.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, defnyddiwyd cyfweliad y golygydd gwleidyddol Glyn Mathias gydag ef gan holl rwydwaith y BBC. Ar draws y gwasanaethau teledu a radio, yn y ddwy iaith, cafwyd cydlynu effeithiol gyda newyddion rhwydwaith y BBC a golygai hyn bod dimensiwn Cymreig y stori wedi ei archwilio'n llawn ynghyd ag ongl Llundain.
Yn ogystal â dimensiwn y dderbynfa, a dimensiwn y swyddfa, lle mae disgwyl i bersonau ymateb i aelodau o'r cyhoedd yn eu dewis iaith, y mae angen cydnabod fod yn y sector cyhoeddus ddimensiwn y stafell ddosbarth, lle disgwylir ymateb personol gan bersonau sy'n gweithio wyneb-yn-wyneb â'i gilydd gan ymateb yn barhaus i ddewis iaith ei gilydd.
Dylai arolygwyr pwnc, felly, gyflwyno adroddiad ar agweddau ar themâu trawsgwricwlaidd a'r dimensiwn Cymreig a amlygir o fewn cynlluniau gwaith eu pwnc.
Mae'r daflen grynodeb yn cynnwys crynodeb o'r graddau a roddwyd ar gyfer yr holl wersi a welwyd, a sylwadau ar safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu, ansawdd yr addysgu a ffactorau cyfrannol, a dylai gynnwys, lle bo hynny'n briodol, farn ar gyfraniad amlwg y pwnc tuag at hyrwyddo'r dimensiwn Cymreig a chyflwyniad themâu trawsgwricwlaidd.
O ganlyniad, mae angen i arolygwyr ystyried yn ofalus y lle gorau yn yr adroddiad i ddatgan barn ynghylch agweddau ysgol- gyfan ar themâu trawsgwricwlaidd a'r dimensiwn Cymreig.
Gweld y byd mewn trefn : dechra a diwadd a dimensiwn arall diderfyn...
A phwy na chofia laid Abergwaun, a'r deunydd ysbrydoledig a wnaeth Paul Davies ohono, sef map tri dimensiwn o Gymru?
Rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan gyflawn mewn amrywiaeth o weithgareddau llafar gan ddod ar draws amrediad eang o lenyddiaeth a thestunau eraill, gan gynnwys deunydd gyda dimensiwn Cymreig.
Yn ychwanegol at bynciau, mae gofyn i arolygwyr ystyried dwy agwedd arall ar y ddarpariaeth gwricwlaidd: (i) y Dimensiwn Cymreig a (ii) y themâu trawsgwricwlaidd (addysg yrfaoedd, dealltwriaeth gymunedol [gan gynnwys dinasyddiaeth], dealltwriaeth economaidd a diwydiannol, addysg iechyd ac addysg yr amgylchedd).
Grūp o artistiaid yw Beca sy'n gweithio weithiau ar wahân a weithiau ar y cyd ar baentiadau ac ar assemblage, sef darnau tri dimensiwn yncyfuno gwahanol wrthrychau.
Y mae tapiau sain yn ychwanegu dimensiwn pwysig arall trwy ein galluogi i glywed y bobl eu hunain yn disgrifio eu hamgylchedd a'u problemau.
Yr agwedd hon tuag at archaeoleg môr sydd wedi lledaenu gorwelion yr astudiaeth a dwyn dimensiwn newydd i statws y maes.
Mae'r posibiliadau'n eang oherwydd maent yn lled-ddargludyddion mewn tri-dimensiwn.
Gall y ddarpariaeth o ran themâu trawsgwricwlaidd a datblygu'r dimensiwn Cymreig o fewn ysgolion fod ar sawl ffurf wahanol, ac efallai y dysgir rhai agweddau mewn nifer o feysydd pynciol.
'Mae Rhys yn rhoi opsiwn a dimensiwn arall i'n chwarae.
Lle ceir diffyg darpariaeth ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a/ neu ddatblygiad y dimensiwn Cymreig mewn pynciau lle y gellid disgwyl iddynt fod wedi cael eu hystyried - yn arbennig y pynciau hynny lle ceir Gorchmynion ar wahân yng Nghymru - dylid gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw.