Merched du llachar yw gwragedd Cwffra, merched cryf, llon, ac yn eu plith ambell un dawel, feingorff, na fyddai ei symud drwy'r tŷ yn ddim amgenach na chwyth o berarogl neu dincial isel tlysau arian.
Daliai i deimlo'r awel ar ei gwar wrth iddi gydgerdded gyda'r cannoedd eraill at yr eglwys i dincial gorfoleddus y clychau.