Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diodde

diodde

Pan ydach chi'n gorfod ffilmio rhywun sy'n diodde' ac rydach chi'n gwybod mai hwn ydi'r llun sy'n mynd i wneud yr eitem.

Syniad Merêd oedd yr ail fis mêl ac roedd Dilys yn ymddwyn fel pe bai wedi penderfynu diodde'r peth er ei fwyn ef.

"Mae llawer o'r merched sy'n gwneud hyn yn sâl, yn diodde' fwy na thebyg o broblem seiciatrig.

Mae Ferguson yn diodde oherwydd anaf i'w droed.

Bu farw Sharon mewn ffrwydriad car yn 1996 a bu Mark yn diodde am sbel ar ôl hynny.

Dwi'n teimlo fel mod i'n diodde o'r ffliw bob dydd.

Teimlai'n sicr fod cael ci bach yn eiddo iddo fo'i hun yn llawer gwell na diodde'r ddannodd oherwydd iddo fwyta gormod o fferins.

Ond am ba hyd y byddai'r wlad yn fodlon diodde'r poen?

Mae wedi diodde o anaf i'w goes yn ddiweddar.

Yr unig wahaniaeth yr ydw i'n ei deimlo fel Cristion yw fod hynny'n eich gwneud chi ychydig bach yn fwy gofalus yn y ffordd, er enghraifft, yr ydych chi'n ffilmio rhywun sydd wedi diodde' neu'n ffilmio rhywun mewn damwain neu blentyn bach mewn poen.

Yn 1995 darganfu Mrs Mac fod Glan yn diodde o ganser.

Gwylais gêm o Ffrainc ar y teledu y dydd o'r blaen a chawsom wledd o chwarae dyfeisgar ac atyniadol gyda'r amddiffynfeydd yn diodde cyfnodau lletchwith aruthrol.

Mae Kampuchea'n wlad brydferth a thoreithiog ac anodd oedd credu, pan es i yno, fod y wlad bymtheng mlynedd ynghynt wedi diodde' newyn mawr a'i phobl wedi byw drwy gyflafan erchyll a gormes mawr.

Mae'r cwmnïau mawr yn pwyso ar y llywodraeth yn llawer cryfach na'r ffermwyr sy'n diodde.

Doeddwn i fawr o arwr ond os dioddef oedd raid, gwell diodde'n urddasol.

A hithau'n dal i ddiferu ar ôl cymryd cawod o dan fwced dyllog, fe ddywedodd un wraig, Im Sarin, wrtha' i fod y prinder o ddynion yn gosod straen gynyddol ar wragedd sy' wedi diodde' cymaint yn barod.

Maen nhw'n dal i frifo - pethau fel pobl yn diodde' o'm blaen i .

Braf iawn hefyd, gyda llaw, o%edd gwe%ld Ray Clemence, golwr Lloegr, yn ildio pedair gôl a dangos i bawb fod pob golwr yn gallu diodde pnawnie gwael!

Fe gefais yr argraff fod pawb, gan gynnwys Fidel Castro ei hun, yn diodde'r ddefod yn hytrach na mynegi cariad at yr Undeb Sofietaidd.

Wedi i Emma ddechrau cael gafael ar y gwir, cyfaddefodd Madog ei fod wedi bod yn gwerthu cyffuriau a'i fod yn diodde o effaith hir-dymor cymryd gormod o gyffuriau.

Yn Asmara dywedodd Arlywydd Eritrea, Isaias Afwerki, fod ei fyddin wedi diodde colledion mawr.

Pa fath o gymdeithas oedd yn caniata/ u i leiafrif bychan fwynhau'r holl gyfoeth tra bod y trueiniaid diniwed hyn yn diodde'r fath ganlyniadau barbaraidd?

Dyna pryd y bu iddo wrthryfela - hynny a'r newydd fod ei fam yn diodde o ganser y frest.

Mae Ethiopia wedi diodde eu colledion mwya" mewn diwrnod ers iddi ailddechrau'r rhyfel bythefnos yn ôl," meddai.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.

Ond roedd Somalia'n wahanol ac yn fwy arswydus am mai rhyfel cartref oedd prif achos y diodde'.