Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dioddefaint

dioddefaint

Dyw tasg y gohebydd ddim yn gyfyngedig chwaith i egluro pwy yw pwy yn y lluniau hynny, fel y gall y gwyliwr cul ei feddwl ddathlu ergyd sy'n taro'r gelyn a thrista/ u pan fo'r un darlun o alanast a dioddefaint yn digwydd dilyn ergyd a drawodd un o'n `bechgyn ni'.

Mae dioddefaint y Gwaredwr i Williams, o ganlyniad, yn rhywbeth presennol.

Canlyniadau hud a lledrith Gwydion a Llwyd yw trais, rhyfel, marwolaeth a dioddefaint.

Mae'r awdl hon yn mynd â ni yn ôl i gychwyn y ganrif wrth i Ieuan Wyn ystyried eto y dioddefaint a fu yn Nyffryn Ogwen yn ystod Streic y Penrhyn.

Mi fues i mewn sawl sefyllfa, er enghraifft yn India a Bangladesh, pan oeddwn i'n gweld y tlodi a'r dioddefaint aruthrol oedd yno.

Nid oes ail iddo am fynegi mawredd, gogoniant, cariad, gras a dioddefaint y Gwaredwr.

Roedd yn anodd beio Iran am y dioddefaint.

Hedfan am bump awr mewn cocpit awyren y Groes Goch, yn cario nwyddau allan i geisio lleddfu dioddefaint y Cwrdiaid.

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.

Nid ym Mharadwys Adda ac Efa y trig cymeriadau'r rhamant hwn ond mewn byd amherffaith sy'n cynnwys dioddefaint a rhwystrau.

Mae'r Kurdiaid yn gyfarwydd â dioddefaint.

Awdl sy'n cydymdeimlo â gwerin Cymru yn ei thlodi a'i dioddefaint yw hon, ac mae hi yn yr un traddodiad ag awdl anfuddugol Eifion Wyn ym 1900, 'Y Bugail', 'Gwerin Cymru', Crwys, ac awdl foliant Gwilym R. Tilsley i'r glêwr.

Mentro wnaeth y pedwar i'r gwersyll, a chael fod y gwersyll yn wag, gan weld fod holl bryder a dioddefaint y ddinas yn ddi-alw-amdano.

Roedd yr artistiaid hyn yn ochri, ac yn uniaethu, â phobl gyffredin Cymru yn eu dioddefaint.

Er bod Mathew Tomos y Plant a'i deulu yn wynebu cyni a dioddefaint, pobl sy'n plygu dan yr iau'n ddirwgnach ydynt hwy, gan addoli teulu Pen y Bryn yn ddigwestiwn.

Mae lluniau'n gallu dweud rhan o stori - sef bod yna ladd, dioddefaint, enillion a cholledion ond, hyd yn oed wedyn, nid dyna ddiwedd y gân.

Yn wyneb dioddefaint rhai o'r teithwyr a oedd mewn cerbydau trên o hyd, cytunodd y Pwyllgor Streic i annerch y dyrfa.

Roedd yn destun balchder yng Nghuba fod y wlad fechan wedi gwneud mwy i liniaru dioddefaint plant Chernobyl na holl wledydd y Gymuned Ewropeaidd.

Ac i Bantycelyn y peth trawiadol yw fod a wnelo dioddefaint Crist â ni a bod ei fuddugoliaeth Ef yn fuddugoliaeth i ninnau.