Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diogel

diogel

Mae Cymdeithas Tai Clwyd Cyf yn cydnabod ac yn derbyn ei chyfrifoldeb fel cyflogwr i ddarparu Ogweithle ac amgylchedd gweithio diogel ac iach ar gyfer pawb a gyflogir ganddi.

Roedd y sŵn yn uwch yn y fan hon, ond o leiaf teimlai Gareth yn fwy diogel yma.

Hynny yw, rown i'n siŵr fod Madog yn ddigon diogel yn 'i focs.

Beth a allai ei wneud ond yr un peth â'r pregethwr,--dianc i fysg pethau cyfarwydd iddo ac ohonynt greu cartref iddo'i hun y gallai fyw'n ddedwydd a diogel ynddo .

Wrth wneud hynny bydd yn rhoi ei Frenin yn y lle mwyaf diogel posibl.) Felly dyna Gwyn wedi gwneud llawer mewn ychydig.

Os y cewch unrhyw anhawster i ddod o hyd i gyflenwr 'cnau diogel', cysylltwch â'r BSA, The Watermill, Mill Road, Water Eaton, Milton Keynes.

Yma, fwy neu lai, roedd yr 'hafanau diogel' a sefydlwyd ar awgrym John Major er mwyn ceisio gwarantu diogelwch y trigolion.

Mae angen mwy o amddiffyniad ar fenywod os yw dynion yn debycach o gael eu restio a'u dwyn gerbron y llys, ac mae'n hanfodol bwysig bod mwy o swyddogion heddlu yn hysbysu menywod o godolaeth llety dros-dro diogel a gynigir, gan lochesau Cymorth i Ferched tra bod yr achos ar y gweill.

'Roedd hi'n ffordd digon hwylus a diogel i sicrhau pregethwyr i'r eglwysi ac i sicrhau cyhoeddiadau i'r pregethwr.

Mae'n rhaid i'r amaethwr drin ei ddefaid ond rhaid gwneud hynny yn y modd mwya diogel iddyn nhw hefyd, meddai llefarydd ar ran Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr.

Trefniadau diogel ar gyfer defnyddio, trin, storio a chludo nwyddau, deunyddiau a sylweddau.

Os oedd y gorila mewn caets, oedd hwnnw'n un diogel?

Mae'r BSA wedi gosod safonau caeth ynglyn â lefelau 'aflatoxin' mewn cnau ar gyfer adar gwyllt, ac wedi lansio 'Sêl Cymeradwyaeth' a arddangosir ar gnau 'diogel', i sicrhau y bydd defnyddwyr yn eu hadnabod.

Y mae'n ddiwinydd praff, yn esboniwr diogel, yn bregethwr campus, ac yn weinidog ffyddlon yn holl waith ei swydd.

Ond roedd yn ddigon diogel i fynd heibio'n ddidaro a thaflu cip cyflym.

Dyna'r rheol gyffredinol gyntaf, felly - datblygu eich darnau i sgwarau diogel mor fuan ag sy'n bosib.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Mi hoffwn y sicrwydd y bydd ysgol Cai yn ysgol gymunedol gref â dyfodol diogel ac y bydd yn derbyn addysg gyflawn Gymraeg.

DIOGEL???

Mae astudio adroddiadau arolygwyr yn ei gwneud yn amlwg fod gan y naill beth effaith ar y llall h.y. fod creu amgylchfyd diogel a bywiog i blant, lle cant eu hadnabod a datblygu fel unigolion, yn hybu'r broses o ddysgu.

Trefniadau Diogelwch Drysau diogel sy'n cael eu rheoli gan staff, cardiau ID

Felly, rhaid oedd mynd yn uwch i fyny'r mynydd i gael eira diogel!

Lle diogel i weithio ynddo a mynediad diogel iddo.

Mi fyddaf yn falch o gael cyflawni fy neges yn y ddinas fawr, brysur, ac ar fy ffordd adref, i'r pentref croesawus lle gallaf gerdded yn eithaf diogel uwch y creigiau, a gwrando ar y môr yn rhuo, ac, ar brynhawn sych, heulog, fy mhleser fydd cerdded ar lan Afon Ogwr a chael ailfywhad o gerdded ar draeth Bae y Gorffwysfa ym Mhorthcawl.

iv) sicrhau bod adnoddau addas ar gael i ddarparu a chynnal ymwybyddiaeth o ddiogelwch trwy hyfforddi, dillad gwarchod a gweithle diogel a gwasanaethau cysylltiol;

Wedyn dyna J. Elones yn ei ddilyn gan gefnu ar swydd dda a diogel fel athro yn Llundain am swydd, ansicr yr adeg honno, fel Ysgrifennydd a Threfnydd y Blaid a'i gyflog yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol.

Dywedodd fod lladron yn hoffi'r cyfle hawdd a phwysodd arnom i wneud ein cymdogaeth yn lle mwy diogel i fyw.

Ymateb y Llywodraeth -- chwlau PDAG a rhoi'r gwaith i'w Quangos diogel eu hunain.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Gwaetha'u modd nid oes llawer o orielau sy'n ddigon dewr i ddangos cylfyddyd fel hyn sy'n fwriadol Gymreig, yn hytrach na dangos sioeau diogel ac arddangosfeydd teithiol parod o'r South Bank.

Diogel.

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

'Mae'n fwy diogel yma,' meddai mewn llais isel.

Awgrymodd mai'r ffordd ymlaen efallai yw bod angen talu blaen-dâl am droliau cyn eu defnyddio, ynghyd â pharatoi lle diogel i'w cadw ac ni fu angen ffurfioli'r drefn bresennol, sy'n ymddangos i weithio'n dda.

Rhaid gofalu eu bod wedi eu lleoli ar sgwariau diogel lle nad yw eich gwrthwynebydd yn gallu ymosod arnynt ar unwaith.

Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.

Yn wir, gellir gyrru llawer iawn mwy o wybodaeth i lawr ffibr optegol nag i lawr gwifren drydan o'r un trwch, ac y mae'r wybodaeth honno'n cyrraedd yn fwy diogel.

Y lle tawelaf, y lle mwyaf diogel at eu pwrpas hwy.

"Yn anffodus, y mwya' diogel ydi rhywle, mwya' amhersonol ydi'r lle," meddai Nigel Aubrey o Ysbyty Glangwili.

Dyma l'e/ tranger clasurol yr ugeinfed ganrif, y person modern sy'n gorfod ceisio gwneud synnwyr o fywyd heb gymorth na chanllaw moesol diogel na chysur ffydd na chymdeithas safadwy.

Roedd yn brofiad rhyfedd iawn - edrych allan o ffenest siop a gweld yr holl wynebau yn edrych nôl ata'i!' Pan alwyd cynrychiolydd y Groes Goch i Dohonan ar fyr rybudd, bu'n rhaid i Aled ddal yr awennau, yn trefnu lle diogel i gadw'r holl lori%au oedd yn cario nwyddau ac i oruchwylio unrhyw lwythi nwyddau eraill oedd yn cyrraedd yr ardal.

Ac yn Eglwys y Gadeirlan roedd yr abseilio bach yn fwy diogel na'r arfer a hynny am ei fod ar y pafin.

Diddorol Diflas Golau Tywyll Tawel Swnllyd Diogel Ddim yn ddiogel Del Hyll Glan Budr

Mae'r arolwg yn dangos bod y cartref yn le hapus a diogel i'r rhan fwyaf o blant - a dyna sut y dylai hi fod.

Diogel fan hyn.

Yr unig beth fydd eisiau i ti ei wneud wedyn fydd lapio'r ddwy yn y sidan a'u claddu nhw mewn lle diogel.

Wedi cyflawni hynny, gellid mynd ati wedyn i sicrhau byd mwy diogel.