Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diogelu

diogelu

Pwrpas y pwyllgor hwn oedd cyd-drefnu ymgeision i archwilio a diogelu safleoedd llongddrylliadau hanesyddol o gwmpas Prydain.

Dyna ddull Natur o'i diogelu rhag ymosodiadau ei gelynion.

Esboniodd - - fod yr hawl i archwilio yno er diogelu'r Sianel mewn achosion o dorr cytundeb, mewn achosion lle nad yw'r comisiynydd yn teimlo ei fod wedi cael gwerth ei arian, ac er mwyn atebolrwydd cyhoeddus.

Robert Jones, Rhos-lan, sydd wedi diogelu'r traddodiad llafar am Morgan Llwyd:-

Yr oedd Llanfaches felly eisiau diogelu'r ffin rhwng aelodau'r eglwys a phobl eraill.

Mae paratoi adroddiad pwnc ar yr iaith Gymraeg yn golygu nid yn unig gwneud adroddiad ar gyflwr yr iaith ond hefyd paratoi argymhellion ar sut i geisio'i diogelu - ond dylid hefyd mynd gam ymhellach trwy gynnwys argymhellion ar sut i gryfhau'r iaith.

A diben y seiadau, fel yr esboniodd Williams yn Drws y Society Profiad, oedd diogelu, amddiffyn, grymuso a chyfoethogi ysbrydoledd y dychweledigion.

Yr hyn a wnaeth yr arbenigwyr hyn oedd darganfod y ffyrdd gorau i "ddatblygu% ein darnau ar y cychwyn - er mwyn trefnu ein hymosodiad ar y Brenin, tra ar yr un pryd yn diogelu ein darnau ein hunain gan gynnwys y Brenin, wrth gwrs, rhag perygl.

Yr oedd ef am sicrhau seiliau athronyddol cadarn i waith y gwyddonydd ond yr oedd hefyd eisiau diogelu lle i'r argyhoeddiadau crefyddool.

Dyry ecoleg a bioleg môr wybodaeth inni am y 'matrics biolegol' sy'n diogelu y llongddrylliad, am gynnwys yr haen galed organig a'r effaith a gaiff creaduriaid y môr ar safle.

Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith.

Dibynnu ar eich siniciaeth, ond a bod yn glên am change, mae'r gwleidyddion yn mynnu oherwydd eu rhwystredigaeth gyda'u hanallu i newid y sefyllfa, mae'r Quangos yn mynnu er mwyn diogelu a chynyddu eu safle eu hunain.

Maen nhw'n gwrthod dadl yr Eisteddfod fod rhaid cadw'r enw swyddogol er mwyn diogelu statws elusennol y Brifwyl a ffynonellau ariannol.

Cred y gellir gweithredu mewn modd arbennig er mwyn sicrhau lwc dda - ennyn bendith a'ch diogelu eich hunain ac eraill rhag aflwydd, yn aml drwy gymorth swynion.

Lleolir pob stori yng Nghymru a hefyd ceir amrywiaeth o themâu diddorol i ddifyrru ac ymestyn y plentyn - e.e. bwlio, anabledd a diogelu'r amgylchfyd.

Mae ailadrodd y gair "Dacw% yn diogelu'r pwyslais gwrthrychol ar yr hyn yw Crist ond y mae'n ei briodi'n gelfydd iawn â'r pwyslais ar ystyr y gwaith gwrthrychol i'n bywyd goddrychol ni,

Datblyga Pryderi'n ŵr hael a charedig, gŵr sydd weithiau'n adlewyrchu balchder a thuedd i weithredu'n fyrbwyll yr hen drefn, ond eto gŵr dewr a chywir sy'n barod i roi ei fywyd ei hun er mwyn diogelu ei bobl.

Cysylltwch â LIPU (cymdeithas er diogelu adar yn yr Eidal) a gofynnwch am wybodaeth am adar sy'n teithio drwy'r Eidal.

Deallwyd yn y ddeunawfed ganrif fod Cowpog yn diogelu rhag y Frech Wen ac o ganlyniad i hyn rhoddwyd cynnwys pothelli Cowpog i mewn i fraich person a oedd wedi bod gerllaw rhywun â'r Frech Wen.

Ailenwi Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru, a sefydlwyd ym 1939, yn Undeb Cymru Fydd.

Ar un adeg, fe geisiai'r wardeiniaid fod yn drugarog wrth gyflawni gorchwyl mor annymunol, a phenderfynwyd mewn rhai achosion mai'r drefn fwyaf dyngarol fyddai lladd y rhai hþn o fewn yr haid, a diogelu'r rhai ieuengaf.

Yn ogystal â chynnig gwasanaeth tosoturiol, ymarferol ar gyfer menywod a phlant sy'n dioddef trais, rhaid i'r mudiad ymgyrchu i wella cyfreithiau sifil a throseddol i'w diogelu a'u hamddiffyn.

* bod cyfrifoldeb arbennig ar yr oedolion sy'n ymwneud â phlant dan bump i ofalu amdanyn nhw a'u diogelu.

Gallai'r Uned feithrin cysylltiadau ag elusennau'r amgylchedd, megis yr Ymddiriedolaeth Goedlannau, drwy ofyn yn rheolaidd iddynt nodi safleoedd sy'n werthfawr o ran bywyd gwyllt ond a allai ymelwa ar waith a fyddai'n ychwanegu at eu gwerth i'r amgylchedd neu'u diogelu er mwynhad y cyhoedd.

A chan fod y gallu imperialaidd wedi diogelu'r holl swyddi enillfawr i'r sawl a oedd yn barod i ymwrthod â'r Gymraeg a siarad Saesneg, yr oedd wedi sicrhau'r union amodau oedd yn gwneud y Gymraeg yn ddiwerth - o leiaf, yn ddiwerth i'r sawl a fynnai swydd uchel ei chyflog a mawr ei dylanwad yn y gymdeithas.

Dyheu am weld diogelu'r gymdeithas honno yr oedd pan luniodd y geiriau:

Ac mae Cyfeillion y Ddaear a Chyngor Diogelu Cymru Wledig hefyd wedi beirniadu'r cynllun adnewyddu am nad yw yn cynnwys unrhyw waith insiwleiddio a bod y tai yn colli cymeriad oherwydd y defnydd o pebl dash a ffenestri plastig gwyn.

Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymateb ar fyrder i'r bygythiad sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru a chreu strategaeth gadarnhaol newydd a fydd yn diogelu eu dyfodol.

Bydd y Gymdeithas yn gofalu bod yna drefniadau effeithiol ar gyfer diogelu gweithwyr cyflogedig, cleientau a'r cyhoedd rhag tân a pheryglon eraill sy'n bygwth unrhyw un o eiddo'r Gymdeithas.

Fodd bynnag, efallai y bydd y nofwyr tanddwr yn dehongli'r Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau fel dull o'u hamddifadu hwy o elfen gyffrous i'w hobi ac o greu monopoli i'r proffesiynol (sydd yn broffesiynol yn rhinwedd eu cymwysterau academaidd yn unig a heb fawr o brofiad o waith tanddwr).

Mae traddodiad gwyddonol cryf i Glwb Swb-Acwa Prydain, ac mae'r nofiwr tanddwr ym Mhrydain yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu adnoddau tanddwr.

Er enghraifft, mae prinder athrawon i addysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng yr iaith yn achosi cryn bryder ynglŷn â diogelu lle'r Gymraeg yn y cwricwlwm cenedlaethol.

Diolch i'r drefn, hwn oedd y tro olaf i bawb ohonom orfod ein diogelu ein hunain rhag bygythiad cemegol Saddam.

Felly mae'r dystiolaeth ynglŷn ag un o ymgyrchoedd radicalaidd pwysicaf yr wythdegau wedi eu diogelu ar gyfer haneswyr y dyfodol.

i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ?

"Rydyn ni wedi cael ymateb arbennig o dda o'r ysgolion, a does dim dwywaith amdani, mae'n rhaid i ni ddechrau gyda'r plant os ydym am ddatrys y broblem o ysbwriel a diogelu ein cefn gwlad", meddai'r Cynghorydd Tony Hughes.

Trwy wneud hyn mae'n ei diogelu ei hunan rhag ymosodiad llechwraidd unrhyw elyn a all fod yn dilyn ar ei thrywydd.

Gofyn i mi ailysgrifennu'r llinellau 'ma yn fy nyddiadur er mwyn eu diogelu.

Sonnir am broblemau llygredd a sbwriel y môr a phwysigrwydd diogelu culfor mor unigryw, oherwydd yn sicr rhaid cyflwyno problemau'r Ynys i'r cyhoedd, yn ogystal â'i phrydferthwch.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

A sut mae diogelu cleifion rhag drwg fwriadau perthasau sydd eisiau gweld eu diwedd, er mwyn meddiannu eu harian a'u heiddo?

Hefyd mae angen iddyn nhw finiogir sgiliau fel uned syn diogelu gofod i redwyr syn ymosod o bellter.

Er mwyn diogelu dyfodol y Boda Tinwen fel aderyn magu ung Nghymru, mae'n bwysig iawn bod gwaith y Gymdiethas er Gwarchod Adar yn parhau, fel y gellir darganfod anghenion ehangach yr aderyn gwych yma, a gweithredu er mwyn cynyddu'r llwyddiant mewn magu.

O'r 20,000 o swyddi a gafodd eu creu neu eu diogelu'r llynedd, mae dros 10,000 ohonyn nhw mewn cwmnïau Cymreig.

Dydi'r drefn bresennol o roi y Gymraeg yn nwylo rhai unigolion ddim yn ei diogelu na'i datblygu.

Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.