Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

diolch

diolch

Dymunwn yn dda i Emyr a Massie yn y ddinas dros y Fenai, diolch am eich cwmni a'ch cefnogaeth, mae eich myned yn golled i'ch cymdogion ym Mhorthllechog.

Pentium 16Mb, yn rhedeg Windows 95 a Frontpage 3.0 a Windows Notepad. Diolch Arbennig i

Diolch iddi hi, cafwyd tocynnau awyren i'r tri ohonom am chwarter y pris arferol.

Cafodd y tîm o Sbaen ddihangfa chydig cyn y diwedd, diolch i Wes Brown yn rhoi'r bêl yn ei rwyd ei hun.

Diolch am yr awgrym.

"O, diolch i chi," meddai Dad.

Diolch i'w hymdrechion gyda'r Ysgol Ganolraddol, cafodd llawer ohonynt y fraint o gael addysg uwchraddol.

Roedd Lloegr yn ffodus i fod ar y blaen 2- 1 ar yr egwyl diolch i gic o'r smotyn gan Alan Shearer a gôl gan Michael Owen.

'Diolch i Dduw fod yna leian yn teithio gyda ni,' meddai'r gwr camera.

Mewn cyfrol fer o 116 tudalen y mae'n agor cil y drws ar fyd sydd, diolch i'r drefn, yn ddieithr i'r rhan fwyaf ohonom.

Diolch nad oedd hi ddim yn amser lori laeth!

Llythyrau Daeth carden oddi wrth Glyn a Jean Evans yn diolch am rodd y Rhanbarth iddynt - i Glyn Evans am ei waith gyda'r Cwis Llyfrau, ac i Jean am ei gwaith diflino gyda'r Jigso Lleol.

Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd.

Ffordd o dalu diolch i'r rhieni am ei gynnwys ar yr aelwyd, a hynny bellach bron fel mab.

'Mi ddaethon ni yma er mwyn eyfarfod â'r brenin ac nid i wylio arddangosfa o ddawnsio cyntefig, diolch i ti, wrth gwrs.'

Gall sleidiau lliw o safon dda ddod â phobl a lleoedd yn llawer nes atom na'r lluniau du a gwyn gorau, diolch yn bennaf i'w hansawdd clir, eu manylion a'u realiti.

Diolch i Staff a phlant a rhieni Ysgol Henryd, - Jane Jones, Bryn Gwenddar, Henryd.

Y mae diolch arbennig i Mr Eric Iredale, prif hanesydd ar Sempringham, am iddo fod yn gyfrifol am roi y contract allan i godi'r gofgolofn a hefyd am arolygu y gwaith adeiladu.

Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.

"Yr oedd diolch yn ail pwysig iawn ym mywyd Alun", dywedodd y Parchedig Emlyn Richards yn y deyrnged.

Diolch byth.

'Dim diolch,' meddai Huw gan ymgladdu dan ddillad y gwely.

Cafodd y gwesteion a'r aelodau dipyn o swper cyn mynd adref - diolch i bawb a gyfrannodd tuag at y bwyd.

'Rydw' i'n dda iawn, diolch i'r Hollalluog, ac yn llawer gwell na'm haeddiant.

"Diolch byth," meddai lona.

Felly hefyd ein ffrind o'r Rhosfawr, diolch am feddwl a sylweddoli.

Hoffwn fynegi ein diolch i'r Parchedig Billy Ind, Esgob Grantham, am ei ymdrechion ar ein rhan a hefyd i Mr Wilford, Archaeolegydd Lincoln, am ei gefnogaeth.

Ar ôl diolch am allu i'w fwyta, clywaf ef yn dweud, "Er i mi dreulio bron i hanner can mlynedd ar y môr fy hoff sŵn yw si awel ysgafn dros barc o geirch aeddfed." Credaf fod gwên radlon yr "hen Grynwr" ar y bocs ceirch yn ysbrydiaeth iddo hefyd.

Diolch i ti am y caredigrwydd hynny tuag ati, o leia - mae'n siŵr y byddai hi'n gwerthfawrogi hynny o gyfeillgarwch oddi wrth ei ffrind." "Mae'n amlwg fod y syniad hwnnw wedi croesi dy feddwl di, neu faset ti ddim wedi son am y peth, felly paid a bod mor hunangyfiawn gyda fi.

Yn y gynhadledd hon y penderfynwyd cyhoeddi - diolch i'r Weinyddiaeth - Atlas Ceredigion, Detholiad o Bant a Bryn, Cerddi Gwlad ac Ysgol, Stori%au o Chwedlau Sir Aberteifi a Cen Ceredigion.

Diolch i ti am ddod." "Croeso'n tad.

Parhaodd y rhaglen My Dog's Got No Nose i fwrw golwg ddychanol ar nodweddion a diwylliant Cymru, diolch i dîm talentog o awduron a pherfformwyr sy'n adeiladu ar eu llwyddiant gyda chyfleoedd teledu.

Diolch byth bod yr hen roddwr hael yn cymryd ei dalu mewn darnau plastig meddyliaf wrth fy hun wrth ymuno â'r ffyliaid dyledus eraill sy'n llifo o gwmpas honglaid o warws a'i lond o deganau a rheiny res ar res o'r llawr i'r to ugain troedfedd a mwy uwch fy mhen.

Yn wyneb hyn, gellir ond diolch i'r drefn mai nid yr hyn a wnawn ni sydd yn ein gwneud ni'n seintiau, ond yr hyn a wnaeth Crist drosom ni.

Llongyfarchiadau cynnes a diolch i Tony Jones am ei lafur a'i ymroddiad.

'Diolch yn fawr, Doctor,' meddai Llio.

Dyma, yn sicr, destun diolch.

'Diolch o galon i ch eto,' meddai Llio.

Diolch calon hefyd i'r Cyng.

Bellach daeth yn bosibl, diolch i ymchwiliadau'r diweddar Emyr Gwynne Jones, Dr Geraint Bowen a Dr Geraint Gruffydd i wneud amgenach cyfiawnder ag ymdrechion yr ychydig Gatholigion a sylweddolai bwysigrwydd mynegi eu hargyhoeddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r llawlyfr bychan 70 tudalen gan Bethan Mair a Meleri Wyn James yn cynnig canllawiau - yn hytrach na chynghorion - ynglyn â phob agwedd o drefnu priodas o'r ddyweddïad i'r mis mêl a'r diolch am yr anrhegion.

Ar ran holl ddarllenwyr Cymraeg, felly, fy mhleser digymysg i yw diolch o galon iddynt am eu llafur.

Diolch i'r Tad am hynny.

'Diolch am yr esgus i gael pum munud bach.

Cofiwn heddiw gyda diolch am ymdrech a llafur arbennig y tadau i'w godi.

('Churching' yw'r enw Saesneg ar yr arfer.) Y mae'r arfer hwn yn seiliedig ar yr hen goel mai gweithred amhur oedd geni plentyn ac yn arbennig ar yr awydd i roi diolch i Dduw am eni plentyn newydd i'r byd.

Rwy'n diolch i'r Arglwydd am flynyddoedd fy nedwyddwch gyda'r Teulu Mawr, a chyda'th rieni a thithau.

Oes gen ti awydd diferyn i'w yfed cyn mynd i'r gwely?" "Dim diolch .

Yn arbennig, diolch i Mrs Eurwen Parry a'r merched fu'n gweithio'n galed ar gyfer y noson.

Diolch yn fawr i bawb.

Diolch hefyd i'r Cyngor Cymuned am eu rhodd anrhydeddus fydd yn galluogi'r pwyllgor i rannu 'wyau Pasg' eleni eto.

'Diolch byth 'mod i wedi yfed gormod o de i frecwast bore 'ma, neu fyddwn i ddim wedi dod 'ma .

Cymerodd eu harian heb ddweud diolch, a heb godi ei ben o'i bapur hyd yn oed.

Diolch i bob un ohonynt am eu harweiniad ac i Dduw am arwain.

Teimlent eu bod wedi tarfu digon ar no erbyn hyn ac yntau'n amlwg yn ddyn prysur felly dechreuodd Llio gasglu ei phethau at ei gilydd a diolch iddo am ei help.

Diolch i'r drefn nad oedd y glas o gwmpas.

Diolch i gyfarwyddwyr a staff y canolfannau am eu cyd-weithrediad yn y gwaith o gasglu'r wybodaeth.

Bant â ti, a phaid, da ti, â bod mor ddwl y tro nesa!' 'Diolch, Mr Llew,' meddai Idris yn werthfawrogol, ond cyn iddo gael cyfle i ddweud rhagor, roedd y llew eisoes ar ei ffordd, yn hanner chwerthin rhyngddo ac ef ei hun wrth ddiflannu i berfeddion coedwig gyfagos.

Diolch i chi, Mrs Jenkins.

Diolch i'r ffrind o Libanus am ei diddordeb ymarferol yn ein cronfa a'n cynnwys, ac y mae Jack Chapman yn cofio ati.

- gwaith pellach o fewn yr adran: bywiogrwydd yr hyfforddwr cenedlaethol yn sbardun i lawer ac yn ennyn admygedd a diolch yn gyffredinol;

Diolch i Dduw amdanynt.

Diolch i Mrs Margaret Jones, Cafnau, am drefnu diwrnod mor ddifyr i ni.

Dafydd Wigley oedd y cyntaf i darfu rhywfaint, diolch byth, ar y tangnefedd gyda chais ymosodol am ddatganiad ar y sefyllfa ddiweddaraf i sicrhau arian cyfatebol ar gyfer cronfeydd Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Gofynnai llawer un i mi pan gwrddem yn nes ymlaen: 'Pam na fyddech chi wedi aros i ni roi diolch i chi?'

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

CONSYRN: Mae'r Parchedig a Mrs Gordon Owen, Ficerdy, yn dymuno diolch i bawb, oddi mewn i'r gymuned ac oddi allan, am bob arwydd o gynsyrn a ddangoswyd tuag atynt mewn canlyniad i waeledd annisgwyl eu mab.

Methai Merêd â diolch digon i Mali a Robin am eu gofal a bu Dilys hithau'n ddigon hael; ei diolch cyn ymadael.

Mae'r drydedd broblem yn broblem sy'n effeithio arnaf i, o fewn y palas, a neb arall, diolch byth.

Diolch byth!

Gyda'n pecynnau bwyd - diolch eto i Elin - yn ein dwylo, i lawr â ni at Eglwys Nanhyfer yng nghwmni ein tywysydd lleol Lyn Lewis Dafis, neb llai na golygydd y cylchgrawn hwn.

Ond, yn ôl y patrwm clasurol, daeth llwyddiant gyda'r drydedd ymgais, diolch i gwrteisi a huodledd Gwalchmai.

Er bod yr Eisteddfod i weld yn bell iawn i ffwrdd erbyn hyn a bod Dolig bron a bod yr un mor agos mi hoffwn gychwyn drwy edrych yn ôl ar yr wythnos boeth honno yn Awst a diolch i bawb fu o gymorth i'w gwneud hi yn wythnos mor lwyddiannus.

Gwasgodd Cadi fraich Huw, "Diolch i chi, Huw, am ddwad â ni yma." Rhoddodd Huw ei ben i lawr yn swil a gwrido, ond gwenodd yn hapus.

Diolch i Cwl Cymru mae bellach yn boblogaidd bod yn Gymro neu Gymraes, ac adlewyrchwyd y diwylliant ieuenctid Cymraeg yng nghynyrchiadau BBC Radio Cymru, yn arbennig y pwyslais ar slotiau cerddoriaeth gyfoes llawn bywyd a rhaglenni bywiog i ieuenctid.

Cynhyrfodd hyn y gynulleidfa ac aeth yn wylo cyffredinol a llawer yn gweiddi, "diolch iddo%.

Mae gan BBC Cymru ran arwyddocaol i'w chwarae wrth gyflwyno ysbryd Cymru ai phobl i gynulleidfa eang ledled Prydain diolch i ystod amrywiol o raglenni o ansawdd uchel.

Caf brofiadau go amheuthun yn fy henaint, a diolch amdanynt.

Diolch yn fawr am un ateb cywir yn y gystadleuaeth olaf.

A diolch yn fawr i Emlyn a Mair am gofio amdanom, diolch am eu cefnogaeth.

Diolch i rai aelodau am adael imi wybod am eu gweithgareddau, rhaid ichwi fodloni ar fy ngwybodaeth i fy hun am y lleill.

Ac mae fy annwyl wraig yn fyw, diolch byth, a does gen i ddim ni~h o'r enw Gwenno, yn anltodus!

Rhyfeddai pa mor agos y daeth at gael ei ddal 'Diolch am ddod yn ôl gyda mi ar unwaith 'machgen i,' meddai'r wraig.

Diolch yn fawr iawn iddi am gofio mor anrhydeddus amdanom.

Dyna sut y byddent yn diolch am y croeso a gaent yno.

Mae te (chai) yn hollbresennol, diolch am hynny, oherwydd mae'n rhaid yfed rhywbeth, ac mae dŵr yn beryglus.

Diolch fod y Brifysgol wedi cydnabod ei gyfraniad trwy roi iddo Radd Meistr yn y Celfyddydau er anrhydedd.

Diolch byth, meddyliodd Alun, ni fyddai raid poeni lle'r oedd yr haul.

Nid fy acen i'r tro hwnnw oedd yn milwrio yn fy erbyn, ond na, diolch yn fawr, 'doeddan nhwtha' ddim yn ystyried bod deunydd milwr yno' i, chwaith!

Diolch yn fawr i'r Bwrdd Golygyddol a'r gohebydd am gyhoeddi yn yr Hogwr ganlyniadau cystadlaethau yn Llanelwedd.

"Yn dda iawn diolch.

Toc dyna'r dyn ieuanc yn rhoi gwawch uchel: 'Diolch, etc.' Ac ymhen ychydig neidiodd y ddynes ieuanc i fyny gan weiddi a churo ei dwylo a chicio'r sêt, nes daeth rhywrai i fynd â'r ddau aflonyddwr allan i ddod atynt eu hunain.

Mae'n diolch i Glyndwr a Gwen yn fawr, am eiriau, am weithredoedd a chyfraniadau cyfoethog.

A diolch am y posibilrwydd hwn.

Pan ddaeth Y Cymry, diolch i ysgolion Griffith Jones, yn bobl lythrennog, yr oedd y Gwyddelod, fel y Llydawyr a'r Sgotiaid Gaeleg, yn anllythrennog; yng Nghernyw ac Ynys Manaw yr oedd yr ieithoedd brodorol wedi marw neu ar farw.

Dros Gymru, diolch i'r drefn, mae Allan Bateman yn parhaun rym syn deall y gêm ac yn gallu pasor bêl drwyr dacl.

Diolch hefyd ma yr holl gardiau, llythyrau, a'r rhoddion a dderbyniwyd er cof tuag at Ymchwil y Galon.

Cododd cymylau o lwch i'r aer a dechreuodd tanau bach hwnt ac yma, ond diolch i rybudd gwyrthiol yr anifeiliaid ni chafodd unrhyw un ei anafu.

'Diolch.' Estynnodd ei llaw.

Diolch iddynt hwy ac i Myrddin am gael cyhoeddi'r gerdd.