Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

direidus

direidus

Wedi'r cyfan, nid ei ansoddeiriau cymwys, er bod y rheini ganddo, nid saerni%aeth gymesur mewn ysgrif a phennod, yw gogoniant Owen Edwards, ond ei ddarluniau o ddarn o wlad; ei bortreadau o ddynion a gyfarfu; ei ddoniolwch direidus; ei hynawsedd a'i radlonrwydd; yr ychydig wermod weithiau pan wêl "wyneb coch rhyw Philistiad o Sais ariannog"; ei onestrwydd unplyg wrth gofio am Gymru yn yr Eidal neu Lydaw, a dewis ei moelni digelfyddyd crefyddus hi o flaen pob ysblander lliw a chyfoeth.

Fel yr wyf wedi disgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn oed pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr.

Yn y gorffennol ni chofiaf inni erioed gael ein disgrifio ag ansoddair cryfach na direidus.

Yr oeddem i gyd yn blant direidus, felly mae'n ddigon tebyg nad oedd o'n unig euog.

Rhyw enw anwes oedd 'Polly' neu lysenw direidus, efallai, ar y dechrau.