Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirmyg

dirmyg

Edrychodd yn fuddugoliaethus ar Nel ac ychwanegu gyda dirmyg lond ei lais, 'Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ein dau'.

Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.

Testun dirmyg oedd y Crynwyr gan mwyaf, ond yn y blynyddoedd ar ôl pasio Deddf y Tai Cyrddau edrychid arnynt gydag ofn hefyd.

Hawdd addo y byddai gwawd a dirmyg y sothach newyddiadurwyr Saesneg yn llaes feunyddiol.

Traddodiad o ddioddef dirmyg ac erlid yw traddodiad amddiffyn politicaidd i'r iaith Gymraeg.

Edrychodd Morfudd arno mewn dirmyg o'i gorun i'w sawdl.

Nid oes gennyf ychwaith ddim ond dirmyg at y sawl sydd y ntorri Streic, oherwydd ar eu llwfrdra y mae'r Llywodraeth hon yn dibynnu ac nid ar synnwyr cyffredin a chyfiawnder.

A gwaetha'r modd, y mae Saeson yn rhai hawdd iawn i'w perswadio i edrych gyda dirmyg ar bawb nad ydynt yn Saeson.

Y sil don ...' Ond ni ddôi cynghanedd y tro hwn, a thaflodd y llyfr mewn dirmyg ar y bwrdd.

fwydo ei wynfyd, neu ar ddiwrnod pan ddisgyn y glaw megis rhaeadr o nodwyddau dur; eto yn fynych gorfod gostegu yw tynged y glaw o dan gryfder ynni a dirmyg gwynt a ddaw yn syth o'r fan lle mae crud a bedd yr oerni bythol wedi ymgartrefu ar y rhewfil sydd yn sgleinio'n ddiog, ac yn ddi-ildio.

Yr oedd yr ychydig a wrthododd roddi gwasanaeth milwrol yn y rhyfel hwnnw wedi dioddef dirmyg ac erledigaeth, a charchar gan amlaf.

Trawsgyweiriad ingol a dryslyd yw'r un o lwyddiant a dylanwad i ddistadledd a dirmyg.

Anghofia' i fyth weld marines ifanc oedd newydd dreulio misoedd yn denu dirmyg y cymunedau cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon yn cael eu croesawu fel arwyr ar strydoedd Zacco a threfi eraill gogledd Irac.

Sen ar ddeallusrwydd a hunan-barch unrhyw newyddiadurwr profiadol fyddai cael ei gyflogi'n unig i ddarllen sgriptiau a baratoir gan rywun arall -: does dim rhyfedd felly fod yr ysgrifenwyr yn tueddu i edrych ar y rhai a gyflogir fel darllenwyr yn unig - â pheth dirmyg nawddogol Sylweddolir nad oes cyfle i ymarfer rhyw lawer o ddawn greadigol wrth ysgrifennu newyddion ­ credir fod angen llai fyth o ddychymyg i'w darllen.