Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirprwywyr

dirprwywyr

Cadwodd y Dirprwywyr at y cyfarwyddyd hwn hefyd.

Dadl David Griffiths yw ei bod yn ffasiwn i ystyried mai gwŷr galluog, talentog, cydwybodol, ond wedi eu camarwain, oedd y Dirprwywyr.

Yr oedd y cyfarfod yng Nghaerdydd ddiwedd mis Chwefror yn un o gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus a drefnwyd yn fuan wedi dechrau'r flwyddyn i wadu honiadau'r Dirprwywyr a'u tystion.

Rhaid ceisio gweld yr Adroddiadau fel esiamplau o anallu llwyr Dirprwywyr o gefndir cymdeithasol, crefyddol, cenedlaethol a dosbarth rhai tebyg i Lingen i ddeall sut y gallai unrhyw un feddwl am gefnogi'r fath fudiadau.

Nid oes lle i amau na fu'r Dirprwywyr yn dra-diwyd wrth gasglu manylion perthnasol.

Ymddangosai pamffledyn Ieuan Gwynedd fel amddiffyniad wedi ei amseru'n berffaith i ateb ymosodiadau'r Dirprwywyr ar gymeriad y Cymry: 'Pe buasai yr Awdur yn gwybod pob gair a gynwysai yn adroddiad y Dirprwywyr', meddai'r Diwygiwr ym mis Ionawr, 'ni ysgrifenasai well ateb i'w cabldraethau ar wlad ei enedigaeth.

Gwelodd y Dirprwywyr fod uchelgais draddodiadol ysgolion yr Eglwys o wasanaethu plwyfi unigol nid yn unig heb ei chyflawni ond na ellid ei chyflawni byth, gan fod y drefn blwyfol ei hun wedi ymddatod.

Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.

Ond os cynhyrfwyd y protestwyr gan sylwadau'r offeiriaid lleol, gwelent hefyd fod y Dirprwywyr ar fai oherwydd cu dull o gasglu tystiolaeth a'r modd yr aethant ati i weithredu cyfarwyddiadau'r Llywodraeth.

Byddai hynny'n gyson â dadleuon addysgol y Dirprwywyr, yn arbennig ddadleuon y mwyaf di-flewyn-ar-dafod ohonynt, J.

Nid oedd y Dirprwywyr yn cyfyngu eu hymweliadau i leoedd diwydiannol; byddent yn ymweld â phob sir, gan adrodd gyda'r un trylwyredd ar ysgolion mewn ardaloedd gwledig a'r cymunedau yr oeddynt yn eu gwasanaethu.

Dadleuodd Frank Smith, a sgrifennodd gofiant i Kay-Shuttleworth, fod y gorchymyn i'r Dirprwywyr i ymchwilio i 'foesau'r' Cymry yn dod o ymyrraeth rhywun anhysbys â'r cyfarwyddiadau gwreiddiol yr oedd Kay-Shuttleworth wedi eu paratoi yn ei fraslun.

Nid oedd gan y Dirprwywyr ronyn o gydymdeimlad.

Roedd rhai pethau wedi newid, a hynny er gwaeth, er enghraifft, meddwdod a chyflwr tai, a chyfleusterau carthffosiaeth fel yr amlygwyd hwy yn ail adroddiad Dirprwywyr iechyd trefi gan Syr Henry De la Beche.

Pwysleisiodd Kay-Shuttleworth fod rhaid i'r Dirprwywyr fod mor '...' â phosibl yn eu sylwadau os oedd yr Adroddiadau i fod o unrhyw werth.

Rhybuddiwyd y Dirprwywyr i ddal sylw manwl ar yr ysgolion Sul yng Nghymru, ac roedd yr ymraniadau enwadol yn siwr o fod yn eithaf cyfarwydd i Ysgrifennydd Pwyllgor y Cyfrin Gyngor ar addysg ...

Gwyddai'r Dirprwywyr yn burion beth oedd pwysigrwydd canolog iaith ble bynnag y byddent, yn Lloegr a Chymru fel ei gilydd.

O gofio'r cefndir hwn, roedd teimladau'r Dirprwywyr wrth iddynt ddod i mewn Gymru yn ddigamsyniol.

Roedd pob dim yn fwyd a diod i'r Dirprwywyr: gwaddoliadau, amodau materol, daliadaeth, maint ysgolion, y plant, ynghyd â dadansoddiad o'r athrawon a'u cefndir.

Ceid ynddynt gadarnhad o'r hyn a wyddai'r Dirprwywyr dros Godi Eglwysi a'r Gymdeithas Adeiladu Eglwysi, bod diffygion argyfyngus yr eglwys a'r ysgolion yn nodweddiadol nid yn unig o ardaloedd dinesig, ond yn gyffredin trwy ardaloedd gwledig Lloegr a Chymru.

Enwau Derfel ar y Dirprwywyr Lingen, Johnson a Symons oedd Haman o Goleg Belial (Meistr yr Holl Asynnod) - yr oedd Lingen yn gymrawd o Goleg Balliol - Judas Iscariot a Simon y Swynwr.