Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirwasgiad

dirwasgiad

Aflonyddwch yn y maes glo oherwydd y dirwasgiad.

Mae'r awdl hefyd yn creu darlun trist o'r dirwasgiad a ddaeth i ardal y chwareli llechi wedi i'r economi cenedlaethol wegian, a chau'r chwareli fesul un wrth iddyn nhw orfod cystadlu â deunydd toi rhatach o wledydd eraill.

Nododd fod cymunedau Cymraeg yn cael eu bygwth gan y dirwasgiad a diweithdra, a bod gwasanaethau iechyd a llyfrgelloedd yn cael eu cwtogi.

Felly pan ddaeth y dirwasgiad enbyd ar ôl y rhyfel byd, Cymru a ddioddefodd gyntaf a Chymru a ddioddefodd waethaf.

Yr oedd y Rhyfel Degwm yn frwydr economaidd yn y bon, wrth gwrs, oherwydd y sbarc a gynheuodd y tan oedd y dirwasgiad amaethyddol ar ddechrau wythdegau'r ganrif ddiwethaf.

Er y cymylau cyson fe welwyd haul ar fryn yma ac acw, ac er y dirwasgiad hirhoedlog cafwyd llwyddiant a chynnydd yma o fewn yr eglwys yn Seilo a hefyd o fewn yr eglwys yn y byd.

Yn amlach na pheidio, âi pob gofyniad o eiddo'r gweithwyr i rownd derfynol y gyfundrefn, lle 'roedd y cymrodeddwyr yn grintachlyd iawn eu dyfarniad oherwydd y dirwasgiad masnachol.

Er waetha'r ffaith fod y diwydiant hysbysebu yn cwyno dan effeithiau'r dirwasgiad byd eang, nid ydw i, yn bersonol, am golli cwsg drosto.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Y dirwasgiad hir yn cychwyn.

Y dirwasgiad hir yn cychwyn.

'Roedd y diwydiant glo a fu unwaith yn talu am y bywyd bras yn awr yn dechrau dioddef dirwasgiad eto.