Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirywiad

dirywiad

Cytunwn, wrth gwrs, mai son am y sefyllfa yn gyffredinol a wnawn ac mai ar raddfa lai y gwelir y dirywiad mewn ardaloedd gwledig, megis Uwchaled.

Dim ond un agwedd o'r dirywiad yng Nghymru yw argyfwng yr iaith.

Yn ystod sesiwn yr haf safai'r defnydd o'r Gymraeg ar 12.1% ond erbyn sesiwn yr Hydref (hyd 23 Tachwedd) roedd y defnydd o'r Gymraeg wedi disgyn i 10.8%. Efallai ar yr wyneb nad yw hyn yn ymddangos fel dirywiad sylweddol.

Yr oedd yn drist gweld y dirywiad yn ei wedd mewn pum mlynedd.

Er hynny, byddai ein hynafiaid yng Nghefn Brith yn falch o weld fod y Capel yma o hyd ac wedi ei addasu gogyfer ag anghenion y gynulleidfa sy'n cwrdd yno heddiw, er cymaint yw'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd yn ystod oes y rhai hynaf ohonom.

Y diffyg prisio hwn ar werth yr iaith sydd wedi arwain at ddiffyg hyder wrth ei defnyddio ac felly dirywiad yn y nifer sydd yn ei siarad.

Gwelwyd dirywiad enbyd yn y brwdfrydedd hwn yn y chwe degau am amryw resymau, nid y lleiaf ohonynt ddatblygiad y cyfryngau.

Ystyrir atal y dirywiad hwn, a'i wrthdroi lle bo hynny'n bosibl, yn flaenoriaeth.

Arwydd dirywiad mewn eglwys, meddai, yw iddi ymyrryd yn y maes gwyddonol er bod crefydd yn faes y gallai'r gwyddonydd gymryd diddordeb ynddo o'i safbwynt ei hun.

Pryder ynglyn â chrebachu'r iaith yn y cadarnleoedd, ei dirywiad fel iaith gyntaf ar yr aelwyd, ac yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau 'traddodiadol'; gobaith ynghylch y cynnydd yn niferoedd y bobl ifanc sy'n ei siarad, y cynnydd yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau newydd ac yn y cyfleoedd newydd i'w defnyddio.

Gwelwyd y dirywiad mwyaf yn yr ardaloeddgwledig Mewn aradloedd fel Trearddur, Moelfre, Llanfair-yn-neubwll, Brynteg a Llanbedr - goch yr oedd 40% o'r boblogaeth wedi ei geni y tu allan i Gymru a thros 40% o'r boblogaeth hynny yn uniaith Saesneg.

Bydd y ffigurau hyn yn dangos dirywiad yn y defnydd o'r Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Wrth lansio'r ddogfen bydd y Gymdweithas hefyd yn rhyddhau ffigurau manwl sy'n dangos fod dirywiad wedi bod yn y defnydd o'r Gymraeg ar lawr y Cynulliad ei hun (nid yw'n bosib gwneud dadansoddiad o'r defnydd o'r Gymraeg yn y cyfarfodydd pwyllgor).

Mae'n deg cydnabod hefyd fod dirywiad wedi digwydd yn y Felinheli: 'Roedd cyfnod y chwarel a'r cei yn un llewyrchus iawn i'r pentref, ac amryw o fusnesion eraill yn ffynnu o'r herwydd, nifer dda o wahanol siopau a phawb i weld yn gwneud busnes, pob cwsmer yn cyfrif, a'r cwsmer yn iawn os y byddai unrhyw wahaniaeth barn.

Nid ffenomen sydyn a ddigwyddodd yn sgil y Rhyfel oedd y dirywiad crefyddol.

Lledodd paganiaeth a seciwlariaeth fel pla dros y wlad a bu dirywiad amlwg ymhlith y rhai sy'n eu galw eu hunain yn Gristionogion.

Beth fyddai eu hymateb i'r dirywiad crefyddol a ddigwyddodd wedi eu cyfnod hwy?

Cyflawnwyd hyn trwy reoli costau'n llym er gwaethaf y dirywiad mewn incwm masnachol o BBC Cymru.

Y mae'r anobaith a'r dicter a ddaw yn sgil y dirywiad cymdeithasol hwn yn mynegi ei hun yn aml trwy gyfrwng fandaliaeth, alcoholiaeth, cyffuriau a thrais etc.

Yr oedd Gwedir wedi camfesur dylanwad teulu Cefn Amwlch ac yn yr ornest, John Griffith a gariodd y dydd a dyma ddechrau'r dirywiad yn nylanwad teulu Gwedir.

Gwaeth mewn llawer ffordd yw'r dirywiad ysbrydol.

Oherwydd gostyngiad sylweddol yng nghanran y Cymry fu'n mynychu'r ysgolion hyn yn ystod y ddegawd ddiwethaf bu dirywiad ym medr a gafael y Cymry ar eu mamiaith.

Yn wir, mae'r dirywiad i'w briodoli yn fwyaf arbennig i ddiffyg disgyblaeth rhieni a'r llyffetheiriau a roddir ar athrawon i ddisgyblu mewn Ysgolion.

Cysylltai'r dirywiad materol a welodd yn sir Fynwy â'r duedd at derfysg cymdeithasol.

Mae hyn yn dilyn dirywiad o 14% a fu rhwng 1951 ac 1991.

Rhaid ystyried trafnidiaeth hefyd wrth ymdrin â dirywiad yn yr ardal.

Gwelwyd y dirywiad mwyaf yn yr ardaloedd gwledig.

Gan fod y prif reswm dros y dirywiad yn un economaidd, dylid ystyried yr holl ffactorau economaidd a sosio-economaidd a allai effeithio ar yr iaith wrth ymdrin ag atgyfnerthu'r iaith yn y gymuned.

Llwydda Shoned Jones i ddarlunio dirywiad perthynas a'r amheuon a'r twyll sy'n dod yn sgil y dirywiad yn fyw iawn gan osgoi'r melodrama all ddod i'r golwg mor rhwydd mewn stori fel hon.

Gellir dweud fod sawl ffactor yn gyfrifol am y dirywiad hwn.

Rhaid cyffesu fod dirywiad y traddodiad canu mewn llawer capel wedi bod yn ergyd ddwys i'r swn llawen y mae'r Salmydd yn ei annog.

Yn aml, mae dylanwad llywodraeth ganolog a lleol yn gwaethygu'r dirywiad trwy ddilyn polisiau o ganoli cyfleusterau yn y trefi mwy; mae'n dilyn hefyd mai yno mae'r gwaith.

Trafod y Gosodiadau a'r Dulliau gwarantedig, a hefyd Dulliau y Clerwyr yng nghyfnod y dirywiad, fel y soniwyd yn ddiweddar, a bydd yn drafodaeth agored, a rhyddid i bawb sôn am un neu ragor o'r cyfryw ddulliau.

Ond, er gwaetha'r cynlluniau datblygu, mae'r bobl hyn yn colli'r frwydr yn erbyn dirywiad y tir; does yna ddim digon o fuddsoddiad tramor.

Mae swyddogaeth gymunedol yr ysgol bentref wedi dod yn bwysicach yn siroedd Dyfed yn ystod y ddegawd ddiwethaf oherwydd dirywiad yr iaith yn y cymunedau ehangach a dyfodiad y polisi iaith newydd i ysgolion y siroedd.