Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dirywio

dirywio

Maent yn rhwbio eu hunain gymaint fel iddynt golli gwlan a dirywio yn eu cyflwr yn gyflym iawn.

Yr adeg honno roeddynt yn dai hardd mewn rhan ddymunol o'r dref, ond dros y blynyddoedd, wrth i'r perchenogion heneiddio oedd cyflwr eu tai wedi dirywio.

ù Sylweddolwn fod y gymdeithas yr wyf wedi'i disgrifio uchod yn uned ~iach' yn gymdeithasegol, ond er hynny yn dirywio o ran poblogaeth.

Swyddogaeth gwladwriaeth yw gwasanaethu'r genedl, fel y mae'r wladwriaeth Brydeinig yn gwasanaethu Lloegr, a thrwy hynny gryfhau a chyfoethogi ei bywyd cymdeithasol a thraddodiadol Yn amgylchiadau'r ugeinfed ganrif y mae bron yn amhosibl i genedl ymgynnal heb wladwriaeth i'w gwasanaethu; edwino a dirywio yw tynged pob cenedl ddi-wladwriaeth.

Bu'r wlad yn dirywio'n raddol am bedair canrif.

Ar y cychwyn yr oedd perthynas Ferrar â George Constantine yn ddigon cyfeillgar ond dirywio a wnaeth hi a phan oedd Thomas Young yn priodi merch Constantine, gwrthododd Ferrar gymryd unrhyw ran yn y gwasanaeth.

Gyda phob Cwpan y Byd sy'n mynd heibio, mae'r angen hwnnw'n dod yn gryfach, gan fod safon y cystadlaethau wedi dirywio cymaint yn ddiweddar.

Yn hytrach na ffynnu i fod yn Awstralia America Ladin, roedd y wlad wedi dirywio cymaint nes ei bod yn cael ei hadnabod fel Albania'r Cyfandir.

Nid oedd unrhyw arwydd fod poblogrwydd operâu sebon yng Nghymru yn dirywio a pharhaodd Eileen i gynnal diddordeb y gwrandawyr.

Collodd bob archwaeth at fwyd ac roedd yn dirywio'n gyflym.

Mae'r Capeli'n dirywio'n fawr, y nifer sy'n eu mynychu'n lleihau a'r adeiladau'n cael eu gwerthu ac ati.